Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Grant Twf Busnes

Y Cynnig

  • Grantiau rhwng £1,000 a £25,000 ar gael.
  • Bydd pob dyfarniad grant yn seiliedig ar 50% o gostau cymwys neu uchafswm o £5000 ar gyfer pob swydd *sy'n cael ei chreu a/neu £5000 y swydd *sy'n cael ei diogelu, pa un bynnag yw'r lleiaf. (Rhaid creu o leiaf un swydd newydd a/neu ddiogelu un swydd cyfwerth ag amser llawn, er mwyn cael mynediad at y grant)
  • Bydd unrhyw swyddi sy'n cael eu hawlio fel rhai a ddiogelir yn rhai a ragfynegir fyddai'n cael eu colli o fewn 6 mis i wneud y cais. Bydd angen rhoi tystiolaeth fanwl o hyn yn y cais
  • Ystyrir dwy swydd ran amser fel un cyfwerth ag amser llawn. Os ydych yn creu neu'n diogelu swydd ran amser yn unig (Isafswm o 16 awr yr wythnos) dim ond ar sail pro rata y telir y grant hy, uchafswm o £2500 ar gyfer swydd ran amser.
  • Rhaid hawlio pob swydd a grëir fel rhan o'r grant o fewn 6 mis i ddyddiad y taliad grant terfynol neu 30 Tachwedd 2024 pa un bynnag yw'r dyddiad cynharaf
  • Rydym yn annog bod pob swydd sy'n cael ei chreu gyda chymorth y grant yn cael eu talu'r Cyflog Byw Gwirioneddol. https://www.livingwage.org.uk/what-real-living-wage
  • Os yw'r busnes yn gwneud cais am unrhyw arian cyhoeddus arall megis grantiau Canol Tref, ni ellir dyblygu'r gwariant a'r allbynnau
  • Mae'n bwysig nodi bod grantiau'n cael eu talu'n ôl-weithredol, rhaid bod gan ymgeiswyr y modd ariannol i brynu'r eitem(au) yn llawn ymlaen llaw, ac yna hawlio gwerth y grant gan Gyngor Sir Powys yn dilyn y broses hawlio (gweler y telerau ac amodau yn y ddogfen hon)
  • Rhaid cyflwyno hawliadau o fewn 4 mis i dderbyn y llythyr cynnig neu erbyn 31 Rhagfyr 2024, pa un bynnag yw'r dyddiad cynharaf. I gefnogi'r llif arian, bydd y tîm grant yn ystyried cyflwyno dau hawliad, ond rhaid gofyn i'r Cyngor gytuno hyn ymlaen llaw.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu