Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Cwsmeriaid y Llinell Ofal mae angen i chi fod yn ymwybodol o'r sgam hwn (Ionawr 2025)

Newyddion Datblygu Tai a Digwyddiadau i Ddod

News & Events

Tachwedd 2024

Mae'r Tîm Datblygu Newydd yn Cyngor Sir Powys yn goruchwylio'r gwaith o ddymchwel hen Ysgol Feithrin a  Babanod Yr Eglwys yng Nghymru Gungrog yn y Trallwng.

Dymchwel cyn ysgol yn barod i adeiladu cartrefi cyngor newydd - Cyngor Sir Powys

Tachwedd 2024

Mae'r Tîm Datblygu Newydd wedi trefnu digwyddiad ymgynghori cymunedol yn Llyfrgell Llanfyllin ar gyfer datblygiad tai arfaethedig yn y dref.

Dweud eich dweud ar gynlluniau tai ar gyfer Llanfyllin - Cyngor Sir Powys

Hydref 2024

Bydd y tîm Datblygu Newydd yng Nghyngor Sir Powys yn goruchwylio'r gwaith o ddymchwel y bloc o fflatiau yn Ael Y Bryn / Pen y Bryn yn Ystradgynlais

Dymchwel fflatiau fel y gellir adeiladu cartrefi cyngor newydd - Powys

Hydref 2024

Digwyddiadau Cwrdd â'r Prynwyr ar gyfer Contractwyr Adeiladu a Phriffyrdd ac Ymgynghorwyr

Digwyddiadau Cwrdd â'r  Prynwyr ar gyfer Contractwyr Ac Ymgynghorwyr Adeiladu a Phriffyrdd - Powys

Medi 2024

Bydd y Tîm Datblygu Newydd yng Nghyngor Sir Powys yn adeiladu tua 20 o fflatiau un ystafell wely newydd yng nghanol Llandrindod.

Trosglwyddo'r safle ar gyfer cartrefi newydd yn Llandrindod - Powys

Awst 2024

Gwahoddir preswylwyr ym Mhowys i rannu eu barn ar Hoff Strategaeth y Cyngor Sir ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Newydd Powys.

Digwyddiadau Galw Heibio ar Gynllun Datblygu Lleol Newydd Powys (2022-2037) - Powys

Awst 2024

Digwyddiad Ymgysylltu â'r Gymuned yn yr Ystog i drafod datblygu tai newydd.

Digwyddiad galw heibio wedi'i drefnu i drafod datblygiad tai arfaethedig yn yr Ystog - Powys

Gorffennaf 2024

Mae'r tîm Datblygu Newydd wedi cael caniatâd cynllunio i adeiladu 16 o fyngalos ecogyfeillgar sydd wedi'u hinswleiddio'n drylwyr ar safle hen Ysgol Feithrin ac Ysgol Fabanod Yr Eglwys yng Nghymru Gungrog yn y Trallwng.

Cymeradwyo cais cynllunio datblygu tai - Powys

Mehefin 2024

Bydd y Tîm Datblygu Newydd yng Nghyngor Sir Powys yn goruchwylio'r gwaith o ddymchwel hen ysgol Bronllys.

Dymchwel hen adeilad ysgol - Powys

Mehefin 2024

Mae Cyngor Sir Powys wedi cyflwyno cynlluniau a fyddai'n gweld byngalos eco-gyfeillgar ag inswleiddio trylwyr yn cael eu hadeiladu ar hen safle Ysgol Feithrin a Babanod yr Eglwys yng Nghymru Gungrog, y Trallwng.

Cais cynllunio iw ystyried ar gyfer datblygiad tai

Mehefin 2024

Cyhoeddwyd fod pedwar cartref newydd sydd wedi'u hadeiladu fel rhan o ddatblygiad tai yn ne Powys wedi cael eu prynu gan y cyngor sir ar gyfer rhent cymdeithasol.

Cyngor yn prynu pedwar cartref newydd ar gyfer rhent cymdeithasol

Mai 2024

Mae'r cynllun prynu'n ôl yn helpu'r cyngor i gyflawni ei 'Cartrefi ym Mhowys - Cynllun Busnes Tai'

Y Cyngor yn prynu cyn eiddo hawl-i-brynu yn sgil cynllun prynu'n ôl

Ebrill 2024

Cyhoeddi pecyn tendro ar gyfer datblygiad tai cyngor yn Nhŷ Robert Owen.

Cyhoeddi pecyn tendro ar gyfer datblygiad tai cyngor - Cyngor Sir Powys

Mawrth 2024

Mae cwmni adeiladu a fydd yn adeiladu datblygiad tai fforddiadwy newydd yn y Drenewydd yn chwilio am fusnesau lleol i helpu gyda'r prosiect. 

Cyfle i fusnesau lleol helpu gyda datblygiad tai cyffrous - Cyngor Sir Powys

Mawrth 2024

Mae mwy na  £170m o fuddsoddiad wedi cael ei gynllunio fel rhan o raglen pum mlynedd a fydd yn gweld tai cyngor newydd yn cael eu hadeiladu a gwelliannau'n cael eu gwneud i gartrefi cyngor cyfredol.

Y Cyngor yn datgelu cynlluniau uchelgeisiol i adeiladu a gwella tai cyngor - Cyngor Sir Powys

Mawrth 2024

Mae tenantiaid tai cyngor ym Mhowys wedi cymeradwyo'r gwasanaethau tai yn yr arolwg bodlondeb diweddaraf.

Datgelu Canlyniadau Arolwg Bodlondeb Tenantiaid - Cyngor Sir Powys

Chwefror 2024

Coed newydd i ddisodli rhai isel eu hansawdd fel rhan o ddatblygiad tai - Tŷ Robert Owen

Coed newydd i ddisodli rhai isel eu hansawdd fel rhan o ddatblygiad tai

Chwefror 2024

Mae Cyngor Sir Powys yn paratoi i dendro ar gyfer adeiladu tai cyngor newydd ar safle Ael-y-Bryn, Ystradgynlais, ym Mhowys.

Ionawr 2024

Cynllun Datblygu Lleol Newydd Powys

Cynllun Datblygu Lleol Newydd Powys: Dweud eich dweud ar ddogfen bwysig

Ionawr 2024

Cymeradwyo cynnydd cymedrol mewn rhenti tai cyngor.

Cymeradwyo cynnydd cymedrol mewn rhenti tai cyngor

Rhagfyr 2023

Mae gan drigolion sy'n byw yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant gyfle i ddweud eu dweud ar gynlluniau ar gyfer datblygiad tai arfaethedig yn y pentref. Bydd yr ymgynghoriad cyn ymgeisio yn cau ddydd Mawrth, Ionawr 16, 2024.

Tachwedd 2023

Penodi contractwr i adeiladu datblygiad tai cyngor newydd - Tŷ Robert Owen.

Penodi contractwr i adeiladu datblygiad tai cyngor newydd

Tachwedd 2023

Gynlluniau tai ar gyfer Y Trallwng.

Dweud eich dweud am gynlluniau tai ar gyfer Y Trallwng

Medi 2023

Cwblhawyd adeilad Draig Goch (Y Drenewydd), sy'n darparu ystod o dai cyngor rhent cymdeithasol, dwy, tair, pedair a phum ystafell wely.

Agoriad swyddogol o ddatblygiad tai cyngor newydd yn y Drenewydd

Gorffennaf 2023

Cafwyd caniatâd cynllunio ym Pen y Bryn/Ael y Bryn

Cynlluniau cyffrous ar gyfer tai cyngor newydd wedi'u cymeradwyo

Mehefin 2023

Cynllun prynu'n ôl i brynu eiddo oedd yn dai cyngor

Mai 2023

Mae'r pecyn tendro i adeiladu 32 fflat un ystafell wely ar safle Tŷ Robert Owen yn y Drenewydd wedi cael ei gyhoeddi bellach.

Ebrill 2023

Agoriad swyddogol bloc Y Lawnt (Lawnt Fowlio gynt) o 26 o fflatiau un ystafell wely yn y Drenewydd.

Cais cynllunio (23/0485/FUL) wedi'i gyflwyno yn gysylltiedig â'r prosiect adfywio Pen Y Bryn/Ael Y Bryn.

Dymchwel pedwar bloc o 24 o fflatiau ac adeiladu pedwar bloc o 16 o fflatiau a'r holl waith cysylltiedig | Tir ar leoliad yr Hen Fflatiau - Pen Y Bryn ac Ael Y Bryn, Ystradgynlais, Powys, SA9 1JA.

https://pa.powys.gov.uk/online-applications/applicationDetails.do?keyVal=RS0M1IMPN3C00&activeTab=summary

Sêl bendith swyddogol ar gyfer datblygiad tai'r Lawnt

Mawrth 2023

Adeilad Y Lawnt (Y Drenewydd) wedi'i gwblhau, gan ddarparu 26 o fflatiau cyngor un ystafell wely ar gyfer rhent cymdeithasol.

Chwefror 2023

Prynu eiddo

Mae'r Tîm Datblygu Tai yn dechrau ar ei gynllun prynu eiddo, sydd â'r nod o gynyddu argaeledd tai fforddiadwy ar gyfer rhent cymdeithasol ym Mhowys.

Mae'r Tîm Datblygu Tai yn canolbwyntio'n bennaf ar brynu cartrefi a werthwyd yn flaenorol o dan yr Hawl i Brynu, gan eu bod eisoes wedi'u lleoli ar ystadau tai cyngor presennol.

Mae'r cynllun hwn yn arbennig o bwysig i gynyddu'r ddarpariaeth tai fforddiadwy mewn ardaloedd o Bowys lle mae lefelau ffosffad yn yr afonydd ar hyn o bryd yn effeithio ar ein gallu i ddatblygu tai cyngor newydd ar gyfer rhent cymdeithasol.

Ionawr 2023

Tir gyferbyn â Maesydre, Llanfyllin i'w brynu, i'w ddatblygu'n dai fforddiadwy ar gyfer rhent cymdeithasol.

Cynhaliwyd digwyddiad cymunedol ar 21 Ionawr 2023 yn Neuadd Goffa Llansilin, i geisio barn trigolion ar gynllun tai fforddiadwy posibl yn y pentref.

Rhagfyr 2022

Cynllun Tai Fforddiadwy Llandrindod

Medi 2022

Cwblhawyd cynllun tai cymdeithasol Clos yr Hen Ysgol (Llanidloes), gan ddarparu 22 o dai a byngalos ar gyfer rhent cymdeithasol.

Cwblhawyd cynllun tai cymdeithasol Dan-y-Castell (Cleirwy), gan ddarparu 13 o dai, byngalos a fflatiau cerdded i fyny ar gyfer rhent cymdeithasol.

Gorffennaf 2022

Cwblhawyd prynu 7 cartref fforddiadwy newydd ar rent cymdeithasol yn Llanigon.

Mehefin 2022

Derbyniwyd caniatâd cynllunio ar gyfer Tŷ Robert Owen i adeiladu 32 o fflatiau cyngor newydd un llofft ar rent cymdeithasol.

Ebrill 2022

Derbyniwyd caniatâd cynllunio ar gyfer 24 o gartrefi fforddiadwy am rent cymdeithasol yn Nhrawscoed, Llandrinio.

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu