Grant Twf Busnes
Cais ac Asesiad
Bydd pob cais wedi'i gwblhau yn cael ei ystyried ar sail y cyntaf i'r felin nes bydd cyfanswm y gronfa wedi'i ddyrannu'n llawn.
Bydd pob cais yn cael ei asesu yn erbyn allbynnau a chanlyniadau'r prosiect grant, h.y.
- cymhareb gwerth am arian / grant ar gyfer pob swydd a grëwyd a buddsoddiad sector preifat a ysgogwyd gan y grant yn ogystal â hyfywedd y cynllun busnes i gefnogi'r cynlluniau sefydlu a thwf cynaliadwy.
- Swyddi wedi'u creu
- Swyddi wedi'u diogelu
- Nifer y busnesau sy'n mabwysiadu cynhyrchion neu wasanaethau newydd neu well
- Nifer y busnesau sy'n ymwneud â marchnadoedd newydd
- Nifer y busnesau sy'n mabwysiadu technolegau neu brosesau newydd i'r cwmni
- Nifer y busnesau sydd â chynhyrchiant gwell
- Nifer y busnesau ymchwil a datblygu gweithredol
- Cynnydd yn nifer y BBaChau sy'n weithredol o ran arloesi
- Nifer y cynhyrchion newydd i'r farchnad
Mae'r Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i ddod yn garbon sero net erbyn 2030 ac mae'n awyddus i hyrwyddo arferion busnes cynaliadwy drwy ei raglenni ariannu. Fel rhan o'r cais, gofynnir i chi sut mae eich busnes yn dangos ymrwymiad i ddatblygiad cynaliadwy ac ymrwymo i Addewid Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru. https://businesswales.gov.wales/green-growth-pledge-0
I ddechrau mae'n ofynnol i ymgeisydd gyflwyno datganiad o ddiddordeb. Yna bydd y datganiad o ddiddordeb yn cael ei asesu at ddibenion cymhwysedd ac os caiff ei gymeradwyo fe'ch gwahoddir i gyflwyno cais llawn.
Yna bydd angen i bob ymgeisydd gwblhau a dychwelyd y canlynol:
- Ffurflen Gais wedi'i chwblhau,
- Cyfrifon hanesyddol 2 flynedd lawn o leiaf a chyfrifon rheoli diweddar, os ydynt ar gael. Os nad yw busnes wedi bod yn masnachu ers 2 flynedd, rhaid darparu cyfrifon rheoli a/neu grynodeb o incwm a gwariant o'r dyddiad dechrau masnachu hyd at y dyddiad ymgeisio.
- Rhagolygon 2 flynedd (llif arian a/neu elw a cholled)
- Dyfynbrisiau Ysgrifenedig (gweler isod am arweiniad)
- Safonau'r Gymraeg
- Polisi Amgylcheddol / Cynaliadwyedd - Bydd angen i ymgeiswyr amlinellu'r ffyrdd y mae'r busnes wedi ymrwymo i leihau ei effaith ar yr amgylchedd.
Dylid nodi bod Twf Busnes Powys yn grant dewisol ac yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth gan Gyngor Sir Powys. Bydd pob cais yn cael ei asesu gan banel sy'n cyfarfod yn fisol i ystyried bod ceisiadau yn cyrraedd y safon erbyn y dyddiad cau penodol.
Noder - Bydd angen gallu bwrw ymlaen â cheisiadau cyn iddynt gael eu cyflwyno i'r panel, felly rhaid cadarnhau gofynion hanfodol megis arian cyfatebol, caniatâd cynllunio (lle bo'n berthnasol), ac ati cyn i'r tîm grant baratoi'r cais i'w ystyried gan y panel.