Toglo gwelededd dewislen symudol

Gostyngiadau Trethi i Fusnesau Bychain (o 01/04/2018)

Bydd eiddo busnes sy'n cael ei feddiannu ac sydd â gwerth ardrethol o hyd at £6,000 yn cael rhyddhad o 100% a bydd y rheini â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn derbyn rhyddhad a fydd yn cael ei leihau'n daprog o 100% i sero.

Os yw trethdalwr yn atebol am gyfraddau busnes ar fwy na dau eiddo, o fewn rhestr ardrethu annomestig leol, dim ond am uchafswm o DDAU eiddo y bydd y trethdalwr yn derbyn y rhyddhad hwn. Rhoddir rhyddhad i'r ddau eiddo a fydd yn derbyn y swm mwyaf o ryddhad. Er mwyn ein cynorthwyo i weinyddu'r cyfyngiad hwn i ddau eiddo, mae'n ofynnol i chi gwblhau'r rhybudd trethdalwyr lluosog (PDF) [694KB].

Nodir y gyfradd rhyddhad y gallai eiddo ei gael isod:

  • Gwerth Trethiannol 0-6,000 - 100% Rhyddhad
  • Gwerth Trethiannol 7,000 - 83.4% Rhyddhad
  • Gwerth Trethiannol 8,000 - 66.6% Rhyddhad
  • Gwerth Trethiannol 9,000 - 50% Rhyddhad
  • Gwerth Trethiannol 10,000 - 33.3% Rhyddhad
  • Gwerth Trethiannol 11,000 - 16.6% Rhyddhad

Yn ychwanegol at yr uchod, lle mae eiddo yn cael ei feddiannu ac yn bodloni'r amodau o fod naill ai'n Swyddfa'r Post neu'n ddarparwr Gofal Plant, bydd swm y rhyddhad ardrethi busnesau bach fel y manylir yn y tabl isod.

Nid yw'r cyfyngiad o uchafswm o ddau eiddo yn berthnasol i Swyddfeydd Post neu Ddarparwyr Gofal Plant. Er mwyn sicrhau nad yw'r cyfyngiad yn cael ei gymhwyso, mae'n rhaid i chi gwblhau'r rhybudd i drethdalwyr o gategorïau arbennig - Swyddfa'r Post (PDF) [421KB] ddarparwr Gofal Plant (PDF) [144KB].

Swyddfa Bost:

  • Gwerth Trethiannol 0 - 9000 100%
  • Gwerth Trethiannol 9001 - 12000 50%

Gofal Plant:

  • O 1 Ebrill 2019 ymlaen, bydd darparwyr Gofal Plant yn derbyn rhyddhad o 100% lle mae Gwerth Ardrethol yn llai na 100,000

Eiddo sydd wedi'i eithrio o ryddhad o ardrethi busnesau bach

  • eiddo busnes nad ydynt wedi'u meddiannu'n llwyr.
  • rhai sy'n cael eu meddiannu gan elusennau, clybiau chwaraeon amatur cymunedol (CASC)
  • rhai sy'n cael eu meddiannu gan sefydliadau dielw
  • rhai sy'n cael eu meddiannu gan y cyngor, awdurdod yr heddlu neu'r Goron
  • rhai a ddefnyddir yn unig ar gyfer arddangos hysbysebion,
  • parcio cerbydau modur
  • gwaith carthffosiaeth
  • offer cyfathrebiadau electronig.
  • cytiau traeth
  • Peiriannau Arian Parod o 1 Ebrill 2020 (S.I No: 2019 1508 (W.279)

 

Gellir darllen yr Offeryn Statudol a osododd y cynllun rhyddhad o ardrethi busnesau bach yma (PDF) [694KB]

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu