Crynodeb Gweithredol Asesiad Digonolrwydd Chwarae Powys 2022
Y ffordd ymlaen
Nodir isod Gynllun Gweithredu Powys sy'n adnabod themâu blaenoriaeth y tair blynedd nesaf - wedi eu gwahanu'n gynlluniau blynyddol. Mae'r cynllun wedi'i oleuo gan dystiolaeth o'r diffygion, gyda chamau gweithredu wedi eu hadnabod ar gyfer pob maes a aseswyd i fod yn oren neu'n goch ac sydd felly angen eu gwella, a hefyd gan adborth gan wasanaethau a phartneriaid a gyfrannodd i'r Asesiad.
| Cam Gweithredu / Blaenoriaethau | Pryd | Targedau | Cysylltiadau i Faterion |
1 | Partneriaid, gwasanaethau, rhanddeiliaid, sefydliadau a swyddogion dylanwadol i gydnabod pwysigrwydd chwaraeon ac ystyried hyn wrth gynllunio a darparu gwasanaethau. Cyfarfodydd gwasanaeth ar-y-cyd i'w cynnal drwy'r flwyddyn. | Pob blwyddyn | I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol | Mater F Mater I |
2 | Datblygu cydweithio, cydamcanion a chyd-ganlyniadau.
| Pob blwyddyn | I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol | Mater D |
3 | Adnabod a chael gafael ar grantiau / ffrydiau cyllid ychwanegol, yn enwedig ar gyfer clybiau ieuenctid a rhwydweithiau chwarae. Ystyried clustnodi potyn bychan o gyllid blynyddol i brynu darpariaeth gwaith chwarae. | Pob blwyddyn | Rhwng y partneriaid, dod o hyd i 1-2 o ffrydiau cyllid ychwanegol pob blwyddyn | Mater D Mater G Mater H |
4 | Ystod ehangach o ddigwyddiadau ymgysylltu ac ymgynghori a grwpiau ffocws, gan gynnwys yn benodol i'r boblogaeth Gymraeg eu hiaith, gan gydnabod Hawl 12 yn yr UNCRC - hawl plant i gael llais yn y pethau sy'n effeithio arnynt. Gwella'r cylch adborth. |
Pob blwyddyn | O leiaf un digwyddiad ymgysylltu ac ymgynghori pob blwyddyn | Mater B Mater C |
5 | Adolygu ac ehangu'r ddarpariaeth chwarae a hyfforddiant gwaith chwarae. | Pob blwyddyn | Partneriaid a sefydliadau i adnabod ac ymgeisio am gyllid i gynnig mwy o hyfforddiant | Mater G |
6 | Parhau i hyrwyddo pwyntiau gwybodaeth (Dewis / Info Engine) a chyfleoedd i gyfeirio pobl ymlaen. | Pob blwyddyn | I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol | Mater D |
7 | Sicrhau bod data ar gael i eraill (hyrwyddo, dosbarthu a rhannu) ac i bwrpas cynllunio. Mapio arolygon Chwarae i'r dyfodol, gyda GIS. | Pob blwyddyn | I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol | Mater A Mater B |
8 | Datblygu'r broses cadw cofnodion canolog ymhellach. Corff canolog i fod yn gyfrifol am gasglu data gweithlu gan wasanaethau sy'n cael eu comisiynu a'u rheoleiddio, tebyg i'r dull newydd gan Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer data'r gweithlu Gofal Cymdeithasol.Awdurdodau lleol i ddarparu rhestr lawn a chywir o'r holl wasanaethau sy'n cael eu comisiynu, eu rheoleiddio a heb eu rheoleiddio ac sy'n darparu gwasanaethau gwaith chwarae a choladu a chyflwyno data gweithlu. | Blwyddyn 1 | I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol | Mater E Mater G |
9 | Creu cofrestr ganolog o'r holl fannau agored ac ardaloedd chwarae a'u monitro'n flynyddol i gadarnhau bod archwiliadau diogelwch wedi eu gwneud. | Blwyddyn 1
| Sefydlu beth sydd ar gael ar hyn o bryd Adnabod unrhyw ofynion ychwanegol Datblygu cofrestri fel bo'n briodol | Mater C |
10 | Mwy o waith gydag ysgolion i ddatblygu dealltwriaeth o chwarae a defnydd y gymuned o dir yr ysgol.Ail-edrych ar gyfathrebu ag ysgolion er mwyn gallu rhoi mwy o gymorth iddynt ar weithgareddau awyr agored, chwarae a lles plant, gan gynnwys gwybodaeth ac anogaeth i ysgolion agor eu tir ar gyfer chwarae, e.e. taflenni gwybodaeth a chymorth Chwarae Cymru. Cynllun hirdymor i sicrhau bod ysgolion yn cydbwyso'r risg Covid yn erbyn rhoi mynediad i asiantaethau allanol. | Blwyddyn 1 | Cysylltu i'r Grant Ysgolion Bro a bidiau llwyddiannus | Mater C Mater I |
11 | Cefnogi ysgolion i dderbyn hyfforddiant Kerbcraft / beicio gan ystyried cyfyngiadau eu cyfleusterau. Adolygu sut y comisiynir y rhaglenni hyn fel bo'n ofynnol gweithio gyda'r cyfleusterau sydd gan yr ysgol i'w cynnig. Gweithio gyda Sustrans i ddatblygu gweithgareddau cerdded a beicio ar gyfer meysydd chwarae / iard yr ysgol. | Blwyddyn 1
Blwyddyn 2 | Sefydlu pa ddarpariaeth sy'n bodoli'n barod
Gweithio gyda'r ysgolion i wella'r hyfforddiant Kerbcraft / beicio | Mater F Mater I |
12 | Datblygu trefi Teithio Llesol ymhellach i gynyddu cerdded a beicio. Ystyried a ddylai fod eithriadau i'r Canllaw Dylunio Teithio Llesol fel y gellir cymeradwyo mwy o lwybrau. Adolygu'r dosbarthiadau / sut y cymhwysir y canllawiau. | Blwyddyn 1
| I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol | Mater F |
13 | Cefnogi Cynghorau Tref a Chymuned a grwpiau cymunedol yn ystod y broses CAT i ystyried chwarae a dysgu sut i wneud asesiadau o werth chwarae ac OSA.
| Blwyddyn 1 | Cysylltu â Chynghorau Tref a Chymuned | Mater C |
14 | Gwneud mwy o ddatblygu perthynas, ymgysylltu a gweithio'n gydweithredol â Chynghorau Tref a Chymuned. Defnyddio astudiaeth achos Llangatwg fel enghraifft i annog cymunedau i ehangu mynediad a darpariaeth i bobl anabl yn lleol. | Blwyddyn 1 | I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol | Mater C Mater H |
15 | Fel rhan o broses adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol, diweddaru'r Asesiad Mannau Agored, cynnal asesiad Seilwaith Gwyrdd, a chryfhau'r fframwaith polisi ar hyrwyddo cerdded a beicio. (i gynnwys ail-edrych ar safonau ac integreiddio â seilwaith gwyrdd) Drwy'r Cynllun Datblygu Lleol, monitro ystod o ddarpariaeth awyr agored gan adnabod y bylchau i oleuo cynlluniau i ddod. | Blwyddyn 1 | I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol | Mater C Mater F Mater I |
16 | Darparu a defnyddio mesurau i warchod caeau chwarae ysgolion pan wneir penderfyniadau gwerthu, drwy'r Asesiad Mannau Agored a Pholisi DM3 y Cynllun Datblygu Lleol. | Blwyddyn 1 | I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol | Mater C |
17 | Yr adran dai i fynd ati'n weithredol i ddileu'r man gwan gyda datblygiadau tai sy'n caniatáu i geisiadau gael eu rhannu i leihau nifer yr unedau ac osgoi gofynion OSA. | Blwyddyn 1 | I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol | Mater C |
18 | Cynnwys anghenion chwarae ar safleoedd sipsiwn a theithwyr fel rhan o'r asesiad i ddod o ardaloedd chwarae ar safleoedd tai trefol. | Blwyddyn 1 | I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol | Mater B |
19 | Blaenoriaethu arwyddion dwyieithog ar gyfer chwarae, gan gynnwys 'dim cŵn'. | Blwyddyn 1 | I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol | Mater C Mater F |
20 | Datblygu mwy ar gyfleoedd a darpariaeth chwarae gwyliau i grwpiau penodol, sydd ar hyn o bryd yn brin a heb gyllid digonol. | Blwyddyn 1 | I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol | Mater D |
21 | Pwysleisio'r opsiynau sydd ar gael yn lle cyfarpar chwarae sefydlog a hyrwyddo gwybodaeth a chanllawiau Chwarae Cymru i'r holl bartneriaid ar sut i greu amgylchedd chwarae da. | Blwyddyn 1 | I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol | Mater C |
22 | Datblygu a hyrwyddo sgiliau bywyd awyr agored a datblygu mwy ar raglenni llythrennedd corfforol. Annog pob ysgol i weithredu Rhaglen Ysgolion Chwareus Powys a defnyddio chwarae creadigol fel cyfrwng i wella lles ac adfer o Covid. Annog mwy o leoliadau blynyddoedd cynnar i ymuno â'r cynllun Ysgolion Iach. | Blwyddyn 1 | I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol | Mater I |
23 | Casglu mwy o ddata i fonitro faint o chwarae awyr agored sy'n digwydd yn rheolaidd mewn ysgolion.
| Blwyddyn 1 | I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol | Mater I |
24 | Cefnogi ysgolion i ddatblygu mwy o gyfleoedd tu allan i oriau ar gyfer plant Cyfnod Sylfaen. Cefnogi ysgolion i ddatblygu mwy o glybiau a gweithgareddau amser cinio a thu allan i oriau a gweithio gyda'r Rhwydweithiau Chwarae i ddod yn Ysgolion Chwareus. Yn dilyn cynllun peilot, cyflwyno'r cynllun cenedlaethol ar agor tiroedd ysgolion y tu allan i oriau ysgol.
| Blwyddyn 1 | I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol | Mater I |
25 | Annog a hyrwyddo manteision pobl hŷn a phobl iau'n dod at ei gilydd. Ar ôl Covid pan ganiateir hynny, ehangu'r ystod o weithgareddau chwarae rhwng gwahanol genedlaethau. | Blwyddyn 1 | I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol | Mater I |
26 | Y Cynllun Trafnidiaeth Lleol o 2020 ymlaen a'r Gwasanaethau Trafnidiaeth i gydnabod ac ystyried pwysigrwydd cynnig cyfleoedd chwarae i blant ynghyd ag adnabod ffyrdd o asesu ac ateb anghenion pob ag unrhyw grŵp, gan gynnwys grwpiau sy'n aml yn cael eu hymylu. Ymgysylltu â'r gymuned ar drafnidiaeth gyhoeddus. Darparu mwy o ddata i ddangos tystiolaeth o'r angen. | Blwyddyn 1 | I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol | Mater F Mater I |
27 | Gwneud mwy o wagu biniau ar feysydd chwarae - darparu biniau baw cŵn ar wahân. | Blwyddyn 1 | Trafod rhwng Gwasanaethau Powys | Mater C |
28 | Hyrwyddo dull risg a budd o wneud asesiadau Iechyd a Diogelwch, gan gynnwys i Gynghorau Tref a Chymuned. | Blwyddyn 1 | I'w trafod a'u cytuno â'r adrannau perthnasol | Mater I |
Am fwy o fanylion a gwybodaeth, gallwch ddarllen yr Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae llawn yn Chwarae ym Mhowys - Cyngor Sir Powys