Newyddion

Cynlluniau wedi'u hariannu'n llawn ar gyfer y cyngor
Bydd cynlluniau sydd wedi'u hariannu'n llawn i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol Powys yn cael eu hystyried gan Gabinet y Cyngor ddydd Mawrth, gan gynnwys cynnydd o 8.9% ar dreth y cyngorr - sy'n sylweddol is na'r cynnydd o 13.5% a ragwelwyd fis diwethaf.

Disgyblion ysgol Llanidloes i elwa o lwybr mwy diogel i'r ysgol
Disgwylir i waith gwella llwybr troed a hygyrchedd Ysgol Uwchradd Llanidloes ac Ysgol Gynradd Sirol Llanidloes ddigwydd yn fuan fel rhan o brosiect Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Teithio Llesol a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Ymgynghoriad Busnes
Mae busnesau Powys yn cael cyfle i roi sylwadau ar gyllideb refeniw'r cyngor sir ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod

Rheolwyr fflyd yn casglu gwobr genedlaethol
Mae rheolwyr fflyd sy'n goruchwylio dros 500 o gerbydau a 1,000 o yrwyr ar gyfer Cyngor Sir Powys wedi casglu gwobr genedlaethol gan Logistics UK.

Prosiect 90k i wneud safle twristiaeth allweddol yn fwy hygyrch yn cael ei gwblhau
O ganlyniad i nawdd grant a sicrhawyd gan Gyngor Sir Powys mae prosiect gwerth £90,000 i wneud Clawdd Offa yn Nhref-y-clawdd yn fwy hygyrch i ymwelwyr wedi cael ei gwblhau.

Annog busnesau twristiaeth i ddweud eu dweud ar gynlluniau i godi treth ar ymwelwyr
Mae gwestai, tai llety a darparwyr llety ymwelwyr eraill ym Mhowys yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn ymgynghoriad ar gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno treth twristiaeth.

Dweud eich dweud am wasanaethau bysiau lleol Powys
Mae ymgynghoriad ar-lein chwe wythnos o hyd ar newidiadau i wasanaethau bysiau lleol Powys wedi dechrau.

Lansio teclynnau creadigol newydd ar gyfer sectorau celfyddyd a diwylliant Powys
Mae tri theclyn arlein newydd wedi'u lansio i helpu sectorau celfyddyd, diwylliant, dysgu a threftadaeth Powys i arddangos digwyddiadau a chysylltu â'r gymuned.

Llyfrgell i aros ar gau tan y flwyddyn newydd
Ni fydd Llyfrgell y Trallwng yn ailagor yn ôl y bwriad ddydd Llun 23 Rhagfyr; yn hytrach, bydd y drysau'n ailagor ddydd Llun 6 Ionawr.

Trawsnewid clwb nos segur yn fanc bwyd a chanolfan gynghori
Mae hen glwb nos yn Llandrindod yn mwynhau bywyd newydd fel banc bwyd a chanolfan gynghori, diolch i gyllid a sicrhawyd gan Gyngor Sir Powys.