Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Crynodeb Gweithredol Asesiad Digonolrwydd Chwarae Powys 2022

Rhagymadrodd

Pob tair blynedd, rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru wneud Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (PSA) a chynhyrchu cynllun gweithredu blynyddol. Rhaid dangos eu bod wedi ystyried ac asesu'r materion a nodir yn Rheoliadau PSA (Cymru) 2012 ac yn y Canllawiau Statudol.

Mae chwarae'n cael ei gydnabod fel un o'r hawliau sydd gan blant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn - Erthygl 31 a Sylw Cyffredinol 17.

'Mae chwarae'n ymddygiad gan blant sydd wedi'i ddewis yn rhydd, ei gyfeirio'n bersonol a'i gymell yn reddfol. Nid yw'n digwydd i ennill unrhyw nod neu wobr allanol ac mae'n rhan hanfodol ac annatod o ddatblygiad iach - nid yn unig i'r plant eu hunain ond hefyd i'r gymdeithas ble maen nhw'n byw'.

Llywodraeth Cymru "Gwlad sy'n Creu Cyfle i Chwarae" 2012

 

Yn ôl Chwarae Cymru, chwarae yw un o'r ffyrdd hawsaf a mwyaf naturiol i blant o unrhyw oed gael cymryd rhan yn y gweithgarwch corfforol sydd ei angen arnynt. Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru Pwysau Iach: Cymru Iach yn rhestru chwarae fel prif ddylanwad ar ymddygiad pwysau iach mewn plant.

Yn ôl papur Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2019 'Gweithgarwch Corfforol Ymhlith Plant a Phobl Ifanc', mae'r cwricwlwm newydd yn gyfle i wneud mwy o weithgarwch corfforol mewn ysgolion, gan argymell y dylai pob ysgol ehangu mynediad at gyfleusterau gweithgaredd eu hysgol i'w cymunedau lleol er mwyn annog mwy o weithgarwch corfforol y tu allan i'r diwrnod ysgol.

Mae Cyngor Sir Powys yn cydnabod 'fel bod gan blant ddigon o gyfle i chwarae, mae angen amser a lle arnynt i chwarae, a dylai oedolion gydnabod bod hyn yn hawl sydd gan bob plentyn fel bod ganddynt yr amser a'r lle i wneud hynny'.     

Cymru: Gwlad sy'n Creu Cyfle i Chwarae, 2014

Mae'r Asesiad o Ddigonolrwydd Chwarae hwn wedi bod yn gyfle i adolygu ein gwaith a'n gweithgareddau dros y tair blynedd diwethaf ers yr asesiad blaenorol, fel rhan o'r cylch comisiynu. Mae gennym nifer fawr o bartneriaid a rhanddeiliaid ym Mhowys sy'n ymrwymedig i greu cymdeithas sy'n gyfeillgar i chwarae drwy gynnig amrywiaeth o gyfleoedd chwarae a hamdden, ac i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc i ddefnyddio'r cyfleoedd hyn.