Toglo gwelededd dewislen symudol

Crynodeb Gweithredol Asesiad Digonolrwydd Chwarae Powys 2022

Sut y byddwn yn datblygu a darparu'r Cynllun Gweithredu

Drwy'r Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae, rydym wedi adolygu ein gwaith a'n gweithgareddau dros y 3 blynedd diwethaf gan adnabod lle y mae angen mwy o waith. Fodd bynnag, nid yn unig yr effeithiodd pandemig Covid yn ddifrifol ar gynnydd, mae sicrhau a chynnal lefel y cyllid yn parhau i fod yn her sylweddol a rhaid i gyllid unwaith eto fod yn flaenoriaeth weithredu allweddol.  

Beth fyddwn ni'n ei wneud?

Bydd y camau gweithredu sy'n cael eu hadnabod o'r Asesiad Digonolrwydd yn cael eu trafod ag unigolion, gwasanaethau a sefydliadau i sicrhau cynnydd ar sail amlasiantaethol. Bydd gwreiddio'r gweithredu yng nghynllunio'r asiantaethau yn hanfodol i gyflawni'r canlyniadau sydd mewn golwg.

Pwy fydd yn arwain arno?

(mae rolau a swyddogion / cyfarwyddwyr wedi newid yn ddiweddar, felly am y tro, nes bydd diweddariad ar gael)

Yr Aelod Cabinet Arweiniol ar gyfer Powys Mwy Ffyniannus - Y Cyng. David Selby

Cyfarwyddwr Arweiniol yr Economi a'r Amgylchedd - Nigel Brinn

Y Grŵp Monitro Chwarae

Mae chwarae'n cael ei fonitro drwy ffrwd waith Iechyd a Lles Emosiynol y Bwrdd Dechrau'n Dda o dan Strategaeth Iechyd a Gofal y Cyngor, fydd yn adolygu cynnydd yn erbyn y cynllun.  

Gwahoddir 45 o sefydliadau i fynychu, gan gynnwys Strategaeth a Datblygu Gwasanaethau, Comisiynu Plant, Gwasanaethau Cymdeithasol, Gwasanaethau Ieuenctid, Troseddwyr Ifanc, Iechyd y Cyhoedd, yr Heddlu, Gwasanaeth Ysgolion, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Phenaethiaid.  Mae'r cyrff trydydd sector yn cynnwys Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys, Windfall, Credu, Gweithredu dros Blant, Xenzone, Cais a Mind Canolbarth a Gogledd Powys.

Hwylusir y grŵp gan y Cyngor ac mae'n cael ei gadeirio ar hyn o bryd gan Victoria Ruff Cock, Gwasanaethau Plant, a Samantha Shore o'r Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed.