Toglo gwelededd dewislen symudol

Partneriaeth Flaengar Powys

Cefnogi pobl sy'n agored i niwed

Rydym yn ymwybodol o'r pwysau enfawr sy'n wynebu'r Gwasanaethau Plant a'r Gwasanaethau Oedolion ym Mhowys oherwydd y gofynion cynyddol yn sgil Covid a'r argyfwng costau byw, tra bo'r adnoddau dynol ac ariannol dal yn gyfyngedig.  Yn gynnar yn ystod ein gweinyddiaeth, byddwn yn hollol dryloyw ac agored am y pwysau sy'n wynebu ein gwasanaethau er mwyn gallu datblygu cynllun i recriwtio staff a sicrhau'r adnoddau eraill sydd eu hangen i ddarparu gwasanaeth o'r safon sy'n ddyledus i'n trigolion sydd yn agored i niwed.

Powys yw'r unig sir yng Nghymru sy'n rhannu ei ffiniau gyda Bwrdd Iechyd Lleol.  Mae angen brys i gynyddu'r ffordd o integreiddio gwasanaethau iechyd sylfaenol a gwasanaethau gofal cymdeithasol i wella effeithlonrwydd a'r canlyniadau ar gyfer pobl sy'n agored i niwed, a'n cynnig yw cydweithio'n gyflym gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i ddatblygu dull o weithio integredig mor ddi-dor â phosibl rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol. Ni ddylai seilos fodoli sy'n creu rhwystrau diangen rhwng gofal iechyd a gofal cymdeithasol.

Byddwn yn ymestyn cysyniad yr hwb iechyd, sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd yn Y Drenewydd, i ddod â Meddygfeydd, gwasanaethau lleol y GIG a gofal cymdeithasol ynghyd dan un tô ym mhob un o drefi mawr Powys.

Mae canolfannau dydd a chyfleoedd dydd yn wasanaeth pwysig i lawer o bobl.  Byddwn yn cydweithio gyda phartneriaid i gydgynhyrchu cynigion i ddychwelyd i ddarparu canolfannau dydd a chyfleoedd dydd ar lefel estynedig, lle gellir darparu cyfleusterau priodol, modern ac addas i'w pwrpas.

Byddwn yn gweithio i sicrhau cynlluniau cymunedol i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a delio cyffuriau. Mae camddefnyddio sylweddau'n achosi niwed i iechyd ac yn cynyddu ofn ac ansicrwydd mewn llawer o'n cymunedau, felly byddwn yn cydweithio gyda'r Heddlu, y Bwrdd Iechyd a phartneriaid i ddatblygu gwasanaethau cefnogi lleol gwell, gyda dull o weithio a seilir ar iechyd i gefnogi pobl sy'n defnyddio cyffuriau, tra'n cefnogi asiantaethau sy'n gorfodi'r gyfraith i fynd i'r afael â phobl sy'n delio cyffuriau ac unigolion sy'n rhedeg llinellau cyffuriau sy'n ecsbloetio defnyddwyr.