Toglo gwelededd dewislen symudol

Dod o hyd i ofal plant, meithrinfeydd a chylchoedd chwarae

Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn cynnig cyngor a gwybodaeth yn rhad ac am ddim ar amrywiaeth eang o ddewisiadau gofal plant a gweithgareddau i blant a phobl ifanc rhwng 0-25 oed, eu teuluoedd a'u gofalwyr.
Image of four young children

Dilynwch y ddolen isod i gael gwybodaeth am feithrinfeydd dydd, gwarchodwyr plant cofrestredig, clybiau y tu allan i oriau ysgol, cylchoedd chwarae cyn-ysgol a grwpiau rhieni a phlant bach.  Gallwn hefyd gynnig cyngor ar dalu am ofal plant, ac rydym yn cadw gwybodaeth ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn dod yn warchodwyr plant cofrestredig neu hyfforddi ar gyfer lleoliadau gofal plant eraill.

Daw ein data o Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), lleoliadau gofal plant a'r darparwr cymorth busnes . Ni ddylech gymryd y wybodaeth yn y rhestrau chwilio yma i olygu bod ein gwasanaeth yn eu hargymell. Ni ddylid defnyddio'r wybodaeth ond i'ch helpu chi i ddod o hyd i wasanaethau ar gyfer eich plant. Ni ddylech ei defnyddio at ddibenion masnachol.)

Ddim ar y rhestr ond eisiau bod?

Cofrestrwch eich darpariaeth gofal plant, meithrinfa neu grŵp chwarae ar www.dewis.wales fel bod teuluoedd yn gallu dod o hyd i chi.

Cyswllt

Rhowch sylwadau am dudalen yma