Trwyddedau i weithio ar, neu ger ffordd
Cyn gweithio ar briffordd gyhoeddus neu feddiannu rhan ohoni, rhaid gwneud cais am drwydded addas. Mae'r term "priffordd" yn cynnwys ffordd, lôn, ffordd i gerbydau, palmant, troedffordd ac ymyl ffordd.
Trwydded sgip (ar y ffordd)
Efallai bydd angen i chi roi sgip ar y ffordd os ydych yn gwneud gwaith adeiladu neu gynnal a chadw. Bydd rhaid i'r cwmni sgipiau gael caniatâd i roi'r sgip ar y ffordd.
Trwydded sgaffaldiau / baneri
Os ydych yn gwneud unrhyw waith adeiladu/cynnal a chadw neu'n dymchwel unrhyw ran o eiddo sydd wrth ffordd fawr gyhoeddus (ffordd, palmant neu lôn gefn), mae diogelwch holl ddefnyddwyr y ffordd yn hollbwysig.
Deunyddiau adeiladu ar y ffordd fawr
Os ydych am osod deunyddiau adeiladu ar unrhyw ran o'r briffordd, mae angen trwydded gan y Cyngor. Fel arfer, bydd y trwyddedau hyn yn cael eu rhoi dan adran 171 Deddf Priffyrdd.
Trwydded i agor ffordd (cloddio ac ati)
Rhaid i gontractwyr preifat wneud cais am drwydded a derbyn y drwydded honno cyn gwneud gwaith cloddio ar unrhyw ffordd fawr. Mae 'ffordd fawr' yn cynnwys y ffordd gerbydau, llwybrau troed ac ymylon y ffyrdd.
Trwydded ar gyfer cyrbin isel (mynediad i gerbydau)
Os ydych angen mynediad rhwng eich cartref a'r ffordd fawr a bod angen newid y ffordd i wneud hyn, bydd rhaid i chi gael caniatâd gan yr Awdurdod Priffyrdd cyn dechrau'r gwaith.
Defnyddio'r palmant, ffordd, ymyl y ffordd neu ffordd fawr
Gall y cyngor drwyddedu rhan o'r briffordd ar gyfer masnachu neu gaffis ar balmant. Ond nid yw'r cyngor yn gallu rhoi trwydded i ddefnyddio unrhyw balmant, ffordd, ymyl ffordd neu briffordd ar gyfer arddangosiadau stryd neu arwyddion hysbysebu.