Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Newyddion

Dilynwch Ni

Facebook (Yn agor ffenestr newydd)                             Twitter (Yn agor ffenestr newydd)                                YouTube (Yn agor ffenestr newydd)

Wythnosau olaf casglu gwastraff o'r ardd yn 2023

Dyma atgoffa trigolion a'r rhai sydd wedi cofrestru i gasglu gwastraff o'r ardd mai dim ond rhai wythnosau sydd ar ôl eleni i gasglu eich gwastraff.

Hyfrydwch yn llwyddiant Gwobrau Plant Lluoedd Arfog a noddwyd gan y cyngor

Gwelwyd cryn dipyn o lwyddiant i Bowys mewn seremoni wobrwyo, a noddwyd gan y cyngor sir, a oedd yn dathlu llwyddiannau plant y lluoedd arfog o bob rhan o Gymru.

Tyfu eich busnes gyda grant o hyd at £25k

Gallai busnesau ym Mhowys sydd â chynlluniau i ehangu neu sicrhau eu dyfodol mewn cyfnod heriol fod yn gymwys i dderbyn Grant Twf gan y cyngor sir.

Powys i elwa o grant Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol

Mae Cyngor Sir Powys wedi llwyddo i sicrhau £676,728 o Raglen Sbarduno ar gyfer Rheoli Llifogydd yn Naturiol Llywodraeth Cymru. Nod y rhaglen ddwy flynedd hon yw darparu atebion rheoli llifogydd sy'n seiliedig ar natur mewn ardaloedd lle mae perygl o lifogydd, ac mae'n dilyn y gwaith a wnaed eisoes o dan y rhaglen Rheoli Llifogydd yn Naturiol 2020-23 flaenorol.

Y cyngor i wario £5 miliwn ar welliannau digidol

Bydd mwy na £5 miliwn yn cael ei wario dros bedair blynedd ar welliannau digidol sy'n cynnig rhagor o ddewis i breswylwyr a busnesau ac a fydd yn gwneud Cyngor Sir Powys yn fwy cydnerth.

Adfer Camlas Maldwyn - ail gam y gwaith carthu ar y gweill

Mae Glandŵr Cymru, yr ymddiriedolaeth camlesi ac afonydd yng Nghymru, wedi dechrau ail gam y gwaith carthu ar Gamlas Maldwyn fel rhan o'r ymdrech i adfer y gamlas 200 oed. Y nod yw caniatáu i gychod ei defnyddio unwaith eto a diogelu'r ddyfrffordd hon o waith dyn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Powys yn cefnogi Wythnos Siarad Arian 2023

Mae Cyngor Sir Powys yn cefnogi ymgyrch sy'n annog pobl i siarad am arian.

Ymgynghoriad ar Gynllun Corfforaethol

Mae trigolion Canolbarth Cymru yn cael y cyfle i roi eu sylwadau ar Gynllun Corfforaethol Cyd-bwyllgor Corfforaethol (CJC) y rhanbarth.

Cyngor yn galw ar drigolion i gefnogi Apêl Pabi Coch y Lleng Brydeinig Frenhinol

Mae Cyngor Sir Powys yn annog trigolion i gefnogi Apêl Flynyddol Pabi Coch y Lleng Brydeinig Frenhinol a bod yn falch wrth wisgo pabi coch

Mae'r tîm caffael yn GO-falu am yr amgylchedd

Mae'r gwaith i leihau ôl-troed carbon Cyngor Sir Powys trwy newid ei ffordd o brynu nwyddau a gwasanaethau wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr genedlaethol.