Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cefnogaeth i deuluoedd gyda phlant

Help for families icon

Cynnyrch misglwyf am ddimCynnyrch misglwyf am ddim i ferched, gwragedd a phobl sy'n cael misglwyf o bob oedran led led Powys.

Prydau Ysgol am DdimOs ydych ar incwm isel, gallwn eich helpu chi gyda chost prydau ysgol ar gyfer unrhyw ddisgybl mewn addysg lawn amser.

Help gyda chostau gwisg ysgolI rai teuluoedd sy'n hawlio prydau ysgol am ddim, gall nawdd ychwanegol fod ar gael i helpu gyda chostau ysgol megis gwisgoedd ysgol a chyfarpar.

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd PowysSiop un stop yw'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ac Ieuenctid lle y gall rhieni, gofalwyr, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol gael amrywiaeth o wybodaeth i blant a phobl ifanc 0-25 mlwydd oed a'u teuluoedd.

Cyllid Myfyrwyr CymruMae grantiau ariannol ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio cyrsiau ôl-16.

Gofal Plant Di-drethGallwch gael hyd at £500 bob 3 mis (hyd at £2,000 y flwyddyn) ar gyfer pob un o'ch plant i helpu gyda chostau gofal plant.

Cynnig Gofal Plant i GymruMae'r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn darparu hyd at 30 awr o addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i rieni cymwys sy'n gweithio i blant tair a phedair blwydd oed am 48 awr y flwyddyn.

Prydau Ysgol Cynradd Cyffredinol Am DdimMae prydau ysgol am ddim i gael eu hestyn i bob disgybl ysgol gynradd yng Nghymru erbyn mis Medi 2024. Bydd hyn yn berthnasol i'r plant ieuengaf gyntaf.

Drws Blaen Powys: Os oes gennych bryderon ynghylch lles plentyn neu unigolyn ifanc yn eich cymuned, peidiwch ag oedi i rannu eich pryderon yn gyfrinachol gydag aelod o'r tîm Drws Blaen.

 

Mae'r tudalennau hyn yn cynnwys manylion detholiad bychan o wefannau, elusennau a sefydliadau niferus sydd ar gael i gynnig help, cyngor a chefnogaeth. Sicrhewch mai dim ond cyngor o ffynonellau credadwy a dibynadwy yr ydych chi'n eu dilyn. Nid yw Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.