Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut allaf i fod yn rhan o'r ateb i fynd i'r afael â Newid Hinsawdd?

Bydd yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol yn gofyn i ni oll weithredu. Nod y Cyngor yw bod yn sero-net erbyn 2030 ynghyd â llawer o'r sector cyhoeddus yng Nghymru         

  • Wedi'i lleoli ym Machynlleth, mae Canolfan y Dechnoleg Amgen wedi bod yn ysbrydoli, cyflwyno gwybodaeth a galluogi atebion ar gyfer cynaliadwyedd am dros 45 mlynedd. Trawsnewidiwyd hen chwarel lechi yn ganolfan ymwelwyr ac addysgol i archwilio cynaliadwyedd. Mae ganddynt lu o bethau y gallwch eu gwneud gartref.
  • Ymunwch â grŵp lleol.Ewch i Ganllaw Gwyrdd Powys i ddarganfod a oes grŵp gweithredu lleol yn eich ardal chi.
  • Am gyngor cyffredinol ar lefel unigol, mae gan Possiblerestr o ddeg peth y gallwch chi eu gwneud.
  • Ailgylchwch gymaint ag sy'n bosibl, mae gennym gyfarwyddyd ar ein tudalennau ailgylchu.
  • Sicrhewch fod eich cartref yn gwrthsefyll drafft ac wedi'i inswleiddio. Ystyriwch ddiweddaru hen system wresogi gan gynnwys defnyddio pympiau gwres. Mae Cymru Gynnes yn cynnig nawdd at rai mesurau ar gyfer y sawl sydd mewn angen trwy grant  Eco Powys.  Mae manylion ar ostwng colli gwres yn y cartref gan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni. 
  • Ar gyfer y sawl sydd y tu allan i'r rhanbarth ac yn edrych am Gyngor sy'n ymroddedig tuag at weithredu ar yr hinsawdd, dyfeisgarwch ar yr economi cylchol, ynni 100% adnewyddadwy a mwy, beth am symud i ganolbarth Cymru?
  • Hyrwyddwch Powys fel lle gwych ar gyfer 'Gwyliau Gartref' (Staycations), mae cyfoeth o wybodaeth gan ein tîm twristiaeth ar midwalesmyway
  • Dewiswch opsiwn carbon isel wrth siopa. A yw'r cwmni rydych yn prynu oddi wrtho yn cefnogi eich gwerthoedd ac yn mynd i'r afael â newid hinsawdd? Ystyriwch gefnogi eich busnes lleol #PrynuLleolPowys
  • Gallwch ddysgu am hinsawdd, natur a llawer iawn mwy gan ein gwasanaeth llyfrgelloedd. Trwy Borrow Bow,gallwch gael eLyfrau ac elyfrau Clywedol i'w mwynhau gartref.  
  • Siaradwch am newid hinsawdd yn eich bywyd bob dydd, gyda rhagor o wybodaeth oddi wrth Talk Climate.
  • Os ydych o fewn y gymuned ffermio ac amaethyddol, edrychwch am gyngor oddi wrth Gyswllt Ffermio ar ostwng nwyon tŷ gwydr a chynyddu elw, gwaith gan IBERS (Prifysgol Aberystwyth) megis glaswellt sy'n tyfu'n gyflym ar gyfer Bio-ynni a mwy neu'r gwaith gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) ar Gyflawni Sero-Net.
  • Ystyriwch yr hyn y gallwch ei wneud yn eich gwaith hefyd. A fydden nhw yn ymuno yn y ras hyd at sero?

Digwyddiad Hinsawdd a Natur Powys i Gynghorau Tref a Chymunedol

Cynghorau Tref a Chymuned Powys Amgylchedd a Natur Pecyn Adnoddau’r Digwyddiad (PDF) [423KB]

A oes unrhyw beth arall yr hoffech ei gynnwys ar y dudalen hon? Ateb allweddol i newid hinsawdd sy'n cael ei ddatblygu ym Mhowys? Grŵp cymunedol sydd heb ei restru eto? Dewch i gysylltiad â ni trwy anfon neges e-bost at climate@powys.gov.uk.

Tîm Datblygu Economaidd ac Adfywio

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu