Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Crynodeb Gweithredol Asesiad Digonolrwydd Chwarae Powys 2022

Beth ddywedodd pobl

Derbyniwyd 456 o ymatebion i'r arolwg chwarae o bob rhan o'r Sir gan amrywio, wrth reswm, o ardal i ardal.  Nid oedd y cwestiynau'n orfodol felly roedd y cyfraddau ymateb yn amrywio o un cwestiwn i'r llall.  Ar y cyfan, roedd 57% o'r ymatebwyr yn cael chwarae ar ben eu hunain a 76% gyda ffrind (roedd yn bosib ticio'r ddau opsiwn).  Nid oedd 14% yn cael chwarae na chymdeithasu o gwbl; er nad yn glir, rhagdybiwn mai oherwydd y pandemig oedd hyn.

Pan ofynnwyd iddynt egluro beth oedd yn dda a beth allai fod yn well am chwarae yn eu hardal, roedd y 'da' yn tueddu i ganolbwyntio - ar wahân i bêl-droed - ar yr amgylchedd yn gyffredinol, sydd efallai'n adlewyrchu bywyd mewn Sir dra gwledig.   Ar y llaw arall, roedd 'beth allai fod yn well' yn cynnwys rhestr eithaf penodol o ddymuniadau ac yn adleisio llawer o themâu asesiadau blaenorol. 

Beth sy'n dda

Beth allai fod yn well

Digon o le

Mwy o gyfarpar, mwy o bêl-droed, mwy o goliau

Parciau

Llai o geir, traffig mwy araf

Ffrindiau

Parc sglefrio, parc dŵr, traciau beics

Coed, coedwigoedd, fforestydd

Clwb ieuenctid, mwy o weithgareddau i'r arddegau, lle dan do i gwrdd â ffrindiau

Pêl-droed (dywedodd rai bod bechgyn a phêl-droed yn gallu cymryd lle chwarae drosodd)

Mwy o bethau i blant bach a rhai dan 2 oed

Rhywle diogel

Lle glaswelltog wrth ymyl ystadau fel bod gan blant fwy o ardaloedd lleol i chwarae

Rhywle heddychlon

Bws i gyrraedd cyfleusterau

Llyn yn Llandrindod, canŵs, cychod a phydew tywod

Llai o faw cŵn

 

Ydych chi'n teimlo'n ddiogel yn chwarae neu gymdeithasu â ffrindiau?

Bob amser

42%

Fel arfer

56%

Byth

2%

Sut y mae oedolion yn teimlo amdanoch yn chwarae neu gymdeithasu â ffrindiau?

Bodlon a hapus

48%

Ocê ac olreit

43%

Rhai'n flin a ddim yn hoffi gweld plant yn chwarae / cymdeithasu

8%

Y rhan fwyaf yn flin ac yn casáu gweld plant yn chwarae / cymdeithasu

1%

 

Sut fath o ardaloedd ydych chi'n chwarae neu gymdeithasu ynddynt?

Gwych, fi'n gallu gwneud popeth fi'n hoffi gwneud

40%

Ocê, fi'n gallu gwneud rhai o'r pethau fi'n hoffi gwneud

56%

Gwael, methu gwneud dim o'r pethau fi'n hoffi gwneud

4%

 

Sut wnaeth Covid effeithio ar ble y gallech chwarae a chymdeithasu?

Wedi newid ers y pandemig

49%

Fi'n dal i gymdeithasu ym mhob man fi'n hoffi mynd iddynt

51%