Toglo gwelededd dewislen symudol

Datblygu Tai

Mae Cyngor Sir Powys wedi ymrwymo i ddatblygu 350 o gartrefi cyngor newydd ar rent cymdeithasol rhwng 2023 a 2031 (yn amodol ar argaeledd y tir, sicrhau caniatâd cynllunio a phenderfyniad ar reoli ffosffadau). 

Bydd yr eiddo o ansawdd da, yn gynaliadwy, yn defnyddio ynni yn effeithlon ac yn fforddiadwy i ddiwallu anghenion cymunedau lleol ar draws Powys. Dyrennir eiddo i ymgeiswyr cymwys sydd ar y Gofrestr Tai Cyffredin, yn unol â'r Polisi Dyrannu. Os hoffech ymuno â'r Gofrestr Tai Cyffredin, dilynwch y ddolen hon am ragor o wybodaeth: http://www.homesinpowys.org.uk/

Cryfach, Tecach, Gwyrddach - Ein Cynllun Corfforaethol