Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwarchod y Cyhoedd Polisi Cydymffurfio a Gorfodaeth

8. Ymateb i dorri'r rheolau

8.1     Trosolwg

8.1.1 Wrth ymateb i achosion o dorri'r gyfraith, mae ystod o gamau gweithredu ar gael i'r Gwasanaeth, a ddisgrifir yn 8.4 isod.  Penderfynir ar ba gamau gweithredu priodol i'w cymryd ar ôl ystyried ffeithiau penodol pob achos yn ofalus ac ar ôl ystyried ymagwedd y troseddwr honedig ac unrhyw sylwadau y byddent am i ni eu cymryd i ystyriaeth.

Fel arfer, byddwn yn gweithredu fesul cam ar sail yr hierarchaeth o gamau gorfodi gan symud at gamau ffurfiol pan fydd ymdrechion anffurfiol wedi methu â chael yr effaith a geisiwyd.

Mewn amgylchiadau lle gallai fod amheuaeth bod troseddwr wedi cyflawni troseddau ar draws nifer o ardaloedd awdurdod lleol, gallai fod yn fwy priodol i awdurdod lleol arall y tu allan i'n hardal gymryd camau gorfodi, hyd yn oed os yw'r trosedd wedi'i gyflawni oddi mewn i ardal Cyngor Sir Powys.  

Ond fel arall hefyd, gallai fod adegau pryd y byddai'n fwy priodol i'r Gwasanaeth gymryd camau gorfodi'n ymwneud â throseddau a ddigwyddodd yn rhywle arall.  Yn yr amgylchiadau hyn, gallwn lunio cytundeb cyfreithiol fel bod un awdurdod yn arwain ar y mater, yn ôl yr hyn a fyddai'n briodol, gan ddefnyddio darpariaethau Adran 19 Deddf Llywodraeth Leol 2000, Adrannau 101 a 222 Deddf Llywodraeth Leol 1972, neu unrhyw ddarpariaethau eraill i alluogi hyn, neu ddarpariaethau Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015. Bydd y rhesymau am y penderfyniadau'n cael eu cofnodi yn y broses gyfreithiol.

8.2     Cynnal ymchwiliadau

8.2.1 Bydd pob ymchwiliad yn cael ei gynnal gan dalu sylw dyledus i'r ddeddfwriaeth ganlynol ac unrhyw ganllawiau neu godau ymarfer cysylltiedig a fyddai'n berthnasol i Bowys.

  • Deddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol 1996
  • Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984
  • Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000
  • Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2001
  • Deddf Hawliau Dynol 1998
  • Deddf Diogelu Rhyddid 2012

Mae'r Deddfau hyn a'u canllawiau cysylltiedig yn rheoli sut y mae tystiolaeth yn cael ei chasglu a'i defnyddio, gan roi amrediad o warchodaeth i ddinasyddion a diffynyddion posib.

8.2.2 Mae ein trefn o holi diffynyddion honedig yn dilyn yr egwyddorion a ddisgrifir yn Neddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, yn ei ffurf ddiwygiedig, a'r Codau Ymarfer cysylltiedig perthnasol.

8.2.3 Rhoddir pwerau gorfodaeth i ni o dan y ddeddfwriaeth sy'n awdurdodi ein swyddogion ac mae staff yn defnyddio'r pwerau hyn pan fo angen, ond bob amser mewn ffordd gymesur.  Mae swyddogion yn rhesymol ddisgwyl i bobl gydweithredu ag ymchwiliad i honiadau o dorri'r rheolau a gall fod yn drosedd rhwystro swyddog awdurdodedig yn ystod eu dyletswyddau.

8.2.4 Lle bydd swyddogion yn ymarfer eu pwerau i atafaelu, bydd y person yr atafaelir unrhyw nwyddau neu ddogfennau ganddynt (neu eu cynrychiolydd) yn cael gwybod a rhoddir derbynneb iddynt.  Bydd yr eitemau a atafaelir yn cael eu cadw'n ddiogel ac yn unol â'r weithdrefn swyddogol.

8.2.5 Nid yw troseddwyr fel arfer yn wynebu'r posibilrwydd o gael eu harestio o dan y gyfraith a orfodir gan wasanaethau Cyngor Sir Powys, ond mae rhai eithriadau i hyn.  Maen nhw'n cynnwys troseddau o dan Ddeddf Nodau Masnach 1994, a chyfraith arall, lle byddai angen gwneud prawf anghenraid o dan Adran 24 Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984, er enghraifft os byddai dwyn achos yn cael ei rwystro pe bai'r troseddwr yn diflannu.

8.2.6 Bydd pob ymchwiliad yn cael ei gwblhau'n amserol a thrwy dalu sylw i unrhyw derfynau amser ar gyfer dwyn achos ffurfiol o dan ddeddfwriaeth benodol.

8.2.7 Lle mae gan y Cyngor fudd mewn safle, bydd yn hyrwyddo a blaenoriaethu cydymffurfio yn yr un ffordd ag y byddai'n gwneud ar gyfer safleoedd eraill na fyddai ganddo fudd ynddynt. Bydd hefyd yn sicrhau bod y sylw a roddir yn unol â'r meini prawf a gymhwysir i eraill sydd â dyletswydd i weithredu.

8.3     Cyfathrebu

8.3.1 Mae ein staff bob amser yn cyfathrebu ag unrhyw Brif Awdurdod neu Awdurdod Cartref cyn gynted ag y bo modd mewn ymchwiliad.

8.3.2 Bydd y rhai y bydd gorfodaeth yn effeithio arnynt, gan gynnwys tystion a diffynyddion, yn cael eu diweddaru ar gynnydd yr ymchwiliad mewn ffordd glir, briodol ac amserol.  

8.3.3 Lle bo hynny'n briodol, bydd canlyniadau ein herlyniadau'n cael eu cyhoeddi drwy wahanol gyfryngau a gydag unrhyw bartneriaid a fu'n rhan o'r achos.  Gallwn hefyd dynnu sylw partïon budd at y canlyniadau hyn, yn cynnwys dioddefwyr a thystion.

8.4     Penderfyniadau ar gamau gorfodi

Mae ystod o ganlyniadau gorfodaeth, a ddisgrifir isod, ar gael i'r Gwasanaeth.  Penderfynir ar ba gamau a fyddai'n briodol i'w cymryd ar ôl ystyried amgylchiadau pob achos unigol yn ofalus.

Defnyddiwn gymorth a chyngor ar gydymffurfio fel ymateb cyntaf mewn nifer o achosion o dor-deddfwriaeth sy'n cael eu hadnabod.  Rhoddir cyngor, weithiau drwy anfon llythyr o rybudd, i gynorthwyo unigolion a busnesau i gywiro unrhyw dor-deddfwriaeth cyn gynted ac mor effeithiol â phosib, fel y gellir osgoi unrhyw gamau gorfodi pellach.  Bydd llythyr o rybudd yn egluro beth y dylid ei wneud i gywiro'r tor-deddfwriaeth ac i'w atal rhag digwydd eto.

Os bydd achos tebyg o dor-deddfwriaeth yn digwydd eto, byddwn yn ystyried unrhyw lythyr o rybudd blaenorol wrth feddwl am ba gamau gorfodi a fyddai fwyaf priodol i'w cymryd y tro hwnnw.   Ni ellir cyfeirio at lythyr o'r fath yn y llys fel euogfarn flaenorol, ond mae'n bosib ei gyflwyno fel tystiolaeth o wybodaeth ffeithiol fel rhan o gais cymeriad gwael.

Rydym yn cydnabod, lle mae busnes yn rhan o Bartneriaeth gyda Phrif Awdurdod, y gall y Prif Awdurdod roi cymorth a chyngor ar gydymffurfio, ac y bydd yn ystyried y cyngor hwn wrth feddwl am ba gamau gorfodi a fyddai fwyaf priodol i'w cymryd.  Gallwn drafod gyda'r Prif Awdurdod a oes angen unrhyw gymorth a chyngor ar gydymffurfio.

Byddwn yn cyfeirio at Gôd Ymarfer Erlynwyr y Goron wrth ystyried sut i ymdrin ag unrhyw achos o dor-deddfwriaeth honedig:

Mae nifer o rwymedïau sifil a chamau gorfodi troseddol ar gael i'r Gwasanaeth:

8.4.1 Rhwymedïau sifil

8.4.1.1 Ymrwymiadau gwirfoddol

Gallwn dderbyn ymrwymiad gwirfoddol i gywiro achos o dor-rheolau a / neu ei atal rhag ailddigwydd.  Bydd y Gwasanaeth yn cymryd unrhyw fethiant i anrhydeddu ymrwymiad gwirfoddol o ddifrif a bydd camau gorfodi yna'n debygol.

8.4.1.2 Camau gwaharddeb

Mewn rhai amgylchiadau, gallai'r Gwasanaeth ofyn i'r llys am waharddeb neu orchymyn bod tor-deddfwriaeth yn cael ei gywiro a / neu ei atal rhag ailddigwydd, neu gallai reoli neu wahardd gweithgaredd penodol yn y dyfodol.  Gallai'r llys hefyd gyfarwyddo bod gweithgareddau penodol yn cael eu gohirio tan fydd y tor-deddfwriaeth wedi'i gywiro a / neu ragofalon wedi eu rhoi yn eu lle i atal tor-deddfwriaeth yn y dyfodol.

Bydd methu â chydymffurfio â gwaharddeb yn ddirmyg llys sy'n drosedd difrifol a allai arwain at ddedfryd o garchar.

8.4.1.3 Sancsiynau sifil

O dan Ddeddf Gorfodi Rheoleiddio a Sancsiynau 2008, gall y llywodraeth roi pŵer i awdurdodau lleol orfodi amrywiol sancsiynau sifil newydd.  Yr opsiynau hyn yw:

  • Cyflwyno hysbysiad cosb ariannol benodedig
  • Cyflwyno hysbysiad cosb ariannol amrywiadol
  • Cyflwyno hysbysiad cydymffurfio
  • Cyflwyno hysbysiad adfer
  • Cyflwyno hysbysiad stop
  • Caniatáu i fusnes wneud ymrwymiad gorfodi

O dan rai cyfreithiau, mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru bwerau i gyflwyno:

Cosbau Ariannol Penodedig

Gall y Gwasanaeth gyflwyno Cosb Ariannol Benodedig, sydd wedi'i chapio ar lefel gymharol isel ac ni fwriedir iddi gael ei defnyddio gydag achosion mwy difrifol o ddiffyg cydymffurfio.  Nid dirwyon troseddol yw Cosbau Ariannol Penodedig ac nid ydynt yn ymddangos ar gofnod troseddol rhywun.  Ni ellir defnyddio Cosbau Ariannol Penodedig ar y cyd ag unrhyw sancsiwn arall.

Gofynion Disgresiynol

O dan ddeddfwriaeth benodol, mae gan y Gwasanaeth bwerau i gyflwyno Cosbau Ariannol Amrywiadol a Gofynion Disgresiynol Di-ariannol. Gellir cyflwyno Cosb Ariannol Amrywiadol hyd at yr uchafswm a nodir yn y ddeddfwriaeth berthnasol.  Os gwneir Gofyniad Disgresiynol Di-ariannol, rhaid cymryd camau i sicrhau nad yw'r tor-deddfwriaeth yn parhau neu'n ailddigwydd.  Lle mae'r Gwasanaeth yn dewis cyflwyno Gofyniad Disgresiynol Di-ariannol, bydd yn nodi'n glir beth fydd y camau hynny a thros ba gyfnod y mae'n rhaid eu cwblhau.  Bydd methu â chydymffurfio â'r Gofyniad yn debygol o arwain at gosb ariannol.  Gellir defnyddio Cosb Ariannol Amrywiadol a Gofyniad Disgresiynol Di-ariannol mewn cyfuniad â'i gilydd.

Os bydd y Llywodraeth yn rhoi pwerau i'r Gwasanaeth ddefnyddio sancsiynau ychwanegol, byddwn yn cydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol ar eu defnyddio, yn rhoi arweiniad ar sut y defnyddiwn y cosbau hyn, ac yn cyhoeddi manylion unrhyw achos lle defnyddir y sancsiynau hyn.

8.4.2 Camau Gorfodaeth Troseddol

8.4.2.1 Hysbysiadau Statudol

Gyda llawer o achosion tor-deddfwriaeth, mae gan y Gwasanaeth bwerau i gyflwyno hysbysiad statudol. Maen nhw'n cynnwys: 'Hysbysiadau Stop', 'Hysbysiadau Gwahardd', 'Hysbysiadau Gwahardd Brys', a 'Hysbysiadau Gwella'.   Mae'r hysbysiadau hyn yn rhwymo'n gyfreithiol. Gallai methu â chydymffurfio â hysbysiad statudol fod yn drosedd a gallai arwain at erlyn a / neu, lle bo hynny'n briodol, at gyflawni gwaith yn ddiofyn (wele 8.4.4 isod).

Bydd hysbysiad statudol yn nodi'n glir pa gamau sydd i'w cymryd ac erbyn pryd y mae'n rhaid eu cwblhau.  Mae'n debygol o ofyn bod unrhyw dor-rheolau'n cael ei gywiro a / neu ei atal rhag digwydd eto.  Gallai hefyd wahardd gweithgareddau penodedig tan fydd y tor-deddfwriaeth wedi'i gywiro a / neu ragofalon wedi eu rhoi yn eu lle i atal tor-deddfwriaeth yn y dyfodol.  Lle mae hysbysiad statudol yn cael ei gyflwyno, bydd esboniad o'r broses apelio'n cael ei roi i'r derbynnydd.

Gyda rhai hysbysiadau a gyflwynir yng nghyswllt eiddo, gellir eu rhoi ynghlwm wrth yr eiddo a / neu eu cofrestru fel pridiannau tir lleol.

8.4.2.2 Hysbysiad cosb benodedig a hysbysiad cosb am anrhefn

Mae gan y Gwasanaeth bwerau i gyflwyno hysbysiad cosb benodedig am rai achosion o dor-rheolau. Mae'r hysbysiadau hyn yn rhoi cyfle i'r troseddwr osgoi cael eu herlyn drwy dalu'r gosb ariannol benodedig i gydnabod y trosedd.  Mae penderfynu rhoi Hysbysiad Cosb Benodedig, neu am werthu alcohol i rai dan oed, Hysbysiad Cosb am Anrhefn, yn fater o ddisgresiwn gan y swyddog ymchwilio.  Cyflwynir y rhain dim ond ble y byddai'r dystiolaeth yn ddigon i gefnogi erlyn.

Nid yw talu cosb benodedig yn golygu bod unigolyn yn imiwn rhag cael eu herlyn am dor-deddfwriaeth tebyg neu bellach.  Mewn rhai amgylchiadau, yn enwedig lle mae'r tor-deddfwriaeth mor ddifrifol neu'n ailddigwydd, bydd erlyn efallai'n fwy priodol na chyflwyno hysbysiad cosb benodedig.

8.4.2.3 Ymchwiliadau ariannol ac Atafaelu Asedau

Byddwn yn cynnal ymchwiliad ariannol o dan Ddeddf Enillion Troseddu 2002 a Rheoliadau Gwyngalchu Arian, Ariannu Terfysgaeth a Throsglwyddo Cronfeydd (Gwybodaeth am y Talwr) 2017 i gynorthwyo ymchwiliadau a phenderfynu ar lefel y budd troseddol a gafwyd o'r ymddygiad troseddol ac unrhyw asedau sydd ar gael. Byddwn yn cyflwyno gorchmynion datgelu a gorfodaeth i gynorthwyo gyda hyn.  Mewn achosion lle mae'r person dan amheuaeth yn debygol o afradu'r asedau neu lle credwn yn rhesymol ei fod yn gymesur, byddwn yn atal asedau lle mae achos troseddol yn cael ei ystyried.  Ni fyddwn yn penderfynu dod ag achos cyfreithiol dim ond ar y sail o geisio cael gafael ar arian cymhelliad o gamau a gymerir o dan y Ddeddf POCA.

Os derbynnir unrhyw arian o system cymhelliad y Swyddfa Gartref, bydd yr arian yn cael ei gadw mewn cyfrif wrth gefn a'i ail-fuddsoddi mewn gwaith enillion troseddu a strategaethau troseddu ac anrhefn sy'n berthnasol i'r gwasanaeth a dderbyniodd yr arian, ac mewn cynlluniau cymunedol i leihau troseddu ac anrhefn, a byddwn yn cynhyrchu cynlluniau blynyddol i gwrdd ag archwiliadau'r Swyddfa Gartref o'r gwaith hwn.

8.4.2.4 Gorchmynion Gorfodi

Mewn rhai amgylchiadau gallai'r Gwasanaeth ofyn am orchymyn llys. Bydd methu â chydymffurfio â gorchymyn llys yn ddirmyg llys sy'n drosedd difrifol a allai arwain at ddedfryd o garchar.

Mae'n ofynnol i'r Gwasanaeth wneud cais am orchmynion gorfodi ar ôl cyflwyno rhai hysbysiadau gorfodi, i roi cyfle i'r llys gadarnhau'r cyfyngiadau a orfodir gan yr hysbysiad.  Fel arall, gofynnir am orchymyn llys fel arfer dim ond lle mae pryderon difrifol na fydd y diffynnydd yn cydsynio i, neu'n cydymffurfio ag ymrwymiad gwirfoddol neu hysbysiad.

Mewn rhai achosion, gallai'r Gwasanaeth ofyn i'r Llys am orchmynion fforffedu yng nghyswllt nwyddau neu eitemau a gipiwyd, gyda golwg ar eu dinistrio / atafaelu.

8.4.2.5 Troseddau iechyd a diogelwch

Pan fydd amgylchiadau'n arwain at gamau gorfodi o dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, byddwn hefyd yn ystyried Datganiad Polisi Gorfodaeth yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch:

Datganiad Polisi Gorfodaeth

Hefyd, byddai unrhyw benderfyniad gorfodaeth am resymau iechyd a diogelwch wedi'i wneud drwy'r Model Rheoli Gorfodaeth hwn.

Ar gyfer materion Iechyd a Diogelwch, bydd y Panel Heriau Rheoleiddio Annibynnol yn edrych ar gwynion am gyngor a roddwyd a ystyrir i fod yn anghywir neu sy'n fwy na'r hyn sydd ei angen i reoli'r risg yn ddigonol. Mae'r panel her yn gyfrwng annibynnol i unrhyw berson (yn gwmni neu'n unigolyn) gael cwyno am gyngor a roddwyd neu gamau y gorfodwyd iddynt eu cymryd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu reoleiddwyr iechyd a diogelwch Awdurdod Lleol.  Ni fydd yn ystyried camau a gymerwyd, neu gyngor a roddwyd, gan y rheoleiddiwr lle mae trefniadau statudol ar gyfer apelio.  Yn y lle cyntaf, dylai unrhyw un sydd am gwyno geisio datrys y mater yn lleol gyda'r rheoleiddwyr a'u rheolwyr.  Os na fydd hyn yn gweithio, gellir codi cwyn gyda'r panel.  Bydd y panel ond yn canolbwyntio ar brif destun cwyn.  Y Panel Heriau Rheoleiddio Annibynnol (hse.gov.uk) <https://www.hse.gov.uk/contact/challenge-panel.htm>

8.4.2.5 Rhybuddiad Syml

Mae rhybuddiad syml (rhybuddiad ffurfiol o'r blaen) yn opsiwn arall yn lle erlyn, mewn amgylchiadau lle byddai'r rhybuddiad yn debygol o fod yn effeithiol ac mae ei ddefnyddio'n briodol i'r trosedd.  Mae'n gyfaddefiad o euogrwydd, ond nid yw'n ddedfryd, nac ychwaith yn euogfarn droseddol.

Rhoddir rhybuddiadau syml gan uwch-swyddog a dim ond i droseddwr dros 18 oed yn yr amgylchiadau canlynol:

  • Os nad oes digon o dystiolaeth bod euogfarn yn realistig,
  • Mae'r troseddwr yn cyfaddef eu bod yn euog, a
  • Ystyrir y byddai rhybuddiad syml, yn hytrach na dwyn achos troseddol, o fudd i'r cyhoedd.

Nid oes ymrwymiad cyfreithiol bod yn rhaid derbyn cynnig o rybuddiad syml am drosedd, ond bydd methu ei dderbyn fel arfer yn arwain at erlyn. Bydd pob achos yn cael ei ystyried yn unigol.        

Lle mae'r trosedd yn un sy'n rhaid ei gofnodi, bydd rhybuddiad syml yn ymddangos ar gofnod troseddol y troseddwr.  Mae'n debygol o ddylanwadu ar sut fydd y Gwasanaeth ac eraill yn delio ag unrhyw achosion pellach tebyg o dor-rheolau a gellir cyfeirio ato os yw'n berthnasol i achos yn y dyfodol.  Os rhoddir rhybuddiad syml i unigolyn (yn hytrach na chwmni corfforaethol), gallai fod canlyniadau iddynt os ydynt yn chwilio am rai mathau o gyflogaeth.

Defnyddir rhybuddiadau syml yn unol â'r canllawiau ar rybuddio oedolion sy'n troseddu:

Rhybuddiadau Syml: Canllawiau i'r heddlu ac erlynwyr - GOV.UK (www.gov.uk)

Am bob rhybuddiad syml, bydd y rheolwr yn yr achos yn penderfynu a yw'n rhesymol neu beidio ystyried dirwyo ac anfonebu'r person / busnes / cwmni sy'n destun yr ymchwiliad. Ni fydd hyn yn amodol ar lofnodi'r rhybuddiad ond byddai'n cael ei wneud pan fyddai un o'r canlynol yn digwydd:

  • Lle mae troseddau sylweddol ac mae'r gwasanaeth wedi achosi costau helaeth wrth ymchwilio iddynt, a hefyd
  • Lle mae'r swyddog arweiniol proffesiynol o'r farn y byddai'n gymesur â'r trosedd dan sylw.

8.4.2.6 Erlyn

Gallwn erlyn am dor-deddfwriaeth, yn enwedig yn erbyn rhai sy'n diystyru'r gyfraith neu'n ymddwyn yn anghyfrifol, neu lle mae risg daer i iechyd a diogelwch.  Lle mae mathau eraill o gamau gorfodi, fel ymgymeriadau gwirfoddol, rhybuddiad neu hysbysiadau statudol wedi methu ag arwain at gydymffurfio, bydd erlyn yn fwy tebygol.

Fel gyda'r opsiynau gorfodi blaenorol, bydd nifer o ffactorau'n cael eu hystyried, gan gynnwys ond nid yn unig -  

  • Pa mor ddifrifol yw'r trosedd,
  • Hanes blaenorol y troseddwr,
  • Unrhyw amddiffyniad statudol,
  • Camau a gymerwyd i osgoi ail-ddigwydd,
  • Unrhyw eglurhad a roddir a, lle mae'r gyfraith yn caniatáu, amgylchiadau ac agwedd y troseddwr,
  • Y camau gorau i'w cymryd er budd y cyhoedd,
  • A oes gobaith realistig o sicrhau euogfarn.

Bydd penderfyniad ynghylch ai erlyn a fyddai'r cwrs gweithredu mwyaf priodol mewn achos penodol yn cael ei wneud

  • yn unol â'r polisi hwn,
  • yn unol â'r cod ymddygiad ar gyfer Erlynwyr y Goron Y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron (cps.gov.uk)
  • ac yn unol â'r gofynion statudol gan ystyried unrhyw godau ymarfer perthnasol, a heb unrhyw oedi diangen.

Drwy ddilyn y cod ar gyfer Erlynwyr y Goron, byddwn ond yn dechrau erlyn os yw'r Cyngor yn fodlon bod digon o dystiolaeth i gynnig gobaith realistig o sicrhau euogfarn yn erbyn y diffynnydd neu ddiffynyddion.  Rhaid i'r Cyngor hefyd fod yn fodlon, ar ôl ystyried yr holl ffeithiau perthnasol a'r amgylchiadau yn yr achos, a'r meini prawf o dan y Cod ar gyfer Erlynwyr y Goron, y byddai erlyn o fudd i'r cyhoedd.

Ar ôl ystyried yr holl ffeithiau perthnasol ac amgylchiadau'r achos, bydd y Pennaeth Gwasanaeth neu'r Uwch-Reolwr yn penderfynu ar ba gamau y dylai'r awdurdod lleol eu cymryd ar sail argymhelliad Swyddog Arweiniol Proffesiynol y gwasanaeth perthnasol, ac ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol.

Byddwn yn sicrhau bod cyfansoddiad yr awdurdod yn adlewyrchu'r cynllun dirprwyo ar gyfer dechrau dwyn achos, a'i fod yn cael ei ddiweddaru'n gyson.

Mewn rhai amgylchiadau, yn ymwneud er enghraifft â materion iechyd a diogelwch, bydd achos cyfreithiol yn cael ei ddwyn yn enw'r swyddog awdurdodedig a ddynodwyd fel arolygydd priodol.

Bydd erlyniad llwyddiannus yn arwain at gofnod troseddol.  Mae ystod o gosbau ar gael i'r llys gan ddibynnu ar y cyhuddiad, amgylchiadau'r achos, a'r troseddwr.  Maen nhw'n cynnwys rhyddhau, dirwy, gorchymyn cymunedol neu ddedfryd o garchar mewn achosion difrifol.  Gall y llys orchymyn fforffedu a dinistrio'r nwyddau anghydffurfiol a / neu atafaelu unrhyw elw a ddaeth o'r tor-deddfwriaeth. Gallai erlyn hefyd arwain, mewn rhai amgylchiadau, at anghymhwyso unigolion o fod yn gyfarwyddwyr cwmni, neu gadw anifeiliaid, a gallai hefyd achosi canlyniadau i unigolion sy'n chwilio am fathau penodol o gyflogaeth ac o ran enillion troseddu mewn achos troseddol.  Bydd cofnod o'r cwrs gweithredu'n cael ei gofnodi ar systemau mewnol a'i ddatgelu hefyd i unrhyw ddata-basau perthnasol fel y Databas Gwybodaeth Sancsiynau (Safonau Masnach) a lle bo'n berthnasol y PNC/PND.

Gall y Pennaeth Gwasanaeth adolygu unrhyw benderfyniad ac unrhyw ganlyniadau pellach a awgrymir gan gyfreithiwr y diffynnydd / diffynyddion, sy'n ganlyniadau pellach dim ond os ydynt yn cwrdd â'r egwyddorion trosfwaol yn y Cod ar gyfer Erlynwyr.  

Bydd y Gwasanaeth hefyd yn ystyried gofyn am orchmynion eraill lle sicrheir euogfarn, lle bo'n briodol, er enghraifft Gorchymyn Ymddygiad Troseddol.

8.4.3 Rhwymedïau eraill

8.4.3.1 Gwrthod, Atal neu Ddiddymu Trwyddedau

Mae pwerau'n bodoli i adolygu, atal a diddymu gwahanol drwyddedau. Mae rhai o'r pwerau hyn wedi eu dirprwyo i swyddogion sy'n gweithredu o dan adran 113 Deddf Llywodraeth Leol 1972, ond lle mae deddfwriaeth yn rhagnodi neu'r awdurdod wedi cadw'r hawl o dan gynllun dirprwyo, dim ond is-bwyllgor i'r Cyngor perthnasol sy'n gallu cymryd y camau hyn.  Mae gan ddalwyr trwydded hawl i fynychu gwrandawiad a chael gwybod bod ganddynt hawl i apelio yn erbyn penderfyniad.  Wrth ystyried ceisiadau am drwydded yn y dyfodol, bydd unrhyw dor-trwydded a chamau gorfodi blaenorol yn cael eu hystyried.