Sut i ymgeisio
I wneud eich profiad o gyflwyno cais rheoliadau adeiladu yn haws rydym yn annog ymgeiswyr i gyflwyno ceisiadau electronig.
Os hoffech ei gyflwyno'n electronig, mae gennych 3 dewis.
Opsiwn 1
Gallwch gyflwyno hysbysiad adeiladu, cynlluniau llawn neu gais unioni trwy ddewis y ddolen briodol isod.
Yn ogystal â llenwi'r ffurflen ar-lein, gallwch atodi lluniau a gwneud y tâl cyntaf am y cais. Sylwch na allwch ddefnyddio'r porth hwn i dalu ffioedd arolygiadau pellach.
Os nad ydych chi'n gwybod beth yw'r ffioedd ar gyfer eich cais chi, cysylltwch â ni.
Cais Unioni (Regularisation) (Codir ffioedd ar gyfer ceisiadau unioni ar gyfradd o 140% o'n ffioedd safonol, heb gynnwys TAW. Cyn gwneud cais unioni, cysylltwch â ni i drafod y ffi)
Opsiwn 2
Gallwch gyflwyno cais ar-lein trwy'r porth Cyflwyno Cynllun'.
Os nad ydych yn ymwybodol o'r porth Cyflwyno Cynllun neu os ydych yn ansicr o'r buddion o gyflwyno mewn ffurf electronig ewch i'w gwefan.
A m ragor o wybodaeth am ddefnyddio Cyflwyno Cynllun cysylltwch â ni ar 01874 612290
Opsiwn 3
Fel arall gallwch chi lawrlwytho ein ffurflen gais isod a'i defnyddio i e-bostio'ch cais, neu gallwch argraffu'r ffurflen a'i hanfon yn y post.
Cyn gwneud eich cais ar-lein gwnewch yn siwr eich bod yn ymwybodol o'n ffioedd a'n taliadau.
Ar hyn o bryd mae Rheoli Adeiladu yn symud i safle porth ymgeisio ar-lein newydd. Nid yw'r ffurflen gais rheoliadau adeiladu ar gael ar-lein bellach. Cysylltwch â ni i drafod gwneud cais ar-lein.
Cais ar Bapur
Cais dros y Ffôn
Rydym hefyd yn derbyn ceisiadau dros y ffôn.
Ffoniwch ni i drafod hyn ar: 01874 612290
Trefnu archwiliad safle trwy ap symudol LABC Powys. Gallwch nawr gysylltu â ni i drefnu archwiliad safle ar eich ffôn symudol unrhyw adeg o'r dydd, sy'n grêt os ydych chi allan neu ar y safle. Llwythwch ein ap archwiliad safle LABC Powys (ar gyfer Apple ac Android) ar eich ffôn symudol. Cyfarwyddiadau yma. Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau