Cefnogaeth i deuluoedd gyda phlant
Cynnyrch misglwyf am ddim: Cynnyrch misglwyf am ddim i ferched, gwragedd a phobl sy'n cael misglwyf o bob oedran led led Powys.
Prydau Ysgol am Ddim: Os ydych ar incwm isel, gallwn eich helpu chi gyda chost prydau ysgol ar gyfer unrhyw ddisgybl mewn addysg lawn amser.
Help gyda chostau gwisg ysgol: I rai teuluoedd sy'n hawlio prydau ysgol am ddim, gall nawdd ychwanegol fod ar gael i helpu gyda chostau ysgol megis gwisgoedd ysgol a chyfarpar.
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Powys: Siop un stop yw'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ac Ieuenctid lle y gall rhieni, gofalwyr, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol gael amrywiaeth o wybodaeth i blant a phobl ifanc 0-25 mlwydd oed a'u teuluoedd.
Cyllid Myfyrwyr Cymru: Mae grantiau ariannol ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio cyrsiau ôl-16.
Gofal Plant Di-dreth: Gallwch gael hyd at £500 bob 3 mis (hyd at £2,000 y flwyddyn) ar gyfer pob un o'ch plant i helpu gyda chostau gofal plant.
Cynnig Gofal Plant i Gymru: Mae'r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn darparu hyd at 30 awr o addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i rieni cymwys sy'n gweithio i blant tair a phedair blwydd oed am 48 awr y flwyddyn.
Prydau Ysgol Cynradd Cyffredinol Am Ddim: Mae prydau ysgol am ddim i gael eu hestyn i bob disgybl ysgol gynradd yng Nghymru erbyn mis Medi 2024. Bydd hyn yn berthnasol i'r plant ieuengaf gyntaf.
Drws Blaen Powys: Os oes gennych bryderon ynghylch lles plentyn neu unigolyn ifanc yn eich cymuned, peidiwch ag oedi i rannu eich pryderon yn gyfrinachol gydag aelod o'r tîm Drws Blaen.
Mae'r tudalennau hyn yn cynnwys manylion detholiad bychan o wefannau, elusennau a sefydliadau niferus sydd ar gael i gynnig help, cyngor a chefnogaeth. Sicrhewch mai dim ond cyngor o ffynonellau credadwy a dibynadwy yr ydych chi'n eu dilyn. Nid yw Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.