Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gwarchod y Cyhoedd Polisi Cydymffurfio a Gorfodaeth

Atodiad 1 - Polisi Enillion Troseddu

Amdan y polisi hwn  

1.1. Mae'r polisi hwn yn egluro sut y bydd Cyngor Sir Powys yn ymdrin ag Ymchwiliadau Ariannol. Anelir y ddogfen hon yn bennaf at staff sy'n ymchwilio i droseddau a rhai sydd wedi eu hachredu gan yr Asiantaeth Droseddu Genedlaethol fel Ymchwilwyr Ariannol.  

1.2. Mae Cyngor Sir Powys yn cydnabod bod ymchwilio i droseddau sy'n achosi niwed i ddefnyddwyr a busnesau, a defnyddio pwerau o dan Ddeddf Enillion Troseddu 2002 (POCA), yn gallu gwneud cyfraniad sylweddol i aflonyddu ar weithgareddau troseddol drwy ddefnyddio ymchwiliadau gwyngalchu arian i gynorthwyo a chyd-fynd ag ymchwiliadau troseddol a thrwy adennill asedau troseddol.  

1.3. Mae Cyngor Sir Powys felly'n ymrwymedig i barhau i gynnal ymchwiliadau twyll / ariannol ynghyd ag ymchwiliadau gwyngalchu arian ac atafaelu er mwyn mynd i'r afael â throseddwyr ar bob lefel o weithgaredd troseddol.  

Egwyddorion Cyffredinol  

2.1. Wrth feddwl a oes angen defnyddio'r pwerau o dan POCA, mae Cyngor Sir Powys wedi ystyried:  

  • ei gyfraniad i strategaethau troseddu ac anrhefn lleol, a blaenoriaethau corfforaethol eraill.
  • a oes angen ystyried gorchmynion cyn-euogfarn fel rhan o'r broses erlyn yng nghyswllt ymchwiliadau gwyngalchu arian, ac a oes angen ystyried gorchmynion cyn-euogfarn fel rhan o ymchwiliadau atafaelu,
  • ei rôl mewn delio â 'troseddwyr ffordd o fyw' fel ffugwyr nwyddau, masnachwyr diegwyddor parhaus, a siarcod benthyg arian,
  • bod angen sicrhau nad yw troseddu'n talu ac yn cael ei weld i beidio â thalu,
  • helpu i gwrdd â disgwyliadau defnyddwyr a busnesau cyfreithlon.

2.2. Bydd Cyngor Sir Powys yn hyrwyddo defnyddio ymchwiliadau ariannol fel rhan annatod o ymchwiliadau troseddol a allai arwain at atafaelu. Nid rhywbeth i droseddwyr difrifol yn unig yw atafaelu, ond i bob achos o droseddu meddiangar.  

2.3. Troseddu meddiangar yw troseddau lle mae'r drwgweithredwr yn ennill yn faterol o droseddu. Mae hyn yn cynnwys troseddau fel twyll, clocio ceir, masnachu diegwyddor a ffugio nwyddau.  

2.4. Pan fydd person wedi elwa o'u trosedd, y nod yw sicrhau euogfarn a dileu unrhyw fudd a enillwyd o weithgaredd troseddol. Mae gorchymyn atafaelu o dan POCA yn ffordd effeithiol o wneud hyn.  

2.5. Mae ein hymchwilwyr yn ymwybodol o'r cyfleoedd i gynnal ymchwiliadau atafaelu a gwyngalchu arian, a gynhelir fel arfer gan Ymchwilwyr Ariannol, ac unrhyw gamau y medrant eu cymryd i gynorthwyo'r broses.

2.6. Bydd ymchwilwyr yn cyfeirio achosion addas am ymchwiliad ariannol gan eu hatgoffa y gallai methu â dilyn y polisi hwn, wrth gyfeirio troseddau meddiangar at yr ymchwilydd ariannol penodedig, arwain at beidio â darganfod gwir faint y gweithgaredd troseddol, methu ag erlyn y drwgweithredwyr iawn a lleihau faint o asedau sy'n cael eu hatafaelu a hynny, yn ei dro, yn lleihau'r atal sydd ei angen i leihau troseddu.  

2.7. Lle bo'n ddarbodus gwneud hynny, bydd Powys yn cynnal ymchwiliadau ariannol ar gyfer awdurdodau lleol neu gyrff eraill.

Datganiad polisi  

3.1. Bydd yr ymchwilydd ariannol penodedig yn cynnal ymchwiliad ariannol ym mhob achos o drosedd meddiangar honedig neu lle cafwyd euogfarn, gyda golwg ar wneud cais i'r llys am orchymyn atafaelu gwerth y budd a enillwyd o'r trosedd.

3.2. Bydd cyfeirio at yr ymchwilydd ariannol yn cael ei ystyried ar sail haeddiant ond gan roi blaenoriaeth ar sail un neu fwy o'r ffactorau canlynol:

  • tueddfryd y diffynnydd i gyflawni troseddau ar lefel genedlaethol,
  • lle ystyrir bod y dioddefwyr yn arbennig o fregus neu mewn perygl oddi wrth ymddygiad troseddol y diffynnydd,
  • lle byddai ymchwiliad troseddol yn cael trafferth delio'n effeithiol â'r diffynnydd neu eu troseddu, heb gymorth yr ymchwilydd ariannol,
  • lle bo'r fantais ariannol o droseddu'r diffynnydd yn amlwg yn sylweddol ac asedau o werth eisoes wedi eu hadnabod.

3.3    Mewn amgylchiadau arbennig, e.e. mewn achosion priodol lle bo'r enillion ariannol yn sylweddol ond ni ellir canfod unrhyw asedau, gallai fod yn ddoeth dewis atafaelu er mwyn sicrhau 'gorchymyn enwol' o £1, dyweder. O dan y POCA, gellir ail-ymweld ag achosion yn y dyfodol felly os daw asedau i'r golwg nes ymlaen, gellir ail-gyfrifo'r enillion ariannol i bwrpas bodloni'r gorchymyn, gan ddefnyddio'r asedau sydd newydd eu darganfod. Gallai gorchmynion enwol hefyd atal diffynyddion rhag aildroseddu.

3.4. Bydd Cyngor Sir Powys yn ceisio defnyddio darpariaethau Deddf Enillion Troseddu 2002 i gipio gwerth £1,000 a mwy o arian parod os yw'n cael ei ddarganfod pan fo'r swyddogion yn yr eiddo'n gyfreithiol, neu wrth chwilio unrhyw berson neu gerbyd. Dim ond plismyn a / neu ymchwilwyr ariannol achrededig sy'n gallu cipio arian yn y modd hwn. Bydd yr ymchwilydd ariannol penodedig yn ymchwilio i darddiad unrhyw arian parod a gipiwyd fel hyn er mwyn gofyn i'r Llys Ynadon am gael ei fforffedu.

3.5. Mae ymchwilwyr ariannol yn ymrwymedig i wneud cais i fforffedu o dan POCA; ar ôl i atafaelu o dan POCA gael ei ystyried.  

Goblygiadau'r polisi

4.1. Goblygiadau Ariannol  

4.1.1. Mae gweithredu'r polisi hwn yn llawn yn rhoi cyfle sylweddol i sicrhau bod cyfran o'r enillion a atafaelir o dan POCA yn cael eu dychwelyd i'r Awdurdod o dan y cynllun cymhellion a weithredir gan y Swyddfa Gartref. Rhaid defnyddio unrhyw arian a dderbynnir drwy'r cynllun cymhellion i bwrpasau penodedig.

4.2. Staffio a hyfforddiant  

4.2.1. Mae pob ymchwilydd ariannol yn derbyn hyfforddiant gan Ganolfan Enillion Troseddu'r Asiantaeth Droseddu Genedlaethol a rhaid derbyn yr hyfforddiant hwn cyn cael eu hachredu.

Dylai hyfforddiant ymchwilio ariannol fod yn rhan o raglen arferol y Cyngor o ddarparu hyfforddiant a datblygu ar gyfer staff ymchwilio a rheoli penodedig.  

4.2.2. Nid oes angen i reolwyr dderbyn hyfforddiant ac ymwybyddiaeth i'r un lefel ag a roddir drwy gyrsiau sy'n delio'n benodol ag ymchwilio ariannol, ond rhaid i'r ddarpariaeth gwrdd â gofynion y system FISS. Fodd bynnag, mae'n hanfodol i Reolwr fod yn gyfarwydd â gweithdrefnau'n ymwneud ag ymchwiliad ariannol a chael eu dynodi'n Uwch Swyddog Priodol (SAO).

4.3. Cytundebau Partneriaeth  

4.3.1. Mae llawer o asiantaethau gorfodi'r gyfraith sy'n cynnal ymchwiliadau ariannol. Bydd Cyngor Sir Powys yn gweithio'n rhagweithiol â'r asiantaethau hyn er mwyn gipio gymaint o arian ac asedau â phosib o dan POCA.  

4.4. Asesiadau risg  

4.4.1. Mae'r polisi hwn yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaeth iechyd a diogelwch a gweithdrefnau iechyd a diogelwch mewnol. Yr asesiad risg ar gyfer Swyddogion Ymchwilio sy'n berthnasol, a bydd yn cael ei adolygu'n flynyddol.  

Monitro ac adolygu  

5.1. Bydd yr Uwch Swyddog Priodol yn sicrhau yr ymchwilir yn llawn i bob achos a gyfeiriwyd o dan POCA a bod cais i atafaelu neu fforffedu asedau'n cael ei wneud lle bo'n briodol.  

5.2. Bydd y polisi hwn yn cael ei adolygu ar yr un pryd â'r polisi Cydymffurfio a Gorfodaeth gan ystyried unrhyw newid deddfwriaeth, heriau cyfreithiol ac unrhyw anghysondeb a gododd gyda'r polisi.  

Polisïau cysylltiedig a ffynonellau gwybodaeth  

6.1    Mae'r polisïau a'r wybodaeth ganlynol yn rhoi arweiniad ar sut y dylid cynnal ymchwiliadau ariannol:

Sail gyfreithiol

7.1. Mae'r sail gyfreithiol ar gyfer gweithredu'r polisi hwn ar gael yn:

  • Deddf Cyfiawnder Troseddol 1993;
  • Deddf Enillion Troseddu 2002;
  • Deddf Terfysgaeth 2000;
  • Gweithdrefn Porth Cyllid a Thollau EM;  
  • Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984;
  • Deddf Hawliau Dynol 1998;
  • Deddf Gweithdrefn ac Ymchwiliadau Troseddol 1996 (CPIA);
  • Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio 2000 (RIPA);
  • Deddf Diogelu Data 2018 (DPA);  
  • Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.