Cysylltu tu allan i oriau gwaith
Os oes angen i chi gysylltu â ni am argyfwng pan fydd y swyddfa wedi cau (ar ôl 5pm, ar y penwythnos neu ar ŵyl banc), gallwch ddefnyddio'r ffurflen ar-lein ar wefan Llesiant Delta.
Caiff y ffurflen adrodd ei monitro 24/7.
Wrth lenwi'r ffurflen, rhowch gymaint o wybodaeth â phosibl i'r tîm fel y gallant ymateb yn ddi-oed.
Dim ond os oes angen y byddwn yn cysylltu â chi. Bydd hyn yn caniatáu i'r tîm flaenoriaethu adnoddau ac ymateb i argyfyngau yn gyflym.
Gallwch defnyddio gwefan Llesiant Delta i adrodd am argyfyngau y tu allan i oriau gwaith am y meysydd canlynol:
- Gwasanaethau Cymdeithasol
- Gofal Cartref
- Tai ac atgyweiriadau
- Cau Ffyrdd
- Argyfyngau Mawr
- Carthffosiaeth
- Digartrefedd
- Diogelu'r Cyhoedd
- Yr Amgylchedd a Llifogydd
Os oes angen i chi ein ffonio ni am argyfwng pan fydd y swyddfa ar gau, ffoniwch:
01597 827005 neu 0345 0544 847
01597 827464 - atgyweiriadau brys ar gyfer tai cyngor neu argyfyngau digartrefedd
I roi gwybod am argyfyngau sy'n bygwth bywyd, i roi gwybod am dân neu am drosedd sy'n cael ei chyflawni, ffoniwch 999
Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau'r cyngor ar gael ar-lein, ynghyd â manylion cyswllt ar gyfer ymholiadau nad ydynt yn rhai brys.
