Cynllunio
Systemau draenio cynaliadwy. O 7 Ionawr 2019 bydd yna ddeddfwriaeth newydd sy'n golygu ei fod yn orfodol cael systemau draenio cynaliadwy (SuDS) ar gyfer pob datblygiad newydd sy'n cynnwys mwy nag 1 tŷ neu ddatblygiadau newydd gydag ardal adeiladu sy'n fwy na 100m2 (10m x 10m). Ewch i dudalen gwe'r Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (CCS) neu wefan Llywodraeth Cymru i wybod mwy am y ddeddfwriaeth hon.