Tenantiaid
Ry'n ni'n credu ein bod yn gallu darparu gwell gwasanaethau trwy wrando arnoch chi fel tenantiaid Cyngor Sir Powys. Ry'n ni wedi ymrwymo i roi cyfle i chi ddweud eich dweud o ran sut y bydd eich cartref yn cael ei reoli.
Helpwch ni i wella'r gwasanaeth trwy
, mynychu ein digwyddiadau a'n cyfarfodydd tenantiaid. Byddwn yn cyhoeddi dyddiadau cyfarfodydd a digwyddiadau cyn gynted ag y byddant wedi'u trefnu.Gallwch hefyd gofrestru i roi eich sylwadau fel rhan o'n Grwp Gwasanaethau Tai 100.
Dogfennau | |
---|---|
|
|
|
|
| |
Gwobrau Tenantiaid sy'n Werth y Byd
Mae Gwobrau Tenantiaid sy'n Werth y Byd wedi cael eu lansio i bwysleisio a dathlu'r gwahaniaeth positif mae tenantiaid tai Cyngor Sir Powys yn ei wneud o fewn eu cymuned leol.
Gallai'r gystadleuaeth weld tenantiaid yn cael eu gwobrwyo am fod yn gymdogion da, ymfalchïo yn eu cartrefi neu'u stadau o dai, gwneud gwaith gwirfoddol, neu am wneud mwy na sydd raid.
Gall y gwobrwyo fod ar gyfer tenant unigol neu gr?p o denantiaid gyda'i gilydd.
Gellir gwneud enwebiadau ar gyfer y gwobrwyon ar unrhyw adeg o'r flwyddyn gan gynghorwyr sir, staff tai neu denantiaid y cyngor.
Bydd enillwyr yn cael eu dewis bob yn ddeufis, gydag enillwyr unigol i dderbyn £50 mewn tocynnau rhodd, tra bydd enillwyr sy'n grwpiau yn derbyn £100 mewn tocynnau rhodd.
Am ffurflen enwebu, gan gynnwys y rheolau enwebu, cysylltwch â ni ar 01597 827464, anfonwch e-bost at engagement@powys.gov.uk neu lawrlwythwch y ffurflen .
CyswlltEich sylwadau am ein tudalennau