Toglo gwelededd dewislen symudol

Canllaw i Leithder a Chyddwysiad

Beth yw cyddwysiad?

Mae rhywfaint o leithder yn yr aer bob amser, hyd yn oed os na allwch ei weld. Rydych chi'n sylwi arno pan fyddwch chi'n gweld eich anadl ar ddiwrnod oer, neu pan fydd y drych yn mynd yn niwlog pan fyddwch chi'n cael cawod neu fath.

Mae cyddwysiad yn cael ei achosi pan fydd lleithder mewn aer cynnes yn cwrdd ag arwyneb oer fel ffenestr neu wal ac yn cyddwyso yn ddefnynnau dŵr. Os bydd hyn yn digwydd yn rheolaidd, gall llwydni ddechrau tyfu. Mae hyn fel arfer yn ymddangos ar waliau ac arwynebau allanol oer ac mewn mannau lle nad yw'r aer yn cylchredeg yn dda. Gallai'r lleithder a grëir hefyd niweidio dillad, dodrefn a waliau wedi'u peintio neu eu papuro. Mae'n gadael arogl llaith.

Gallai cyddwysiad waethygu problemau iechyd fel asthma, broncitis, arthritis a gwynegon.