Newyddion
Cyngor yn cynnig parcio am ddim yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig
Mae'r cyngor sir wedi cyhoeddi y bydd parcio am ddim yn cael ei gynnig mewn meysydd parcio talu ac arddangos Cyngor Sir Powys am dri diwrnod siopa allweddol yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig
A oes gennych gwestiwn am wasanaethau'r cyngor?
Mae pobl sy'n byw, gweithio neu'n astudio ym Mhowys yn cael eu gwahodd i gyflwyno cwestiwn i gyfarfod llawn nesaf y cyngor sir ar ddydd Iau 7 Rhagfyr
Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant i ymddeol
Cyhoeddwyd y bydd Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Powys, Lynette Lovell yn ymddeol o'i swydd gyda'r cyngor y flwyddyn nesaf
Powys Gynaliadwy
Bydd Cyngor Sir Powys yn dilyn ymagwedd newydd ynghylch sut mae'n cynllunio a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol.
Mae'n DDYCHRYNLLYD faint o bwmpenni sy'n gorffen yn y bin bob blwyddyn!
Gyda chalan gaeaf ar y gorwel, rydym yn annog pobl Powys i sicrhau na fydd eu pwmpenni'n dod i ddiwedd dychrynllyd trwy gael ei daflu gyda gweddill y sbwriel.
Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys i gwrdd â'r Comisiynydd ar 27 Hydref
Bydd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cwrdd â Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, yn ystod cyfarfod nesaf y Panel yn Siambr Cyngor Sir Ceredigion, Aberaeron am 10.30am ddydd Gwener, 27 Hydref.
Cwmni teuluol sy'n cynhyrchu diodydd meddal yw Busnes y Flwyddyn Powys
Codwyd gwydrau'n llwncdestun i'r busnes teuluol Radnor Hills, y gwneuthurwyr diodydd ysgafn, pan gawsant noson i'w chofio yng Ngwobrau Busnes Powys ddydd Gwener.
Cau Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Aberhonddu mis nesaf ar gyfer gwaith adnewyddu
Hoffai Cyngor Sir Powys eich atgoffa y bydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Aberhonddu ar Stad Ddiwydiannol Ffrwdgrech yn cau dros dro ddydd Iau 16 Tachwedd fel bod gwaith uwchraddio diogelwch pwysig yn cael ei wneud i wella profiad y defnyddiwr ar y safle.
Hunanasesiad corfforaethol diweddaraf ar gael ar-lein
Mae adroddiad hunanasesiad corfforaethol diweddaraf Cyngor Sir Powys bellach ar gael i'w weld ar ei wefan
Peidiwch â cholli allan ar wythnosau olaf y treial Sganio|Ailgylchu|Gwobr
Mae'r treial Sganio|Ailgylchu|Gwobr yn Aberhonddu, sydd â dros fil o gyfranogwyr sy'n ennill gwobrau ariannol, yn dod i ben ym mis Tachwedd.