Gostyngiadau Trethi i Fusnesau Bychain (o 01/04/2018)
Bydd eiddo busnes sy'n cael ei feddiannu ac sydd â gwerth ardrethol o hyd at £6,000 yn cael rhyddhad o 100% a bydd y rheini â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn derbyn rhyddhad a fydd yn cael ei leihau'n daprog o 100% i sero.
Os yw trethdalwr yn atebol am gyfraddau busnes ar fwy na dau eiddo, o fewn rhestr ardrethu annomestig leol, dim ond am uchafswm o DDAU eiddo y bydd y trethdalwr yn derbyn y rhyddhad hwn. Rhoddir rhyddhad i'r ddau eiddo a fydd yn derbyn y swm mwyaf o ryddhad. Er mwyn ein cynorthwyo i weinyddu'r cyfyngiad hwn i ddau eiddo, mae'n ofynnol i chi gwblhau'r .
Nodir y gyfradd rhyddhad y gallai eiddo ei gael yn y tabl isod:
Gwerth Trethiannol | %Rhyddhad |
---|---|
0-6000 | 100% |
7000 | 83.4% |
8000 | 66.6% |
9000 | 50% |
10000 | 33.3% |
11000 | 16.6% |
Yn ychwanegol at yr uchod, lle mae eiddo yn cael ei feddiannu ac yn bodloni'r amodau o fod naill ai'n Swyddfa'r Post neu'n ddarparwr Gofal Plant, bydd swm y rhyddhad ardrethi busnesau bach fel y manylir yn y tabl isod.
Nid yw'r cyfyngiad o uchafswm o ddau eiddo yn berthnasol i Swyddfeydd Post neu Ddarparwyr Gofal Plant. Er mwyn sicrhau nad yw'r cyfyngiad yn cael ei gymhwyso, mae'n rhaid i chi gwblhau'r rhybudd i drethdalwyr o gategorïau arbennig -
, .
Categori | RV O | RV I | %rhyddhad |
---|---|---|---|
Swyddfa Bost | 0 | 9,000 | 100% |
Swyddfa Bost | 9,001 | 12,000 | 50% |
Gofal Plant | 0 | 6,000 | 100% |
Gofal Plant | 6,001 | 20,500 | Wedi'i dapro o 100% to 0% (O 1 Ebrill 2019 bydd darparwyr Gofal Plant yn derbyn gostyngiad o 100% os yw'r gwerth ardrethol yn llai na 100,000. Bydd y gostyngiad uwch hyn yn bodoli am dair blynedd tan 31 Mawrth 2022.) |
Eiddo sydd wedi'i eithrio o ryddhad o ardrethi busnesau bach
- eiddo busnes nad ydynt wedi'u meddiannu'n llwyr.
- rhai sy'n cael eu meddiannu gan elusennau, clybiau chwaraeon amatur cymunedol (CASC)
- rhai sy'n cael eu meddiannu gan sefydliadau dielw
- rhai sy'n cael eu meddiannu gan y cyngor, awdurdod yr heddlu neu'r Goron
- rhai a ddefnyddir yn unig ar gyfer arddangos hysbysebion,
- parcio cerbydau modur
- gwaith carthffosiaeth
- offer cyfathrebiadau electronig.
- cytiau traeth
- Peiriannau Arian Parod o 1 Ebrill 2020 (S.I No: 2019 1508 (W.279)
Gellir darllen yr Offeryn Statudol a osododd y cynllun rhyddhad o ardrethi busnesau bach