Os ydych wedi bod yn hawlio Meddiannaeth Unigol a bod angen i chi beidio â'i hawlio - os nad chi yw'r unig oedolyn cymwys sydd bellach yn byw yn yr eiddo (mae rhywun wedi symud i mewn neu'n ôl yn byw gyda chi).
Efallai na fydd rhaid i oedolyn sy'n fyfyriwr, prentis neu hyfforddai dalu Treth y Cyngor. Os yw hynny yn gadael dim ond un oedolyn cymwys yn y cartref, gall yr oedolyn sy'n weddill fod yn gymwys am ostyngiad Meddiannaeth Unigol o 25%.
Os oes oedolyn wedi symud allan o'ch cartref i aros mewn ysbyty, cartref gofal preswyl neu gartref nyrsio yn barhaol, ni fyddant yn gymwys i dalu Treth y Cyngor.
Pobl yn y carchar neu mewn canolfannau cadw cyfreithiol eraill
Os ydych chi neu oedolyn yn eich cartref wedi cael eich cadw gan orchymyn llys mewn carchar, ysbyty neu unrhyw fan arall, nid yw'r unigolyn hwnnw yn gymwys i dalu Treth y Cyngor.