Toglo gwelededd dewislen symudol

Crynodeb Gweithredol Asesiad Digonolrwydd Chwarae Powys 2022

Sut wnaethom ni hyn?

Oherwydd cyfyngiadau Covid-19 nid oedd yn bosib i lawer o'r gwaith ddigwydd wyneb yn wyneb, dim ond dros y ffôn ac ar-lein.  Cynhaliwyd cyfarfodydd a thrafodaethau lled-ffurfiol ar-lein â swyddogion proffesiynol arweiniol yn y meysydd polisi a restrir yn y canllawiau ar ddigonolrwydd chwarae; gwahoddwyd rhanddeiliaid a phartneriaid i gyfarfodydd ar-lein i drafod yr asesiad ac e-bostiwyd y bobl hyn i ofyn am ddiweddariad ar eu gwaith ar feini prawf perthnasol.   

Cafodd arolwg chwarae ar-lein a phapur ei anfon at blant, pobl ifanc, rhieni, lleoliadau gwaith chwarae ac ieuenctid, hamdden a darparwyr gofal plant, gweithwyr proffesiynol a chynghorau tref a chymuned.  Yn defnyddio'r arolwg, derbyniwyd adborth gan blant a phobl ifanc mewn digwyddiadau chwarae.

Cynhaliwyd digwyddiadau ymgysylltu, ar-lein ac wyneb yn wyneb lle'r oedd yn bosib, â rhieni / gofalwyr, gweithwyr proffesiynol a grwpiau ymylol.  Cynhaliwyd digwyddiadau ymgysylltu ag ysgolion ar-lein a thrwy Swyddog Lles a Chydraddoldeb Arweiniol Cyngor Sir Powys.  

Casglwyd gwybodaeth gan ffynonellau fel Comisiynu Plant, y Cyd-Asesiad Anghenion Strategol, y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a'r adrannau Addysg, Cynllunio a Hamdden.  Casglwyd data poblogaeth yn bennaf o Fanc Gwybodaeth Lles Powys.