Strategaeth Ddigidol Powys: Gwasanaethau digidol sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf
Ein bwriad yw creu a gwella'r ffordd rydych chi fel trigolion yn gallu cysylltu â'r cyngor, fel ei fod mor gyflym a hwylus â phosibl i gael y gwasanaethau angenrheidiol.
Beth ry'n ni wedi'i wneud:
Ym mis Rhagfyr 2018, symudodd gwefan Powys yn llwyr i blatfform gwe newydd sy'n cynnig profiad hwylus, symudol ac ymatebol ar-lein.
Rydym wedi creu tair tudalen benodol i'ch helpu chi gyrraedd y gwasanaethau angenrheidiol yn gyflym ac yn hawdd, sef:
Rhoi gwybod amdano, Yn y dudalen hon, gallwch wneud pethau megis gwneud cais am fathodyn glas neu adnewyddu bathodyn, gofyn am help gan wasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion, sef CYMORTH neu gael trwydded i gerbyd masnachol neu drelar.
Cyflwyno cais, Yn y dudalen hon, gallwch roi gwybod am broblem megis golau stryd ddim yn gweithio, baw cŵn, draen wedi blocio neu gymydog swnllyd.
Talu, Yn y dudalen hon, gallwch dalu am drwydded parcio, talu treth y cyngor neu'r rhent tŷ cyngor a rhoi arian ar gyfrif cinio ysgol eich plentyn.
Rydym hefyd wedi sefydlu gwasanaeth Fy Nghyfrif. Pan fydd yn barod i weithio, byddwch yn gallu gwneud nifer o bethau gyda'r cyngor mewn un lle a dilyn hynt a helynt a statws unrhyw geisiadau rydych chi wedi'u gwneud. Gyda dros 46,000 o gwsmeriaid wedi cofrestru a gallu cynnig gwell gwasanaeth, mae lefel boddhad ein cwsmeriaid wedi codi o 68% i 80% yn ystod 2019. Byddwn yn ychwanegu mwy o opsiynau i roi gwybod neu i ofyn am wasanaethau ar bortffolio Fy Nghyfrif, gan gynnwys y gallu i roi gwybod am broblemau ar bontydd, ffyrdd, llwybrau troed a draenio. Hefyd, bydd trigolion a fanteisiodd ar y gwasanaeth casglu gwastraff o'r ardd yn gallu talu ar-lein bob blwyddyn cyn i'r gwasanaeth ailgychwyn. Beth am greu cyfrif heddiw?