Toglo gwelededd dewislen symudol

Technoleg Gynorthwyol

Croeso i fyd technoleg gynorthwyol, lle mae arloesi'n cwrdd ag annibyniaeth!

Ydych chi erioed wedi ystyried sut y gall technoleg eich cefnogi chi neu aelod o'r teulu / ffrind gyda thasgau dyddiol er mwyn gwneud bywyd dyddiol yn haws, yn enwedig yng nghysur eich cartref eich hun?

Os ydych chi'n delio gydag anabledd, yn heneiddio'n osgeiddig, neu'n syml iawn yn chwilio am fwy o hwylustod, mae technoleg gynorthwyol yn cynnig cyfoeth o atebion i ategu annibyniaeth a gwella ansawdd bywyd.

Mae cefnogi pobl i gynnal eu llesiant a'u hannibyniaeth yn greiddiol i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Ymhlith agweddau ataliol mae:

  • Rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth effeithiol
  • Cysylltu pobl â'u cymunedau
  • Canolbwyntio ar gryfderau a chapasiti unigolion.

Gall technoleg gefnogi hyn mewn ffyrdd ymarferol.

Gweler isod nifer o fideos diddorol ar offer technoleg gynorthwyol:

Dewch i gwrdd ag Emma a'i chath roboteg Chester!

Ydych chi'n defnyddio ffôn clyfar? Gallwch ddefnyddio'r ffôn i'ch atgoffa chi

Cadw llygad ar mam o ben draw'r byd.

Synhwyrydd Drws

Tracio GPS

Larwm syrthio a larwm achub bywyd

Synhwyrydd Cadair

Memrabel

Ydych chi'n barod i ddatgloi potensial technoleg gynorthwyol a chychwyn ar daith tuag at fwy o annibyniaeth ac ymreolaeth? Gadewch inni ddechrau ar fenter i'ch grymuso gyda'n gilydd a darganfod sut y gall technoleg eich cynorthwyo i siapio'r bywyd sydd gennych mewn golwg yng nghysur eich cartref eich hun.

Cyswllt

  • Ebost: cymorth@powys.gov.uk
  • Ffôn: 0345 602 7050 (8.30-4.45 Dydd Llun - Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)
  • Erbyn hyn bydd oedolion ym Mhowys sy'n fyddar neu'n colli eu clyw yn gallu cysylltu â'r cyngor am wybodaeth a chyngor ar ofal a chymorth i oedolion trwy decstio tîm CYMORTH ar 07883 307 622. (8.30-4.45 Dydd Llun - Dydd Iau a 8.30 - 4.15 Dydd Gwener)
  • Cyfeiriad: CYMORTH (Gwasanaethau i Oedolion), Pobl Uniongyrchol Powys, Neuadd y Sir, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu