Newyddion

Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys i graffu ar braesept arfaethedig yr heddlu
Bydd praesept arfaethedig Heddlu Dyfed-Powys yn destun craffu yng nghyfarfod cyntaf Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn 2025

Cynnal cyfarfodydd cyngor ar-lein wedi cynyddu amrywiaeth y rhai sy'n gwneud penderfyniadau
Mae cynnal cyfarfodydd ar-lein wedi arwain at fwy o amrywiaeth o gynghorwyr sir etholedig ym Mhowys, yn ôl adroddiad a ysgrifennwyd gan y Ganolfan Polisi Anabledd.

Canolfan Chwaraeon Llandrindod
Mae mesurau diogelwch ataliol wedi eu cynnal ar ganolfan chwaraeon yng nghanol Powys ar ôl i nam ar yr adeilad gael ei ddynodi, mae'r cyngor sir wedi dweud

Rhyddhad Ardrethi Busnes Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch - mae dal amser i wneud cais
Mae gan fusnesau Powys yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch amser yn dal i wneud cais am gynllun rhyddhad ardrethi a fydd yn gostwng eu bil ardrethi busnes, meddai'r cyngor sir

Ydych chi'n chwilio am rywle i gadw'n gynnes?
Mae'r cyfeiriadur o fannau cynnes y gall trigolion Powys ei ddefnyddio i atal oerni'r gaeaf ac aros yn gysylltiedig â'u cymunedau bellach wedi'i ddiweddaru.

Ysgol Robert Owen
Mae'r cyngor sir wedi gwrthod honiadau y gallai diswyddiadau mewn ysgol arbennig yng ngogledd Powys arwain at greu amgylchedd anniogel i ddysgwyr a staff

Contractau newydd ar gyfer Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi Powys
Yn dilyn proses dendro gadarn, dyfarnwyd contractau newydd i reoli a gweithredu Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartrefi'r sir, mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau.

Y Cabinet i ystyried achos busnes llawn dros adeilad ysgol arbennig Newydd
Gallai achos busnes llawn i adeiladu ysgol newydd a fydd yn trawsnewid addysg ar gyfer dysgwyr sy'n agored i niwed ym Mhowys gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru os bydd Cabinet y cyngor yn rhoi sêl bendith iddo

Dweud eich dweud ar Strategaeth Adnoddau Cynaliadwy Ddrafft Powys
Mae ymarfer ymgysylltu deuddeg wythnos wedi dechrau i geisio barn trigolion, cynghorwyr, sefydliadau partner a gweithleoedd ar Strategaeth Adnoddau Cynaliadwy Ddrafft Powys y cyngor.

Ysgol Dôlafon
Mae'r cyngor sir wedi dweud y bydd ysgol gynradd ym Mhowys yn derbyn cymorth gan dîm o uwch swyddogion addysg ar ôl i arolygwyr Estyn deimlo bod angen ei gwella'n sylweddol.