Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Partneriaeth Flaengar Powys

Mynd i'r afael â'r Argyfwng yn yr Hinsawdd a Bioamrywiaeth

Er eu bod yn arafach yn dod i'r amlwg, mae'r argyfyngau yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth yr un mor niweidiol yn yr hirdymor, o'u cymharu â'r argyfyngau tai a chostau byw. Trwy gymryd camau arwyddocaol cyn gynted â phosibl, gallwn leihau cymaint ag y gallwn yr effaith negyddol ym Mhowys ond bydd hefyd yn ei wneud yn llawer haws i gymunedau newid i ffordd o fyw mwy cynaliadwy.

Byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid eraill ac yn ymgynghori â'r cyhoedd wrth ddatblygu strategaeth argyfwng yr hinsawdd ar gyfer y sir gyfan; a byddwn yn buddsoddi mewn galluogi rhoi hyn ar waith. Byddwn yn defnyddio asedau'r Cyngor i ddangos arweinyddiaeth glir o ran cyrraedd allyriadau carbon sero net ar ran Cyngor Powys erbyn 2030 ac yn gweithredu rhaglen pum mlynedd i ddatgarboneiddio cerbydau'r Cyngor.

Byddwn yn buddsoddi mewn cartrefi'r cyngor i'w gwneud yn gynhesach ac yn wyrddach, gan sicrhau fod costau ynni'n fwy fforddiadwy i'n tenantiaid.

Byddwn yn hyrwyddo safonau effeithlonrwydd ynni da ym mhob cartref, gan sicrhau fod cyngor annibynnol a diduedd ar gael i'n holl drigolion a landlordiaid er mwyn ôl-osod eu cartrefi.

Byddwn yn defnyddio asedau'r Cyngor i hyrwyddo cynlluniau ynni sy'n eiddo i'r gymuned, i ôl-osod adeiladau er mwyn defnyddio cyn lleied â phosibl o ynni a manteisio i'r eithaf ar y gallu i greu ynni.

Byddwn yn datgarboneiddio ein cadwyn cyflenwi wrth inni gaffael ar nwyddau a gwasanaethau.

Byddwn yn sicrhau fod gan staff y Cyngor a Chynghorwyr yr adnoddau i allu gweithio o'u cartrefi neu o gymdogaeth leol, ble bynnag fo'n bosibl, gan leihau'r amser sy'n cael ei dreulio ar deithio ac allyriadau cerbydau.

Byddwn yn sicrhau y caiff tirddaliadaethau Cyngor Powys eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy i hyrwyddo bioamrywiaeth, cynhyrchu bwyd trwy ddefnyddio dulliau carbon isel, dal carbon a rheolaeth dalgylch dŵr.

Mae cyflwr ein prif afonydd yn dirywio oherwydd llygredd. Byddwn yn pwyso am roi diwedd ar adael i garthion heb eu trin mynd i'n hafonydd, a sicrhau y caiff gwastraff amaethyddol a diwydiannol ei reoleiddio mewn ffordd briodol; a byddwn yn cefnogi tenantiaid ein ffermydd sirol i ddatblygu cyfleusterau storio gwastraff a gwrtaith/slyri priodol.

Byddwn yn sicrhau fod adolygiad o Gynllun Datblygu'r Cyngor yn ystyried yn llawn yr argyfyngau yn yr hinsawdd ac ecoleg, wrth benderfynu ar bolisïau cynllunio.

Wrth benderfynu ceisiadau cynllunio, byddwn yn cymryd camau i alluogi'r effaith gronnus ar yr amgylchedd o ran gorgrynodiad unrhyw fath penodol o ddatblygiad fel ystyriaeth ddilys.

Byddwn yn hyrwyddo ein sir fel sir arweiniol mewn twristiaeth gynaliadwy.  Mae Powys yn cynnig llefydd i ymweld â nhw a mwynhau gwyliau, ac ar yr un pryd gwneud cyn lleied â phosibl o niwed i'r amgylchedd.

Byddwn yn ymchwilio i ddulliau 'torri a chasglu' wrth reoli lleiniau'r ffyrdd er mwyn hyrwyddo bioamrywiaeth.

Mae gan ein tirwedd botensial enfawr o ran cefnogi bywyd gwyllt a dal carbon, a hynny oll mewn economi rheoli tir bywiog. Byddwn yn rhoi cefnogaeth rhagweithiol i bartneriaethau a rhaglenni i gynyddu coetiroedd, gyda'r coed priodol mewn lleoliadau priodol, megis tir anghynhyrchiol ar y dirwedd amaethyddol.  A byddwn yn cefnogi prosiectau sy'n rheoli ein pridd a'n dyfrffosydd er mwyn lleihau llifogydd a chynyddu'r gallu i ddal carbon.

Byddwn yn sicrhau y caiff llythrennedd yr hinsawdd ei hyrwyddo o fewn ein cymunedau, a sefydliadau partner, ac y caiff llythrennedd yr hinsawdd ei ymwreiddio'n well ymhlith Cynghorwyr a staff y Cyngor.