Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Treth y Cyngor: Disgownt a gostyngiadau (pobl)

Rhagymadrodd

Mae Treth y Cyngor yn seiliedig ar 2 neu fwy o oedolion cymwys yn byw yn yr un cartref. 

Rhowch wybod i ni am unrhyw sefyllfa arall er mwyn gallu gwneud yn siŵr eich bod chi'n talu'r swm iawn o dreth y cyngor a ddim mwy.  Efallai y gallwch hawlio disgownt treth y cyngor.  Bydd y llyfryn defnyddiol iawn yn helpu chi ddeall a ydych chi'n gallu talu llai o dreth y cyngor.

 

Allwch chi ddim cael gostyngiad ar eich Treth y Cyngor dim ond oherwydd eich bod yn cael trafferth i'w dalu. Os ydych chi'n cael anhawster i dalu'ch Treth y Cyngor, gallwch siarad â ni i weld a allwn ni eich helpu.

 

Rhaid i chi ddweud wrthym ni ar unwaith os oes newid yn eich amgylchiadau. Gallai methu â gwneud hyn arwain at Orfodi Cosb Treth y Cyngor arnoch.  Os ydych chi'n anghytuno â'r gosb sy'n cael ei gorfodi arnoch, mae'n bosibl y byddwch yn awyddus i drafod hyn gyda ni yn gyntaf. Neu, gallwch wneud apêl uniongyrchol i Dribiwnlys Prisio Cymru

 

Treth y cyngor: Talu Treth y Cyngor a dim ond un oedolyn yn byw yn yr eiddo

Os mai chi yw'r unig oedolyn cymwys yn byw mewn eiddo, mae'n bosibl y byddwch yn gymwys i dderbyn disgownt o 25%.  Gallai hyn ddigwydd oherwydd marwolaeth, gwahanu, ysgaru, neu hyd yn oed di ond oherwydd bod oedolyn arall wedi symud allan - neu unrhyw reswm arall.

Gwneud cais am ddisgownt Treth y Cyngor am fod yr unig oedolyn sy'n byw mewn eiddo yma Citizen Access Revenues 

Treth y Cyngor: Disgownt / Eithriadau - Pobl Sy'n Gadael Gofal

Rhywun sydd rhwng 18 a 25 oed ac yn unigolyn ifanc categori 3 yn ôl diffiniad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Apply for leavers Discount/Exemption Treth y Cyngor: Disgownt / Eithriadau - Pobl Sy'n Gadael Gofal

Treth y Cyngor: Help i fyfyrwyr, prentisiaid a hyfforddeion

Mae'n bosibl na fydd yn rhaid i oedolyn sy'n fyfyriwr, yn brentis neu'n hyfforddai dalu Treth y Cyngor. Os yw hynny'n golygu nad oes ond un oedolyn cymwys yn y cartref, mae'n bosibl y bydd yr oedolyn hwnnw'n gymwys i gael gostyngiad o 25%.

 

Myfyrwyr a nyrsys dan hyfforddiant

Yn ôl y diffiniad, mae myfyriwr yn:

  • Rhywun sydd wedi cofrestru ar gwrs addysg amser llawn. Mae'n rhaid i'r cwrs bara am flwyddyn o leiaf, a rhaid i'r myfyriwr fynychu'r cwrs am o leiaf 24 wythnos o'r flwyddyn ac astudio am o leiaf 12 awr yr wythnos.
     
  • Rhywun dan 20 sydd ar gwrs sy'n para am o leiaf 3 mis calendr ac sy'n astudio am o leiaf 12 awr yr wythnos. Rhaid i'r cwrs beidio â bod yn gwrs addysg uwch. Nid yw dosbarthiadau nos na chyrsiau gohebu yn gymwys.

 

Prentisiaid

I fod yn gymwys, rhaid i brentis fod yn dilyn rhaglen hyfforddiant a fydd yn arwain at gymhwyster sy'n cael ei achredu gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm. Rhaid i gyfanswm y cyflog a/neu'r lwfans a dderbynnir fod yn £195 neu lai bob wythnos.

 

Hyfforddai Ifanc / Hyfforddai Dewis

Bydd diystyriad yn cael ei ddyfarnu i Hyfforddeion Ifanc dan 25 sy'n cael ei hyfforddi dan drefniadau Deddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973.

 

Ffurflenni cais

Dywedwch wrthym pan fydd oedolyn yn eich cartref chi yn dod yn fyfyriwr Citizen Access Revenues

Dywedwch wrthym pan fydd oedolyn yn eich cartref chi wedi dod yn brentis neu'n hyfforddai Ffurflen Ymholi ynglyn â Diystyru Gostyngiad Treth y Cyngor

Dywedwch wrthym os oes ond un oedolyn ar ôl yn byw yn eich cartref chi ym Mhowys Treth y Cyngor - Ffurflen Hawlio Disgownt Person Sengl

Dywedwch wrthym os yw eich eiddo wedi'i adael yn wag Gostyngiadau Treth y Cyngor ac eithriadau ar eiddo penodol

Treth y cyngor: Pobl sydd yn yr ysbyty neu mewn gofal preswyl yn barhaol

Os oes oedolyn wedi symud allan o'ch ty i aros mewn ysbyty, cartref gofal preswyl neu gartref nyrsio yn barhaol ni fydd yn gymwys i dalu Treth y Cyngor.

Rhowch wybod i ni pan fydd oedolyn mewn ysbyty neu ofal parhaol yma Ffurflen Ymholi ynglyn â Diystyru Gostyngiad Treth y Cyngor

Os bydd eiddo'n wag yn barhaol, dylech

Rhowch wybod i ni os yw'r eiddo'n wag yma Hawlio Eithriad

Treth y Cyngor: Pan fydd oedolyn ifanc yn troi'n 18

Os oes unigolyn ifanc yn byw gartref sy'n troi'n 18 oed, mae'n atebol i dalu Treth y Cyngor. Os mai myfyriwr yw e, neu os ydych chi'n parhau i dderbyn budd-daliadau ar ei gyfer, yna ni fydd yn atebol i dalu Treth y Cyngor.

Rhowch wybod i ni pan fydd oedolyn ifanc yn 18 oed yma Treth y Cyngor: Ffurflen Pan fydd oedolyn ifanc yn troi'n 18

Treth y cyngor: Budd-dal Tai

Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai, gallwch hawlio help tuag at Dreth y Cyngor (Gostyngiad), Prydau Ysgol am Ddim, a  Grantiau Dillad Ysgol ar yr un pryd.

Gwneud cais am fudd-dal tai yma Budd-dal Tai

Treth y Cyngor: Help i bobl ag anabledd neu namau

Mae'n bosibl na fydd yn rhaid i chi dalu Treth y Cyngor yn llawn os oes anabledd arnoch chi neu rywun arall (o unrhyw oed) yn eich cartref. Mae'n bosibl na fydd yn rhaid i oedolion â nam difrifol ar eu meddwl dalu Treth y Cyngor.

Anabledd

Rhywun sydd yn sylweddol ac yn barhaol anabl yw rhywun anabl, boed hynny yn sgil salwch, anaf, nam cynhenid neu fel arall. Er mwyn bod yn gymwys i gael gostyngiad anabledd, rhaid i chi fod yn byw yn yr eiddo ond does dim rhaid i chi fod dros 18 oed..

Os ydych yn gymwys i gael help dan y cynllun yma, bydd eich bil Treth y Cyngor yn gostwng o un band eiddo.

Er enghraifft, os yw eich eiddo yn Band D, bydd eich bil treth yn cael ei seilio ar Band C. Os yw'r eiddo yn Band A, byddwch yn cael gostyngiad o nawfed rhan o dâl Band D.

Os yw eich eidddo eisoes wedi'i osod mewn band is, bydd hyn yn cael ei ddangos ar eich bil.

Mae'n bosibl y bydd angen i Swyddog Ymweld ddod i archwilio'r eiddo cyn gallu rhoi gostyngiad i chi.

Er mwyn bod yn gymwys, rhaid bod â/ag:

  • Ystafell ac eithrio ystafell ymolchi neu gegin sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion diwallu anghenion rhywun anabl.

Does dim rhaid i'r ystafell fod wedi'i hadeiladu'n na'i hychwanegu'n arbennig, ond ni fydd eich cartref yn gymwys i dderbyn gostyngiad oni bai fod yna newid o 'hanfodol neu o bwysigrwydd mawr' wedi digwydd.

Mae'n bosibl na fydd cyfnewid ystafelloedd - e.e. ystafell wely ar y llawr gwaelod yn hytrach na'r llawr cyntaf - yn golygu bod eich cartref yn gymwys ar gyfer gostyngiad.

  • Ystafell ymolchi neu gegin ychwanegol sy'n cael ei defnyddio ac sy'n ofynnol er mwyn diwallu anghenion rhywun anabl;

Does dim rhaid i'r ystafell fod wedi'i hadeiladu'n na'i hychwanegu'n arbennig, ond ni fydd eich cartref yn gymwys i dderbyn gostyngiad oni bai fod yna newid 'hanfodol neu o bwysigrwydd mawr' wedi digwydd.

Mae'n bosibl na fydd cyfnewid ystafelloedd - e.e. ystafell wely ar y llawr gwaelod yn hytrach na'r llawr cyntaf - yn golygu bod eich cartref yn gymwys ar gyfer gostyngiad.

  • Digon o ofod llawr er mwyn gallu defnyddio cadair olwyn sy'n ofynnol i ddiwallu anghenion rhywun anabl.

 

Amhariad meddwl difrifol 

Y diffiniad o hwn yw 'nam difrifol ar ddeallusrwydd a gweithredu cymdeithasol (beth bynnag oedd yr achos) sy'n ymddangos i fod yn barhaol'.  Rhaid i ymarferydd meddygol dystio i hyn.  Rhaid i'r unigolyn hefyd fod â hawl i un o'r budd-daliadau canlynol:

  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Lwfans Byw i'r Anabl (elfen ofal cyfradd uwch neu ganolig)
  • Cynnydd yng nghyfradd y pensiwn anabledd (lle mae angen gweini cyson)
  • Lwfans Gweithio i'r Anabl
  • Cymhorthdal Incwm (sy'n cynnwys premiwm anabledd)
  • Lwfans neu dâl atodol Cyflogaeth
  • Lwfans Gweini Cyson
  • Cyfradd safonol neu uwch elfen bywyd beunyddiol y taliad annibynniaeth personol.
  • Taliad Annibynniaeth y Lluoedd Arfog
  • Credyd Cynhwysol (mewn amgylchiadau lle nad oes gan rywun fawr o allu i weithio a/neu weithgareddau'n ymwneud â gwaith).

 

Ffurflen Ymholiad

Gofyn am ostyngiad yn Nhreth y Cyngor ar sail anabledd drwy'r Tîm Gyngor Ariannol Cais am Gyngor Ariannol neu Gefnogaeth Macmillan

Gwneud cais am ostyngiad os oes gennych anfantais meddyliol difrifol neu os oes gennych rywun sy'n byw gyda chi sydd ag anfantais meddyliol difrifol Citizen Access Revenues​​​

Treth y Cyngor: Help i ofalwyr

Os ydych yn gofalu am rywun ac yn byw gyda nhw, mae'n bosibl na fydd yn rhaid i chi dalu Treth y Cyngor.

 

Gofalwyr

Mae'n bosibl na fydd yn rhaid i ofalwr dalu Treth y Cyngor:

  • os yw'n byw yn yr un eiddo â'r sawl maen nhw'n gofalu amdano,
  • os yw'n darparu gofal am o leiaf 35 awr yr wythnos,
  • os nad yw'n darparu gofal am gymar neu blentyn dan 18 oed.

Mae gan y sawl y mae'n gofalu amdano yr hawl i un o'r budd-daliadau gwladol canlynol:

  • Lwfans Gweini
  • Cyfradd uchaf neu ganol elfen ofal lwfans byw i'r anabl
  • Y gyfradd pensiwn i'r anabl gyda'r cynnydd priodol
  • Cynnydd yn y lwfans gweini cyson
  • Cyfradd safonol neu uwch elfen bywyd beunyddiol y Taliad Annibyniaeth Bersonol
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog dan amodau'r Lluoedd Arfog a'r Lluoedd Wrth Gefn.

 

Gweithwyr Gofal

Mae'n bosibl na fydd yn rhaid i Weithiwr Gofal dalu Treth y Cyngor os caiff ei gyflogi am o leiaf 24 awr yr wythnos, ac nad yw ei enillion yn uwch na £44 yr wythnos.

Rhaid iddo hefyd fod yn byw yn yr un eiddo â'r sawl y mae'n gofalu amdano neu'n byw mewn eiddo sy'n cael ei ddarparu ar gyfer y gwaith gofalu.

 

Ffurflen Gais

Gwneud cais am eithriad gofalwr rhag talu Treth y Cyngor Ffurflen Ymholi ynglyn â Diystyru Gostyngiad Treth y Cyngor

 

Os ydych chi wedi gadael eich eiddo'n wag (heb ei feddiannu) er mwyn gofalu am rywun, mae'n bosibl na fydd rhaid talu Treth y Cyngor ar yr eiddo hwn, cliciwch yma i weld a yw eich eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor.

Treth y Cyngor: Pan fydd oedolyn wedi marw

Pan fydd oedolyn wedi marw, mae'n rhaid i chi ddweud wrthym ar unwaith er mwyn i ni wneud yn siwr eich bod chi neu'r stad yn talu'r swm iawn o dreth y Cyngor a dim rhagor. Mae'n rhaid i chi hefyd gofrestru'r farwolaeth.

Darllenwch fwy o wybodaeth Mae rhywun wedi marw

 

 

Treth y cyngor: Pobl yn y carchar neu garchariad cyfreithlon arall

If you or an adult in your home has been detained by order of a court in prison, hospital or any other place, that person is not eligible to pay Council Tax.

Rhowch wybod i'r Adran Treth y Cyngor pan fydd oedolyn wedi'i gadw'n gaeth ymaFfurflen Ymholi ynglyn â Diystyru Gostyngiad Treth y Cyngor Ffurflen Ymholi ynglyn â Diystyru Gostyngiad Treth y Cyngor

Treth y Cyngor: Help i bobl mewn sefyllfaoedd penodol

Nid oes raid i bobl yn y sefyllfaoedd yma dalu Treth y Cyngor. Unwaith y bydd yr unigolyn wedi ei ddiystyru, mae'n bosibl mai dim ond un oedolyn cymwys fydd ar ôl yn yr eiddo i dalu Treth y Cyngor. Mae'n bosibl y bydd yr oedolyn hwnnw yn gymwys i dderbyn gostyngiad.

Pobl nad oes raid iddyn nhw dalu Treth y Cyngor

 

  • Preswylwyr hosteli i'r digartref neu lochesi nos (cyn belled bod gan y llety gyfleusterau sy'n cael eu rhannu).
  • Aelodau (a dibynyddion) Pencadlysoedd Rhyngwladol a Sefydliadau Amddiffyn
  • Aelodau (a dibynyddion) lluoedd sy'n ymweld
  • Rhywun nad yw o Brydain sy'n briod â myfyriwr
  • Pobl â braint neu freintryddid diplomyddol
  • Aelodau o Gymunedau Crefyddol, os mai gweddïo, myfyrio, addysg neu liniaru dioddefaint yw'r prif waith. Rhaid i'r aelodau fod yn ddibynnol ar y gymuned am eu hanghenion bob dydd a rhaid iddynt beidio â bod yn berchen ar unrhyw incwm na chyfalaf eu hunain.

Dywedwch wrth y gwasanaeth Treth y Cyngor os ydych yn un o'r sefyllfaoedd canlynol Ffurflen Ymholi ynglyn â Diystyru Gostyngiad Treth y Cyngor

Treth y cyngor : Amgylchiadau unigol eithriadol

Os oes amgylchiadau personol eithriado nad oedd modd eu rhagweld yn berthnasol i chi, mae'n bosibl y gallech gael disgownt yn ôl disgresiwn. Bydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o'r rheswm y mae eich amgylchiadau'n eithriadol.

Darllenwch y Fframwaith Disgownt Lleol (Adran 13A) yma Treth y Cyngor: Fframwaith Disgownt Lleol (Adran 13A)

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu