Toglo gwelededd dewislen symudol

Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Cwmtwrch Isaf

Ystradgynlais Recycling Centre

Oriau Agor

Dydd Llun: 9am i 5pm

Dydd Mawrth a Dydd Mercher: Ar gau

Dydd Iau a Dydd Gwener: 9am - 5pm

Dydd Sadwrn a Dydd Sul: 10am i 4pm

 

Oriau agor Gwyliau'r Banc

Mae Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Cwmtwrch Isaf ar agor ar wyliau banc, ac eithrio pan fydd y rhain yn disgyn ar ddyddiau y bydd y ganolfan ar gau (Dydd Mawrth a Dydd Mercher).

Bydd y safle ar gau ddydd Nadolig, Dydd San Steffan a Dydd Calan.

 

Ble i ddod o hyd i ni

Bethel Road, Cwmtwrch Isaf, Powys, SA9 2HW

 

 

Cyfyngiadau

Cyfyngir cerbydau i derfyn o 3.5 tunnell o bwysau uchaf.

Gwiriwch pa gyfyngiadau sy'n bodoli ac a oes angen caniatâd arnoch i gael mynediad i'r safle hwn yma.

Cerbydau Masnachol neu Drelars

Mae'r Cyngor yn gweithredu cynllun trwyddedu Cerbydau Masnachol neu Drelars ym mhob Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi yn y Sir.  Mae hyn yn golygu bod angen caniatâd ar rai cerbydau neu drelars er mwyn cael mynediad i'r safleoedd.  Cyn i chi ymweld, gofalwch eich bod wedi darllen telerau ac amodau'r polisi i wirio a oes angen trwydded ar eich cerbyd neu drelar.  Mae trwyddedau yn rhad ac am ddim a gellir gwneud cais amdanynt ar-lein. 

Cofiwch os ymwelwch â safle heb y drwydded angenrheidiol, ni fyddwch yn gallu gollwng eich gwastraff.

Gwnewch gais am drwydded CVT am ddim Trwydded Cerbydau Masnachol ac Ôl-gerbydau (CVT)

Gwastraff Cymysg

Er mwyn sicrhau ein bod yn ailgylchu cymaint â phosibl yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi, mae'r Cyngor yn gweithredu polisi 'dim gwastraff cymysg'. Mae hyn yn golygu ei bod yn ofynnol i breswylwyr ddidoli eu gwastraff cyn ymweld â'r safleoedd, gan dynnu'r holl ddeunydd ailgylchadwy allan. Bydd staff y safle yn gofyn i unrhyw breswylydd sy'n dod â gwastraff cymysg i'r canolfannau ailgylchu ddidoli'r gwastraff ar y safle.

Os ydych chi'n dod â sbwriel ychwanegol (sachau duon / porffor) ar ôl colli casgliad o fin y ffordd, cofiwch bod modd ailgylchu llawer mwy o ddeunydd megis ffilm blastig ac eitemau trydanol yn y Canolfannau Ailgylchu na thrwy'r casgliad wythnosol o fin y ffordd.  Gallwch hefyd sortio'r eitemau hyn i wahanol flychau ailgylchu ar y safle heb eu rhoi yn y sachau sbwriel.

Darllenwch y canllaw ailgylchu A-Y am restr lawn o'r hyn y gallwch neu na allwch ei ailgylchu yn y Canolfannau Ailgylchu.

Prawf preswylio

Mae trigolion Powys yn talu am ein canolfannau ailgylchu. Efallai y gofynnir i chi ddarparu prawf preswylio (fel bil treth y cyngor neu fil cyfleustodau diweddar, neu drwydded yrru ddilys) cyn cael caniatâd i ollwng unrhyw ddeunydd.

 

Yr hyn yr ydym yn ei dderbyn

Bwrdd plastr

Nid ydym yn derbyn bwrdd plastr yn y ganolfan ailgylchu hon.

Asbestos

Ni dderbynnir asbestos yn unrhyw un o Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi'r Cyngor. Cynghorir preswylwyr i gysylltu â chwmni sydd â thrwydded addas i gael gwared ar y deunydd hwn.

Popeth arall

Defnyddiwch y ddolen isod i ganfod pa ddeunyddiau sy'n cael eu derbyn trwy gasgliad ochr y ffordd neu Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi'r Cyngor.

A - Y o wastraff ac eitemau i'w hailgylchu

 

Cerddwyr

Am resymau iechyd a diogelwch, mae mynediad i gerddwyr wedi'i gyfyngu yn yr holl Ganolfannau Gwastraff ac Ailgylchu o'r Cartref (HWRC). Os nad oes gennych gerbyd, ac angen cerdded i'r HWRC, cysylltwch â ni o flaen llaw i drefnu dyddiad ac amser addas i ymweld â'r ganolfan, a bydd ein staff yn cwrdd â chi wrth y gât. Cysylltwch â ni yn waste.contracts@powys.gov.uk neu ffoniwch 01597 827465.

 

Gwastraff Gardd

Rydym yn cynnig Casgliad Gwastraff Gardd o ymyl y ffordd am dâl bychan.

Gwnewch gais am Wasanaeth Gwastraff Gardd Casglu gwastraff o'r ardd

 

Gwastraff Masnachol

Ni dderbynnir gwastraff masnachol na ellir ei ailgylchu yn ein Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi. Mae busnesau yn gallu gollwng eu deunydd ailgylchu masnachol os oes ganddynt drwydded gan y Cyngor. I wneud cais am drwydded ailgylchu masnachol ar gyfer eich busnes, cysylltwch â'r tîm Contractau Gwastraff ar 01597 826680 neu e-bost waste.contracts@powys.gov.uk