Newyddion

Cwrs cymorth cyntaf brys am ddim ar gyfer beicwyr modur Powys
Cwrs cymorth cyntaf brys am ddim yw Biker Down! Cymru ar gyfer Beicwyr modur sydd am ehangu eu gwybodaeth ac ymestyn eu profiad wrth ddelio gyda digwyddiadau neu wrthdrawiadau lle mae angen cymorth cyntaf ar ochr y ffordd efallai.

Cynnal setholiad cyngor sir
Mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau y bydd is-etholiad cyngor sir yn cael ei gynnal ar gyfer ward Crughywel gyda Chwmdu a Thretŵr

Dechrau'n Deg a safle gofal plant newydd ar gyfer Aberhonddu bellach ar agor
Mae lleoliad gofal plant newydd yn Aberhonddu wedi ei agor gan Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford

Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn ystyried yr hyn a gyflawnwyd hyd yn hyn
Ar 18fed Medi, mewn cyfarfod partneriaeth rhanbarthol gyda'r nod o hyrwyddo a chynrychioli blaenoriaethau'r rhanbarth ar gyfer datblygu economaidd, trafodwyd y weledigaeth newydd ar gyfer twf economaidd yng Nghanolbarth Cymru

Gall dros 500 o gartrefi yn ardal Ceri golli allan ar fand eang gwibgyswllt
Mae trigolion a busnesau ardal Ceri'n cael eu hannog i ystyried ymuno â chynllun Openreach a all olygu fod dros 500 o eiddo'n cael mynediad at fand eang gwibgyswllt.

Cynlluniau Uchelgeisiol ar gyfer Trawsnewid Addysg yn symud ymlaen
Mae'r cyngor sir wedi dweud bod cynlluniau uchelgeisiol a allai drawsnewid addysg yn ardaloedd gogledd Powys, gan gynnwys hybu addysg Cyfrwng Cymraeg, wedi cymryd cam ymlaen ar ôl cael y golau gwyrdd gan y Cabinet.

Powys yn arwyddo siarter gwrth-hiliaeth
Cyngor Sir Powys yw'r cyngor cyntaf yng Nghymru i arwyddo Siarter Gwrth-Hiliaeth UNISON.

Bardd Plant yn ymweld â Phowys
Mae Bardd Plant DU wedi ymweld â llyfrgell yng nghanolbarth Powys, yn ôl y cyngor sir.

Agoriad swyddogol o ddatblygiad tai cyngor newydd yn y Drenewydd
Mae 18 o gartrefi sydd wedi cael eu hadeiladu fel rhan o ddatblygiad tai gwerth £3.5m yn y Drenewydd wedi cael ei agor yn swyddogol

Gofyn am farn busnesau am dirwedd sgiliau Canolbarth Cymru
Mae gan Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Canolbarth Cymru ddiddordeb yn yr hyn sydd gennych i'w ddweud am yr heriau rydych yn eu hwynebu fel busnes ac ar hyn o bryd mae'n cynnal arolwg byr, 5 munud o hyd i ddarganfod mwy am yr heriau hyn, yn enwedig o ran recriwtio sgiliau, nawr ac yn y dyfodol.