Dod yn Llywodraethwr Ysgol
Bydd Llywodraethwyr yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o oruchwylio'r ffordd y bydd yr ysgol yn cael ei rhedeg trwy gydweithio â'r Pennaeth, staff yr ysgol a'r cyngor.
Mae bod yn llywodraethwr yn rôl foddhaus ond yn un sy'n gofyn am lawer o ymroddiad. Does dim angen unrhyw gymwysterau ffurfiol arnoch chi i ddod yn llywodraethwr, ond mae angen i chi fod â diddordeb mewn pobl ifanc, dysgu ac addysgu. Bydd angen synnwyr cyffredin, a bydd angen i chi fod yn wrthrychol gyda meddwl agored, ac yn barod i ddysgu.
Mae bod yn llywodraethwr yn ymrwymiad difrifol. Mae'n rhaid i gyrff llywodraethu gyfarfod o leiaf unwaith bob tymor a bydd llawer ohonyn nhw yn cyfarfod ddwywaith y tymor. Bydd disgwyl i chi wasanaethu ar un neu fwy o is-bwyllgorau. Hefyd, cewch eich gwahodd i ddigwyddiadau yn yr ysgol, fel cyngherddau a gwasanaethau.
Y Pennaeth sy'n gyfrifol am reoli'r ysgol o ddydd i ddydd. Bydd y llywodraethwyr yn:
- cytuno ar nodau a gwerthoedd yr ysgol
- edrych ar ffyrdd o godi safonau a hybu addysgu a dysgu effeithiol, er mwyn i'r disgyblion gyrraedd eu llawn botensial
- penderfynu beth maent am i'r ysgol ei chyflawni (y weledigaeth) a chreu cynlluniau fydd yn caniatáu i hynny ddigwydd
- llunio penderfyniadau am gyllideb yr ysgol a chymeradwyo cynlluniau datblygu'r ysgol
- helpu i osod ac adolygu'r polisïau sy'n darparu fframwaith eang y gall y Pennaeth a'r staff ei ddilyn wrth redeg yr ysgol
- monitro ac adolygu cynnydd eu hysgol
- sicrhau bod anghenion disgyblion unigol yn cael eu diwallu, gan gynnwys anghenion ychwanegol
- creu cynlluniau gweithredu i wella yn dilyn arolygiadau ysgolion
- sefydlu a chynnal cysylltiadau positif â'r gymuned leol
- cefnogi penderfyniadau gweithredu beunyddiol y Pennaeth
Bydd y rhan fwyaf o lywodraethwyr yn cael eu penodi neu'u hethol i wasanaethu am dymor sy'n para pedair blynedd.
Mae sawl math o lywodraethwr. Pa fath bynnag ydych chi, rydych yn y rôl i ddod â'ch barn a'ch profiad chi i'r corff llywodraethwr, ac nid yn cynrychioli barn pobl eraill. Bydd y corff llywodraethu'n cynnwys y Pennaeth, rhai athrawon-lywodraethwyr ac efallai llywodraethwr o blith y staff sydd ddim yn dysgu. Hefyd, gallai ysgolion eglwys gynnwys llywodraethwr sefydledig. Bydd gweddill y llywodraethwyr yn dod o'r grwpiau canlynol:
Cymuned - Rhieni disgyblion yr ysgol sy'n ethol rhiant-lywodraethwyr. Pan fydd lle gwag ar gyfer rhiant-lywodraethwr, gofynnir i'r rhieni am enwebiadau, ac os oes mwy nag un yn cael ei enwebu, yna bydd yna etholiad.
Athro-lywodraethwyr - Mae athro-lywodraethwyr yn cael eu hethol gan gydweithwyr yn yr ysgol. Mae hyn yn cynnwys athrawon rhan amser a pheripatetig.
Staff-lywodraethwyr - Mae pob ysgol a gynhelir, heblaw'r rhai sydd â llai na 100 o ddisgyblion, â staff-lywodraethwr ar eu corff llywodraethu. Maent yn cael eu hethol gan, ac o blith staff nad ydynt yn addysgu yn yr ysgol.
Llywodraethwyr Sefydledig - Mae llywodraethwyr sefydledig yn cael eu penodi gan y bobl neu'r sefydliadau a enwir yn offeryn llywodraethu'r ysgol. Llywodraethwyr Sefydledig sy'n gyfrifol am sicrhau fod yr ysgol yn cael ei rhedeg yn unol â'r datganiad o ethos grefyddol. Os oes gan yr ysgol nodwedd grefyddol, rhaid i'r llywodraethwyr sefydledig gadw a datblygu hyn a rhaid hefyd cydymffurfio â'r weithred ymddiriedolaeth os oes un.
Awdurdod Lleol - Yr Awdurdod Lleol sy'n penodi llywodraethwyr ALl. Fel arfer, maent yn bobl â sgil benodol a defnyddiol, neu maent yn hysbys am eu gwaith cymunedol a diddordeb mewn addysg.
Llywodraethwyr Cymunedol Ychwanegol - Y corff llywodraethu sy'n dewis y llywodraethwyr cymunedol. Mae'n bosibl fod ganddynt sgiliau penodol, neu gallant ddod o grwp penodol, er enghraifft y gymuned fusnes.
Llywodraethwyr Cymunedol Ychwanegol - Cynghorau tref neu gymuned sy'n penodi'r Llywodraethwyr Cymunedol Ychwanegol.
Dylai llywodraethwyr newydd ofyn i'r clerc am y dogfennau canlynol:
- Canllaw ar y Gyfraith i Lywodraethwyr Ysgolion
- Adroddiad Arolygiad Estyn a'r Cynllun Gweithredu
- Prosbectws yr Ysgol
- Rhestr o aelodau'r corff llywodraethu
- Copi o strwythur staffio'r ysgol
- Copi o adroddiad diweddar ar gyllideb yr ysgol
- Cynllun Datblygu cyfredol yr Ysgol
- Yr Adroddiad Blynyddol mwyaf diweddar i Rieni
- Cofnodion cyfarfodydd diweddar y corff llywodraethu
- Calendr cyfarfodydd y corff llywodraethu
- Cynllun o'r ysgol
- Unrhyw bolisi ysgol arall
Dylech gyfarfod â'r Pennaeth a/neu gadeirydd y llywodraethwyr cyn eich cyfarfod cyntaf, er mwyn i chi ddod i'w hadnabod a gofyn unrhyw gwestiynau. Mae'n bosibl y byddwch yn cael mentor hefyd - llywodraethwr profiadol sy'n gallu eich helpu i ddysgu tra byddwch yn y rôl.
Rhowch wybod i ni os oes:
llywodraethwr newydd wedi dechrau Hysbysiad o Lywodraethwr Newydd
llywodraethwr wedi ymddiswyddo Hysbysiad o ymddiswyddiad llywodraethwr
llywodraethwr wedi cael ei ail-benodi Hysbysiad am ail-benodi llywodraethwr
llywodraethwr wedi newid cyfeiriad Hysbysiad o newid cyfeiriad llywodraethwr
Cysylltiadau
Rhowch sylwadau am dudalen yma