Gwneud Cais am Le Mewn Ysgol

Gallwch weld yr amserlen derbyn ac apeliadau yma
Cais am Leoliad Cyn Ysgol (3 a 4 oed)
Gwybodaeth am sut i wneud cais am le cyn-ysgol yma
Cais am le mewn Ysgol Gynradd
Mae'r Rownd Derbyniadau Ysgol Gynradd hwn wedi'i fwriadu ar gyfer dysgwyr Powys a anwyd rhwng 01/09/2016 a 31/08/2017.
Dydd Gwener 8 Ionawr 2021 yw'r dyddiad cau ar gyfer y rownd derbyniadau.
Un garfan sydd gan ysgolion cynradd Awdurdod Lleol Powys ymhob blwyddyn ysgol, sy'n cychwyn ar ddechrau tymor yr Hydref wedi i blentyn gyrraedd ei ben-blwydd yn 4 oed.
Nid yw bod â lle mewn dosbarth meithrin neu gyn-ysgol yn gwarantu y bydd y plentyn yn cael lle yn y brif ysgol pan fydd yn cyrraedd ei 4 oed. Bydd yn rhaid i chi wneud cais am le yn y brif ysgol. Os nad ydych chi'n gwneud cais, a'r ysgol rydych chi wedi'i dewis yn llawn, bydd yr ysgol yn cadw'r lle i'r rheiny sydd wedi eisoes gwneud cais.
Mae gwybodaeth ynghylch cludiant rhwng y cartref a'r ysgol i'w chael yma
Cais am le mewn Ysgol Iau
Mae'r Rownd Derbyniadau Ysgol Gynradd hwn wedi'i fwriadu ar gyfer dysgwyr Powys a anwyd rhwng 01/09/2013 a 31/08/2014.
Dydd Gwener 4 Rhagfyr 2020 yw'r dyddiad cau ar gyfer y rownd derbyniadau.
Bydd Awdurdod Lleol Powys yn trefnu derbyniadau i ysgolion iau yn ystod Tymor yr Hydref cyn dyddiad y trosglwyddo.
Nid yw bod â lle yn yr Ysgol Fabanod yn gwarantu y bydd lle i'ch plentyn yn yr Ysgol Iau. Bydd yn rhaid i chi wneud cais am le yn yr Ysgol Iau yr un fath. Os nad ydych yn gwneud cais am le, a'r ysgol rydych chi wedi'i dewis yn llawn, bydd yr ysgol yn cadw'r lle i'r rheiny sydd wedi eisoes gwneud cais.
Mae gwybodaeth ynghylch cludiant rhwng y cartref a'r ysgol i'w chael yma
Cais am le mewn Ysgol Uwchradd
Mae'r Rownd Derbyniadau Ysgol Gynradd hwn wedi'i fwriadu ar gyfer dysgwyr Powys a anwyd rhwng 01/09/2009 a 31/08/2010.
Y dyddiad cau ar gyfer y rownd derbyniadau oedd dydd Gwener 13 Tachwedd 2020
Bydd Awdurdod Lleol Powys yn trefnu derbyniadau i ysgolion uwchradd yn ystod Tymor yr Hydref cyn dyddiad y trosglwyddo.
Sylwer:
Dyddiad Cynnig Cyffredin Ysgolion Uwchradd yw dydd Llun 1 Mawrth 2021
Rhaid i ddisgyblion fyw yn ardal ddyrannu'r ysgolion cynradd sy'n bwydo'r ysgol uwchradd. Dylech gadw hyn mewn golwg gan ei fod yn effeithio ar p'un a oes cludiant ysgol ar gael ai peidio.
Mae gwybodaeth ynghylch cludiant rhwng y cartref a'r ysgol i'w chael yma
Cais am Drosglwyddo yn Ystod y Flwyddyn
Nid ydych yn newid cartref: Os ydych am drosglwyddo'ch plentyn i ysgol wahanol ar unrhyw adeg (ac eithrio ar gyfer symud tŷ), dylech drafod hyn gyda Phennaeth yr ysgol bresennol. Yna dylech fynd at Bennaeth yr ysgol rydych wedi'i dewis, a thrafod y posibilrwydd o dderbyn, gan egluro pam yr hoffech chi newid ysgolion.
Rydych yn newid cartref: Lle gwneir cais oherwydd eich bod wedi symud tŷ, gwnewch yn siŵr bod digon o rybudd i'r trosglwyddiad gael ei ystyried a'i drefnu. Ni all y Tîm Derbyniadau ystyried ceisiadau hyd nes derbyn cadarnhad o ddiwrnod symud.
Os cymeradwyir eich cais am drosglwyddo, bydd eich plentyn yn newid ysgol ar ddechrau tymor neu hanner tymor.
Gwnewch gais am drosglwyddo yn ystod y Flwyddyn yma.
Cais am Drosglwyddo yn Ystod y Flwyddyn yma
Application form for a school place_cym
Mae gwybodaeth ynghylch cludiant rhwng y cartref a'r ysgol i'w chael yma