Toglo gwelededd dewislen symudol

Ydych chi'n derbyn yr holl gymorth Costau Byw y mae gennych hawl iddo?

An empty purse on a coffee table

30 Awst 2022

An empty purse on a coffee table
Mae trigolion Powys sy'n cael trafferth gyda chostau byw yn cael eu cynghori i weld os ydynt yn derbyn yr holl gymorth sydd ar gael iddynt.

Mae'r cyngor sir wrthi'n gweinyddu'r Cynllun Cymorth Costau Byw, ar ran Llywodraeth Cymru, a'i Gynllun Cymorth Costau Byw yn ôl Disgresiwn ei hun, sy'n werth £150 i gartrefi neu unigolion sy'n gymwys.

  • Cynllun Cymorth Costau Byw: 
  • Cynllun Cymorth Costau Byw yn ôl Disgresiwn: 

Mae'r cyngor wedi ysgrifennu at bawb y mae'n credu sy'n gymwys ar gyfer y ddau gynllun yma, ond os ydych angen help i wneud cais neu angen cyngor ar fudd-daliadau, ffoniwch 01597 826345 neu ewch i'r dudalen budd-daliadau ar wefan Cyngor Sir Powys (CSP): Budd-daliadau

Mae nifer o ofalwyr di-dâl, sy'n cael Lwfans Gofalwyr hefyd yn gallu gwneud cais am y Grant Cymorth Ariannol i Ofalwyr Di-dâl, gwerth £500, hyd at 5pm ar 2 Medi, sy'n cael ei weinyddu eto gan Gyngor Sir Powys ar ran Llywodraeth Cymru.

Gall y cyngor sir hefyd helpu gyda Thaliadau Tai yn ôl Disgresiwn, gyda'r bwriad o gefnogi pobl mewn amgylchiadau eithriadol ac am gyfnod byr drwy galedi ariannol. Gellir defnyddio'r taliadau hyn i dalu costau tai, megis: diffyg rhent, blaen-dal rhent neu rent o flaen llaw os oes angen i chi symud cartref, dodrefn hanfodol os ydych yn ddigartref, help i symud tŷ os yw'n gwella eich sefyllfa rhent neu mewn rhai achosion taliad tuag at ôl-ddyledion rhent os ydych yn wynebu cael eich troi allan.

Os ydych yn ddigartref, neu dan fygythiad o ddigartrefedd yn ystod y 56 diwrnod (deufis) nesaf mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i'r cyngor darganfod mwy am eich sefyllfa a gweithio gyda chi i atal neu leddfu'ch digartrefedd: Gofynnwch am Gymorth am Ddigartrefedd

Mae Powys hefyd yn un o 13 cyngor sy'n cymryd rhan yn y Cynllun Prydlesu Cymru, sy'n ceisio cynyddu mynediad at, a fforddiadwyedd, rhentu'n breifat.  Bydd gan denantiaid sy'n cael eu cartrefu o dan y cynllun lety diogel a fforddiadwy ac am dymor hirach yn ogystal â mynediad at lefel uchel o gefnogaeth i helpu i gynnal eu tenantiaeth.

Os yw eich aelwyd ar incwm isel, gallech hefyd dderbyn cymorth tuag at rai, neu'r cyfan, o'ch bil Treth y Cyngor drwy'r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor.

Gall Gwasanaeth Cyngor Ariannol CSP hefyd eich helpu gyda budd-daliadau, cyllidebu, dyled neu ymholiadau cost tanwydd. Mae ffurflen ar-lein ar gael ar wefan CSP: Oes angen help arnoch chi gyda Chyngor Ariannol neu Gefnogaeth Macmillan? Neu gallwch ffonio 01874 612153 neu e-bostio: wrteam@powys.gov.uk i gael cyngor.

Mae hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â Chymorth Canser Macmillan ac Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) i ddarparu cymorth ariannol a budd-dal i gleifion canser, a'u gofalwyr, ym Mhowys.

Mae rhagor o gyngor am gymorth gyda chostau byw hefyd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru:  https://llyw.cymru/cael-help-gyda-chostau-byw