Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Trwyddedau eiddo

Premises licences

Os yw eich busnes yn gwerthu alcohol neu'n cynnig adloniant neu fwyd neu ddiodydd hwyr y nos, byddwch angen trwydded safle.  Efallai bydd angen trwydded safle hefyd ar gyfer digwyddiadau mawr sy'n digwydd unwaith.

Os oes gennych drwydded yn barod ac nid oes unrhyw beth wedi newid eleni, gallwch Dalu eich tâl blynyddol

Os ydych yn gwerthu alcohol, bydd angen o leiaf un unigolyn i fod yn ddaliwr trwydded personol.  Mae'n rhaid i'r unigolyn hwn gael ei enwi ar drwydded y safle fel yr unigolyn cyfrifol ac sy'n cael ei adnabod fel y Goruchwyliwr Safle Dynodedig.

Os oes gennych amod yn eich trwydded sy'n dweud bod rhaid i chi osod Teledu Cylch Cyfyng yn eich eiddo, cysylltwch â Swyddog Cyswllt yr Heddlu i gael copi o'r cyfarwyddyd diweddaraf ar Deledu Cylch Cyfyng.

Gall y bobl canlynol wneud cais am drwydded safle:

  • unrhyw un sy'n rhedeg busnes ar y safle
  • elusen
  • unrhyw unigolyn arall a ganiateir

Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hyn i wneud cais.

Oeddech chi'n gwybod: Os oes gennych ddiddordeb cyfreithiol mewn safle, gallwn roi gwybod i chi am geisiadau trwyddedu os byddwch yn rhoi gwybod i ni (o dan adran 178, y Ddeddf Trwyddedu).

Cysylltiadau

Rhowch sylwadau am dudalen yma