Grant Twf Busnes Powys
Cymhwysedd (pwy sy'n gallu ymgeisio)
Mae'r Grant yn agored i Micro fusnesau a Mentrau Bach-Canolig. Mae'r grant ar gael ar gyfer busnesau sy'n bodoli eisoes sydd wedi bod mewn busnes am chwe mis neu fwy o fewn y sectorau cymwys sydd ym Mhowys neu sy'n bwriadu lleoli ym Mhowys yn unig.
Os ydych chi'n gwneud cais am fuddsoddiad cyfalaf i helpu i fabwysiadu technolegau mwy gwyrdd, rhaid bod asesiad/archwiliad ynni neu gynllun lleihau carbon wedi'i gwblhau ar gyfer y busnes o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf. Bydd angen copi o hyn gyda'r cais llawn.
Sector Cymwys:
- Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch
- Adeiladu
- Diwydiannau Creadigol
- Ynni a'r Amgylchedd
- Gwasanaethau Cyllid a Phroffesiynol
- Technoleg Gwybodaeth a Thelathrebu
- Gwyddorau Bywyd
- Bwyd a Diod
- Twristiaeth
- Manwerthu
- Gofal
Fodd bynnag, bydd ceisiadau'n cael eu hystyried fesul achos yn amodol ar eu cyfraniad posibl a'u gwerth i'r economi leol
Nid yw'rsectorau canlynol yn gymwys i gael cymorth:
- cynhyrchiant amaethyddiaeth yn bennaf
- coedwigaeth
- dyframaethu
- Gwasanaethau statudol ee iechyd sylfaenol ac addysg
Rhaid i ymgeiswyr ddangos eu cynlluniau twf (a darparu tystiolaeth lle bo hynny'n berthnasol) o fewn y broses ymgeisio. Diffinnir twf busnes fel busnes sy'n ceisio cynyddu trosiant, creu swyddi neu ddiogelu staff a allai fod mewn perygl. Bydd blaenoriaeth yn cael ei rhoi i fusnesau sydd newydd gychwyn a busnesau sydd â'r uchelgais a'r nodwedd i ehangu.
Rhaid i'r holl wariant sy'n gysylltiedig â'r grant gael ei gyflawni a'i dalu erbyn 18 Ionawr 2026. Ni roddir unrhyw estyniadau. Rhaid creu'r busnes arfaethedig a swyddi cysylltiedig o fewn 6 mis i daliad terfynol y grant . Bydd y busnes a'r swyddi a grëwyd yn cael eu monitro a bydd angen tystiolaeth. Gallai methu â chyflawni'r allbynnau yr ymrwymwyd iddynt arwain at adfachu arian grant.
Ar ôl rhoi rhybudd rhesymol, mae Cyngor Sir Powys yn cadw'r hawl i fonitro a chadw tystiolaeth ymhen 1, 3 a 5 mlynedd o dderbyn cais am grant.
Cynghorir yn gryf bod ymgeiswyr yn cael cymorth busnes, ac yn llenwi'r ffurflen gais mewn ymgynghoriad â naill ai un o'r darparwyr cymorth busnes a restrir isod, neu gydag ymgynghorydd cydnabyddedig arall:
- Antur Cymru - business@anturcymru.org.uk
- Busines Cymru - trading@businesswales.org
- Busnes Cymru - (yn benodol am gymorth gydag atebion effeithlonrwydd ynni) - Gareth.Davies@BusinessWales.org
- Cwmpas (yn benodol ar gyfer Mentrau Cymdeithasol) - nick.wilson@cwmpas.coop