Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Mae manylion llawn system archebu newydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi newydd a thaliadau am wastraff DIY ar gael ar wefan y cyngor.

Gwybodaeth Cyngor Eich cwestiynau, wedi'u hateb

Rydym wedi llunio rhestr o gwestiynau cyffredin i fynd i'r afael â chymaint o'ch cwestiynau cyffredin â phosibl. Rydym yn aml yn clywed sylwadau am sut rydyn ni'n gwario ein harian, pam mae treth y cyngor yn parhau i gynyddu, a llawer mwy. Rydym yn gobeithio bod y Cwestiynau Cyffredin hyn yn helpu i esbonio beth rydyn ni'n ei wneud a pham.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng rôl cynghorydd a rôl swyddog?

Mae cynghorwyr yn gynrychiolwyr etholedig sy'n gwneud penderfyniadau, yn gosod polisïau, ac yn cynrychioli barn y gymuned.

Maent yn gyfrifol am:

  • Gynrychioli trigolion: Gweithredu fel llais dros eu hetholwyr a mynd i'r afael â'u pryderon.
  • Gwneud penderfyniadau: Cymryd rhan mewn cyfarfodydd cyngor i wneud penderfyniadau ar bolisïau a gwasanaethau lleol.
  • Ymgysylltu â'r gymuned: Ymgysylltu â'r gymuned trwy gyfarfodydd, digwyddiadau ac ymgynghoriadau.
  • Goruchwyliaeth: Monitro perfformiad gwasanaethau'r cyngor a sicrhau atebolrwydd

Mae swyddogion, ar y llaw arall, yn cael eu cyflogi gan y cyngor i weithredu'r penderfyniadau a wneir gan gynghorwyr. Maent yn darparu arbenigedd proffesiynol a rheolaethol, yn darparu gwasanaethau, ac yn cynnig cyngor i gynghorwyr i'w helpu i wneud penderfyniadau gwybodus.

Pam mae cymaint o gynghorwyr?

Mae nifer y cynghorwyr yn cael ei bennu gan y Comisiwn Ffiniau. Mae pob cynghorydd yn cynrychioli ward neu etholaeth benodol.

Mae gan Bowys, sy'n gorchuddio chwarter Cymru, 68 o gynghorwyr. Gostyngwyd y nifer hwn i 68 yn yr etholiad diwethaf.  Beth mae cynghorwyr yn ei wneud?

Ar beth gaiff fy nhreth cyngor ei gwario?

Defnyddir y dreth cyngor i ariannu amrywiaeth o wasanaethau lleol, gan gynnwys:

  • Addysg: Mae'r Cyngor yn ariannu pob un o'r ysgolion ledled Powys yn uniongyrchol i ddarparu addysg i'n disgyblion.
  • Gofal Cymdeithasol: Gwasanaethau i'r henoed, plant, teuluoedd ac oedolion bregus.
  • Gwasanaethau Amgylcheddol: Casglu gwastraff, ailgylchu, a diogelu'r amgylchedd.
  • Trafnidiaeth: Cynnal a chadw ffyrdd, goleuadau stryd, a thrafnidiaeth gyhoeddus.
  • Tai: Cymorth ar gyfer tai cymdeithasol ac atal digartrefedd.
  • Diogelwch y Cyhoedd: Cyllid ar gyfer yr heddlu a'r gwasanaethau tân.

Darganfyddwch fwy ar - Sut mae'ch treth gyngor yn cael ei gwario

Mae gormod o staff yn gweithio i Gyngor Sir Powys

Mae gennym oddeutu 3,000 o staff yn gweithio i ddarparu'r gwasanaethau a ddarparwn, yn ogystal â'n holl staff sy'n gweithio yn ein hysgolion ledled Powys.

Ddeng mlynedd yn ôl, roedd gennym gyfanswm o 6,500 o staff, ond mae'r pwysau ariannol wedi golygu ein bod bellach yn darparu gwasanaethau gyda llai o bobl.

Mae 84% o'n staff yn drigolion ym Mhowys a dim ond 2.3% o'n staff sydd mewn rolau uwch.

Pam nad ydych chi'n gostwng cyflogau staff?          

Caiff pob swydd ei graddio, a chaiff dyfarniadau cyflog eu gosod yn genedlaethol. Mae lleihau'r bil cyflog yn golygu llai o staff, gan arwain at lai o wasanaethau cyhoeddus. Mae 84% o'n staff yn breswylwyr, eich teulu a'ch ffrindiau o bosibl.  Ni yw'r cyflogwr mwyaf ym Mhowys sy'n cefnogi'r economi leol.

Sut gwneir penderfyniadau yn y cyngor?    

Mae cyfansoddiad y cyngor yn dweud popeth wrthych chi am sut caiff y cyngor ei redeg - Cyfansoddiad y Cyngor a Llywodraethu Corfforaethol

Gwneir penderfyniadau polisi a dyraniadau cyllideb gan Gynghorwyr. Mae'r cynllun dirprwyaethau, y cytunwyd arnynt gan y Cyngor, yn pennu pwy all wario gwahanol rannau o'r gyllideb ac ar ba bwynt y mae angen gwneud penderfyniadau e.e. gan y Cabinet / y Cyngor Llawn

O ble daeth yr arian ar gyfer y llwybrau teithio llesol?

Mae'r llwybrau teithio llesol yn cael eu nodi a'u cynllunio drwy ymgynghori â rhanddeiliaid a chymunedau ac mae'r cynlluniau yn cael eu talu gan gyllid grant, megis grantiau Teithio Llesol neu Lwybrau Mwy Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru. Mae'r arian wedi'i neilltuo ac ni ellir ei ddefnyddio ar gyfer pethau eraill.

Sut cafodd cais cynllunio fy nghymydog ei gymeradwyo a fy nghais i ddim?

Mae sawl ffactor yn dylanwadu ar ganlyniad cais cynllunio, ac mae pob achos yn cael ei asesu ar ei rinweddau unigol ei hun yn unol â deddfwriaeth cynllunio cenedlaethol a lleol. Am ragor o wybodaeth, ewch i Cwestiynau Cyffredin

Mae cyllideb y cyngor yn ddryslyd. Rwy'n clywed gwahanol ffigyrau trwy gydol y flwyddyn.          

Derbyniwn wahanol fathau o gyllid, a gall y cyllid sydd ar gael amrywio trwy gydol y flwyddyn. Er enghraifft, gall cyfleoedd cyllid grant ymddangos gan Lywodraeth Cymru / Llywodraeth Ganolog ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ac fel arfer mae'r rhain ar gyfer mathau penodol iawn o waith fel gwelliannau canol trefi neu lwybrau teithio llesol.

Rydym yn adrodd trwy'r flwyddyn ar yr hyn sydd wedi'i wario mewn gwirionedd a sut mae hynny'n wahanol i'r gyllideb a ddyrannwyd i bob gwasanaeth ar ddechrau'r flwyddyn.

O ran ein cyllid craidd gan Lywodraeth Cymru sy'n ariannu swm mawr o'n gwasanaethau craidd, ni chadarnheir y cynnydd yn y dyraniad hwnnw tan fis Rhagfyr bob blwyddyn, ond ni allwn aros mor hir i gynllunio ein gwasanaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod (sy'n dechrau yn y Gwanwyn), felly amcangyfrifwn beth rydym ei angen a'r cyllid y gallwn ei gael tan hynny.

Gwahanol fathau o gyllid  

Gweler ein Llyfr Cyllideb sy'n dangos y gyllideb ar gyfer pob gwasanaeth. Cyfrifon y Cyngor

Pam ydw i'n parhau i dderbyn gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg?

Rhaid i ni gydymffurfio â Safon yr Iaith Gymraeg.

Mae'r safonau hyn yn sicrhau bod y ddwy iaith yn cael eu trin yn gyfartal, gan hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg a gwneud gwasanaethau yn hygyrch i siaradwyr Cymraeg.

Sicrhawn bod popeth a anfonwn atoch yn ddwyieithog ac yn parchu dewisiadau iaith yr holl breswylwyr.

Beth yw Powys Gynaliadwy?             

Wynebwn sefyllfa ddifrifol oherwydd materion cenedlaethol a rhyngwladol y tu allan i'n rheolaeth, felly mae'n rhaid i ni wneud newidiadau sylfaenol i'r ffordd y darparwn wasanaethau - Powys Gynaliadwy.

Rydym yn adolygu'r gwasanaethau a ddarparwn a sut maent yn cael eu darparu i ddiwallu anghenion y presennol a'r dyfodol.

Darganfyddwch fwy ar ein gwefan.  Powys Gynaliadwy

Pam ydych chi'n cau ysgolion lleol?

Fel sir wledig, mae gennym lawer o ysgolion cynradd gyda nifer isel o ddisgyblion. Mae gan rai ysgolion gyn lleied â saith disgybl, ac mae'r gost o redeg a chynnal a chadw'r ysgol yn enfawr.

Ni allwn fforddio cynnal llawer o adeiladau bach, ac mewn rhai achosion 'hen' ac nid ydynt yn darparu'r amgylchedd na'r cyfleusterau gorau i addysgu disgyblion. 

Nod ein rhaglen Trawsnewid Addysg yw sicrhau bod gan ysgolion ym Mhowys adeiladau amgylcheddol gynaliadwy sy'n ysbrydoli ac sy'n gallu darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch cymunedol ehangach.

Strategaeth

Pam mae'r cyngor yn codi tâl am barcio yn fy nhref leol?  

Os nad ydym yn codi tâl am barcio ceir, yna mae'n rhaid i'r arian i gynnal a chadw'r ddarpariaeth parcio ceir ddod allan o gyllideb y cyngor. Mae cyllideb gyfyngedig ar gyfer pob gwasanaeth, felly yn y pen draw os nad ydym yn codi tâl am barcio ceir yna byddwn yn dechrau gweld cyllid yn cael ei gymryd oddi wrth wasanaethau i blant, oedolion a phobl fregus.  Mae codi tâl ar bobl sy'n defnyddio'r maes parcio gan gynnwys ymwelwyr yn lleihau'r baich ar dalwyr y Dreth Gyngor.

Pam rydyn ni'n eich gweld chi'n gwneud gwaith ar bethau "dibwys" a chithau'n dweud nad oes gennych unrhyw arian?

Mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol gyflawni'r hyn a wnawn yn ôl y gyfraith a llywodraethau cenedlaethol.  Caiff y cyllid a dderbyniwn gan Lywodraeth Cymru ei ddarparu i wneud hyn.

Mae gennym hefyd gyfleoedd yn ystod y flwyddyn i gynnig am grantiau penodol (megis ar gyfer llwybrau teithio llesol) felly rydym yn cymryd y cyfleoedd hynny pan fyddant ar gael ond dim ond ar bethau penodol y gallwn wario'r arian hwnnw.

Pam nad yw fy miniau weithiau'n cael eu casglu?

Mae ein criwiau gwastraff ac ailgylchu yn gweithio'n galed, ym mhob tywydd, i wagio biniau bron i 70,000 o aelwydydd bob wythnos.

Weithiau nid ydym yn gallu cyrraedd pawb fel y cynlluniwyd. Gallai hyn fod oherwydd bod cerbyd wedi torri lawr, salwch staff, tywydd garw neu amodau ar y ffordd, neu weithiau parcio diystyriol ar strydoedd cul sy'n atal y lorïau mawr rhag mynd drwodd a chwblhau eu rowndiau.

Yn anffodus, yn sgil gorfod gweithredu o fewn cyllidebau tynnnid oes gennym staff na cherbydau ychwanegol i'w defnyddio yn yr amgylchiadau hyn.

Os nad yw'ch gwastraff neu ailgylchu wedi'i gasglu erbyn 5pm ar eich diwrnod casglu arferol, gwiriwch ar-lein am fanylion pryd y byddwn yn ôl: Diwrnod casglu biniau

Pam nad ydych chi'n trwsio'r ceudyllau yn y ffordd?

Mae ein ffyrdd a'n palmentydd yn cael eu harchwilio'n rheolaidd, ac mae diffygion diogelwch yn cael eu nodi ac atgyweiriadau yn cael eu trefnu.

Mae gennym hefyd ffordd gyflym a hawdd iawn i breswylwyr roi gwybod am unrhyw broblemau gyda'r ffyrdd ar-lein: Rhoi gwybod am broblem gyda ffordd neu balmant

Mae'r amserlenni ar gyfer unrhyw atgyweiriadau yn dibynnu ar ddifrifoldeb y diffyg, categori'r ffordd a'r adnoddau sydd ar gael.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu