Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwyddedau Cyflogi Plant

permit image
Ceir rheolau a rheoliadau llym ynglyn â chyflogi plant. Eu nod yw amddiffyn plant rhag unrhyw niwed neu rhag eu hecsbloetio, a sicrhau nad yw iechyd ac addysg y plentyn yn dioddef.

Ar Awdurdod Lleol yw'r asiantaeth sy'n gyfrifol am oruchwylio plant sydd â swydd ram amser ac am erlyn unrhyw gyflogwr sy'n gorri'r gyfraith. Ym Mhowys, y Gwasanaeth Lles Addysg sy'n gyfrifol am hyn.

Rhaid i blentyn fod yn 13 oed cyn y gall cais gael ei wneud am drwydded gwaith.

Mae'r ddeddfwriaeth yn berthnasol i bob plentyn (gan gynnwys plant y cyflogwr) sydd dan yr oed y mae'n gyfreithlon iddynt adael yr ysgol (sef y dydd Gwener olaf ym mis Mehefin yn y flwyddyn y maent y byddant yn cyrraedd e 16 oed). Nid yw derbyn Rhif a Cherdyn Yswiriant Gwladol yn arwydd bod plentyn yn gallu  mynd i waith amser llawn a/neu adael yr ysgol.

Os hoffech chi wneud cais am drwydded gwaith i blentyn, lawrlwythwch y ffurflen gais (PDF) [341KB], llenwch hi a dychwelwch hi, ynghyd â ffotograff diweddar o'r plentyn (maint llun pasbort). 'Does dim ffi am hyn.