Grant Twf Busnes Powys
Proses Ymgeisio
I ddechrau mae'n ofynnol i ymgeisydd gyflwyno datganiad o ddiddordeb. Yna bydd y datganiad o ddiddordeb yn cael ei asesu at ddibenion cymhwysedd ac os caiff ei gymeradwyo fe'ch gwahoddir i gyflwyno cais llawn.
Yna bydd angen i bob ymgeisydd gwblhau a dychwelyd y canlynol:
- Ffurflen Gais wedi'i chwblhau,
- Cyfrifon hanesyddol 2 flynedd lawn o leiaf a chyfrifon rheoli diweddar, os ydynt ar gael. Os nad yw busnes wedi bod yn masnachu ers 2 flynedd, rhaid darparu cyfrifon rheoli a/neu grynodeb o incwm a gwariant o'r dyddiad dechrau masnachu hyd at y dyddiad ymgeisio.
- Rhagolygon 2 flynedd (llif arian a/neu elw a cholled)
- Dyfynbrisiau Ysgrifenedig
- Safonau'r Gymraeg - gweler y canllawiau pellach yn adran 9
- Polisi Amgylcheddol / Cynaliadwyedd - Bydd angen i ymgeiswyr amlinellu'r ffyrdd y mae'r busnes wedi ymrwymo i leihau ei effaith ar yr amgylchedd.
Mae'r Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i ddod yn garbon sero net erbyn 2030 ac mae'n awyddus i hyrwyddo arferion busnes cynaliadwy trwy ei raglenni cyllido.
Fel rhan o'r cais, gofynnir i chi sut mae eich busnes yn dangos ymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy ac i ymrwymo i Addewid Twf Gwyrdd Llywodraeth Cymru. Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru
Dylid nodi bod Grant Cyfalaf Busnes Powys yn grant yn ôl disgresiwn ac mae'n amodol ar gymeradwyaeth gan Gyngor Sir Powys. Bydd pob cais yn cael ei asesu i ystyried ceisiadau yn bodloni'r safon erbyn y dyddiad cau penodol.