Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Cyngor ar arian, budd-daliadau a dyledion

Money benefits and advice icon

Advicelink CymruMae Advicelink Cymru yn cynnig cyngor cyfrinachol ac am ddim ar amrywiaeth o bynciau megis budd-daliadau lles, dyledion, cyflogaeth, addysg, tai a gwahaniaethu.

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: Gwybodaeth ddefnyddiol i ateb rhai cwestiynau allweddol am y cymorth ariannol a allai fod ar gael i bobl hŷn i'w helpu drwy'r cyfnod anodd hwn.

Cyngor Age Cymru ar ddyledion: Cyngor ar ddyledion oddi wrth Age Cymru, elusen genedlaethol i bobl mewn oed yng Nghymru.

Budd-daliadau a dyfarniadau: Mae nifer o wahanol fathau o fudd-daliadau a dyfarniadau gwahanol a all gynnig help ariannol i gefnogi gyda chostau byw o ddydd i ddydd a chostau unigryw.

Swyddogion Cefnogaeth Ariannol: Cefnogaeth ariannol am ddim i denantiaid tai Cyngor Sir Powys ar gynyddu incwm, torri gwariant, ymgeisio am fudd-daliadau, rheoli dyledion a mwy. Ffoniwch:01597 827464 neu anfonwch e-bost at: housing@powys.gov.uk

Help i gartrefi: Edrychwch i weld pa gefnogaeth costau byw y gallech chi fod yn gymwys amdano oddi wrth Lywodraeth y DU.

Gwasanaeth Cyngor Ariannol: Mae Cyngor Sir Powys yn cynnig cyngor a chefnogaeth ariannol gyfrinachol am ddim naill ai dros y ffôn neu trwy apwyntiad personol. Ffôn: 01874 612153 neu anfonwch e-bost at wrteam@powys.gov.uk

MoneyHelperYn darparu cyfarwyddyd am ddim a diduedd ar arian a phensiynau i bobl o bob cwr o'r DU. 

Llinell Ddyled Genedlaethol: Cyngor annibynnol ac am ddim ar ddyledion dros y ffôn ac ar-lein. Ffôn:0808 808 4000

Cyngor ar Bopeth PowysYn cynnig cyngor cyfrinachol ar-lein, dros y ffôn, neu'n bersonol am ddim. Ffôn:0345 6018421

Cyngor cyllidebu a dyledion Byddin yr Iachawdwriaeth: Mae cynghorwyr a gwirfoddolwyr dyledion yn gweithio gyda phobl i ddatblygu cynlluniau ad-dalu dyledion, cynnal trafodaethau gyda chredydwyr ac yn cyflwyno addysg ariannol i newid arferion a lleihau'r cyfle o ddyledion yn ailddigwydd yn y dyfodol. Ffôn: 01923 801169

Shelter Cymru: Mae Shelter Cymru yn darparu cyngor arbenigol, cyfrinachol, annibynnol am ddim ar ddyledion ar draws Cymru.

Stopio Siarcod Benthyg Arian CymruMae benthyca arian yn anghyfreithlon yn drosedd, ac mae benthycwyr arian didrwydded yn aml yn targedu pobl sy'n agored i niwed. Os ydych chi neu rywun rydych chi'n eu hadnabod yn cymryd rhan mewn benthyca arian yn anghyfreithlon, dod i gysylltiad yw'r peth cywir i'w wneud.

Elusen Dyledion Stepchange: Cyngor hyblyg am ddim ar ddyledion, sy'n helpu pobl i ddelio gyda dyledion mewn ffordd sy'n hawdd. Ffôn:0800 138 1111

The Money Charity: Yn darparu addysg, gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd i bobl o bob oedran, gan eu helpu i reoli eu harian yn well a chynyddu eu lles ariannol.

RHYBUDD: Mae adroddiadau ar gynnydd am sgamiau e-bost, negeseuon testun a galwadau ffôn, gyda chyfathrebiadau ffug yn honni'n aml i fod ynghylch ad-daliadau ynni, ad-daliadau trethi neu fuddion ariannol eraill. Os oes gennych unrhyw amheuon am neges, cysylltwch â'r sefydliad yn uniongyrchol. Peidiwch â defnyddio'r rhifau neu'r cyfeiriad yn y negeseuon - defnyddiwch y manylion oddi ar eu gwefan swyddogol. Am ragor o gyngor ar sut i gadw'n ddiogel ar-lein, edrychwch ar: www.cyberaware.gov.uk ac adrodd am ymdrechion i dwyllo ar www.actionfraud.police.uk

Mae'r tudalennau hyn yn cynnwys manylion detholiad bychan o wefannau, elusennau a sefydliadau niferus sydd ar gael i gynnig help, cyngor a chefnogaeth. Sicrhewch mai dim ond cyngor o ffynonellau credadwy a dibynadwy yr ydych chi'n eu dilyn. Nid yw Cyngor Sir Powys yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.