Toglo gwelededd dewislen symudol

Talu Treth Y Cyngor

Cliciwch yma i weld mwy o dudalennau sydd ar gael yn Iaith Arwyddion Prydain.
 

 

Bydd eich bil Treth y Cyngor yn cynnwys tair elfen:

  • Tâl Treth y Cyngor
  • Archeb a bennir gan Heddlu Dyfed Powys
  • Archeb a bennir gan eich Cyngor Tref neu'ch Cyngor Cymunedol lleol

Dangosir yr archebion a godir ar wahân ar eich bil Treth y Cyngor.

 

Gallwch dalu:

 

Debyd Uniongyrchol

Sefydlu neu ddiwygio debyd uniongyrchol presennol ar-lein mewn 4 cam hawdd:

  1. Cofrestru / Logio mewn i 'Fy Nghyfrif' Powys
  2. Ychwanegu manylion at Broffil eich cyfrif  (enw, cyfeiriad, e-bost a chyfeirnod Treth y Cyngor)
  3. Clicio ar Fy Nghyfrif i weld crynodeb Treth y Cyngor a chlicio ar y botwm i 'Weld y Cyfrif Llawn'.
  4. Dan y pennawd talu, dewiswch Sefydlu / diwygio Debyd Uniongyrchol.

 

Cerdyn debyd/credyd

Talwch gyda cherdyn gan ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein 

 ac

Gallwch dalu gyda cherdyn debyd/credyd ar y rhif ffôn awtomataidd 24 awr: 03300 889 578.

Cofiwch gael yr anfoneb neu'r cyfeirnod wrth law pan fyddwch yn ffonio.

 

Mewn unrhyw Swyddfa Bost

Talwch mewn unrhyw Swyddfa Bost yn y DG neu trwy PayPoint neu ePay.

Defnyddiwch y cod bar talu sydd ar flaen eich bil.

Gwnewch sieciau'n daladwy i Swyddfa'r Post Cyf.

 

Trwy'r Post

Gwnewch Sieciau neu Orchmynion Post yn daladwy i Cyngor Sir Powys.

Ysgrifennwch eich Cyfeirnod Cyfrif Treth y Cyngor ar gefn eich siec neu orchymyn post. 

Anfonwch eich taliad i PO Box 71, Llandrindod, LD1 9AQ.

 

Cysylltiadau

  • Ffôn: 01597 827463  (oriau agor y swyddfa 9am - 1pm Llun - Gwe)

    Y gwasanaeth treth y cyngor / trethi busnes a dyfarniadau ar gael i gymryd galwadau rhwng 9 am tan 1pm yn unig.  Ein nod yw cael digon o staff ar gael yn ystod yr oriau hyn i helpu i wella'r amser y mae'n cymryd i ateb galwadau.
  • E-bost: revenues@powys.gov.uk
  • Ysgrifennwch aton ni yn: Neuadd Sir Powys, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau