Gwneud Cais am Le Mewn Ysgol
Gallwch weld yr amserlen derbyn ac apeliadau yma
Cais am Leoliad Cyn Ysgol (3 a 4 oed)
Gwybodaeth a Threfniadau Derbyn 2024-25 (PDF) [637KB]
Gwybodaeth a Threfniadau Derbyn 2025-26 (PDF) [2MB]
Gwybodaeth am sut i wneud cais am le cyn-ysgol yma
Cais am le mewn Ysgol Gynradd
Mae'r Rownd Derbyniadau Ysgol Gynradd hwn wedi'i fwriadu ar gyfer dysgwyr Powys a anwyd rhwng 01/09/20 - 31/08/21 yn agor ar Dydd Mawrth, 1 Hydref 2024.
Y dyddiad cau ar gyfer y rownd ymgeisio yw oedd Dydd Llun 6 Ionawr 2025.
I wneud cais hwyr ar gyfer grŵp blwyddyn Derbyn Medi 2025, cwblhewch y ffurflen gais Trosglwyddo Yn Ystod Blwyddyn sydd i'w chael ar waelod y we-dudalen hon.
Un garfan sydd gan ysgolion cynradd Awdurdod Lleol Powys ymhob blwyddyn ysgol, sy'n cychwyn ar ddechrau tymor yr Hydref wedi i blentyn gyrraedd ei ben-blwydd yn 4 oed.
Sylwer:
Dyddiad Cynnig Cyffredin Ysgolion cynradd yw Dydd Mercher 16 Ebrill 2025.
Nid yw bod â lle mewn dosbarth meithrin neu gyn-ysgol yn gwarantu y bydd y plentyn yn cael lle yn y brif ysgol pan fydd yn cyrraedd ei 4 oed. Bydd yn rhaid i chi wneud cais am le yn y brif ysgol. Os nad ydych chi'n gwneud cais, a'r ysgol rydych chi wedi'i dewis yn llawn, bydd yr ysgol yn cadw'r lle i'r rheiny sydd wedi eisoes gwneud cais.
Gwneud cais am le mewn Ysgol Gynradd Gwneud cais am le mewn Ysgol Gynradd
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Gwybodaeth a Threfniadau Derbyn 2025-26 (PDF) [2MB]
Dalgylchoedd Ysgolion Cynradd Dalgylchoedd Ysgolion Cynradd 2025
Dalgylchoedd Ysgolion Cynradd Cyfrwng Cymraeg Dalgylchoedd Ysgolion Cynradd Cyfrwng Cymraeg 2025
Mae gwybodaeth ynghylch cludiant rhwng y cartref a'r ysgol i'w chael yma
Cais am le mewn Ysgol Uwchradd
Mae'r Rownd Derbyniadau Ysgol Gynradd hwn wedi'i fwriadu ar gyfer dysgwyr Powys a anwyd rhwng 01/09/13 - 31/08/14 yn agor ar Ddydd Llun, 16 Medi 2024.
Y dyddiad cau ar gyfer y rownd ymgeisio yw oedd Dydd Gwener 8 Tachwedd 2024.
I wneud cais hwyr ar gyfer grŵp blwyddyn 7 Medi 2025, cwblhewch y ffurflen gais Trosglwyddo Yn Ystod Blwyddyn sydd i'w chael ar waelod y we-dudalen hon.
Bydd Awdurdod Lleol Powys yn trefnu derbyniadau i ysgolion uwchradd yn ystod Tymor yr Hydref cyn dyddiad y trosglwyddo.
Sylwer:
Dyddiad Cynnig Cyffredin Ysgolion Uwchradd yw Dydd Llun 3 Mawrth 2025.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i
Gwybodaeth a Threfniadau Derbyn 2025-26 (PDF)
[2MB]
Dalgylchoedd Ysgolion Uwchradd Dalgylchoedd Ysgolion Uwchradd 2025
Dalgylchoedd Ysgolion Uwchradd Cyfrwng Cymraeg Dalgylchoedd Ysgolion Uwchradd Cyfrwng Cymraeg 2025
Mae gwybodaeth ynghylch cludiant rhwng y cartref a'r ysgol i'w chael yma
Gwneud cais am le mewn Ysgol Uwchradd Gwneud cais am le mewn Ysgol Uwchradd
Cais am Drosglwyddo yn Ystod y Flwyddyn
Nid ydych yn newid cartref: Os ydych am drosglwyddo'ch plentyn i ysgol wahanol ar unrhyw adeg (ac eithrio ar gyfer symud tŷ), dylech drafod hyn gyda Phennaeth yr ysgol bresennol. Yna dylech fynd at Bennaeth yr ysgol rydych wedi'i dewis, a thrafod y posibilrwydd o dderbyn, gan egluro pam yr hoffech chi newid ysgolion.
Rydych yn newid cartref: Lle gwneir cais oherwydd eich bod wedi symud tŷ, gwnewch yn siŵr bod digon o rybudd i'r trosglwyddiad gael ei ystyried a'i drefnu. Ni all y Tîm Derbyniadau ystyried ceisiadau hyd nes derbyn cadarnhad o ddiwrnod symud.
Os cymeradwyir eich cais am drosglwyddo, bydd eich plentyn yn newid ysgol ar ddechrau tymor neu hanner tymor.
Gwnewch gais am drosglwyddo yn ystod y Flwyddyn yma.
Cais am Drosglwyddo yn Ystod y Flwyddyn yma
Application form for a school place_cym
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i
Gwybodaeth a Threfniadau Derbyn 2024-25 (PDF)
[637KB]
Mae gwybodaeth ynghylch cludiant rhwng y cartref a'r ysgol i'w chael yma
Cysylltiadau ar gyfer ymholiadau ynghylch derbyniadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma