Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Rydym yn cael problemau gyda'n llinellau ffôn ar hyn o bryd.

Help i weddw ffermwr hawlio bron i £20,000 y flwyddyn mewn budd-daliadau

Yvonne Bowkett (left) from Painscastle with Money Advice and Support Officer Ruth Mills

25 Mawrth 2025

Yvonne Bowkett (left) from Painscastle with Money Advice and Support Officer Ruth Mills
Cafodd gwraig fferm gymorth i hawlio bron i £20,000 y flwyddyn mewn budd-daliadau, yr oedd ganddi hawl iddo, gan wasanaeth cyngor ariannol Cyngor Sir Powys.

Ar ôl colli ei gŵr ym mis Ionawr 2023, roedd Yvonne Bowkett, o Gastell-paen, yn cael trafferth gyda galar a'i phroblemau iechyd ei hun, pan drodd at y cyngor a'r Swyddog Cyngor a Chymorth Ariannol Ruth Mills am help.

Llwyddodd Ruth i'w harwain drwy'r broses o wneud cais am fudd-daliadau iechyd a phrawf modd, gan sicrhau incwm o bron i £20,000 y flwyddyn, ynghyd ag ôl-daliadau.

Fe wnaeth hi hefyd sicrhau gostyngiad i'w threth gyngor a'i helpu i wneud cais am Fathodyn Glas, sy'n rhoi consesiynau parcio i bobl ag anableddau.

Ychwanegodd Yvonne: "Ar ôl damwain ac arhosiad hir yn yr ysbyty, roedd Ruth yno i'm cynorthwyo eto gyda rhagor o gymorth ariannol, gan gynnwys sicrhau car Motability. Mae ei chyngor a'i chefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy, ac nid wyf yn gwybod beth fyddwn i wedi'i wneud hebddi.

"Mae Ruth bob amser yn broffesiynol, ond eto'n ofalgar, a bob amser ar ochr arall y ffôn gyda chefnogaeth a chyngor ac rwyf mor ddiolchgar am ei help ac am y gwasanaeth a ddarperir gan Gyngor Sir Powys."

Cyn hynny, roedd Ruth wedi helpu Yvonne (Tachwedd 2022), tra bod ei gŵr yn sâl â chanser, fel rhan o gynllun a gefnogwyd gan Gymorth Canser Macmillan.

Ar yr achlysur hwnnw roedd hi wedi helpu i wneud cais am Lwfans Gweini - budd-dal sy'n talu costau ychwanegol a ddaw yn sgil cyflwr iechyd neu anabledd - i ŵr Yvonne. Gwnaeth Ruth hefyd sicrhau eu bod yn derbyn yr holl fudd-daliadau yr oedd ganddynt hawl iddynt, gan fod Yvonne newydd roi'r gorau i weithio i ofalu am ei gŵr yn llawn amser.

Dywedodd y Cynghorydd Matthew Dorrance, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Powys Decach: "Mae'r gefnogaeth a ddarparwyd gan ein gwasanaeth cynghori ariannol i Yvonne Bowkett wedi bod o'r radd flaenaf, ond gwyddom fod llawer o drigolion eraill ledled Powys fel Yvonne, nad ydynt wedi dod atom eto am help.

"Peidiwch â straffaglu ar eich pen eich hun os ydych mewn trafferthion ariannol, neu os yw'ch amgylchiadau wedi newid yn sydyn, fel y gwnaethant ar gyfer Yvonne: cysylltwch â ni am arweiniad cyfrinachol ac am ddim ar fudd-daliadau, biliau a dyled."

Gellir cael gwasanaeth cyngor ariannol Cyngor Sir Powys ar-lein: Cais am Gyngor Ariannol neu Gymorth Macmillan

Gellir rhoi cymorth dros y ffôn hefyd, os oes angen, drwy ffonio: 01597 826618.

Mwy o wybodaeth am ostyngiadau'r Dreth Gyngor: Gostyngiad yn Nhreth y Cyngor

Mwy o wybodaeth am fathodynnau glas: Gwneud cais am Fathodyn Glas

Mwy o wybodaeth am Lwfans Gweini: https://www.gov.uk/attendance-allowance/how-to-claim

Gallai trigolion Powys sy'n ei chael hi'n anodd talu eu rhent neu symud i gartref rhent newydd hefyd fod yn gymwys i gael Taliad Tai Dewisol: Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn

LLUN: Yvonne Bowkett (chwith) o Gastell-paen gyda'r Swyddog Cyngor a Chymorth Ariannol Ruth Mills.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu