Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfansoddiad y Cyngor a Llywodraethu Corfforaethol

Ystyr 'Llywodraethu corfforaethol' yw'r ffordd y mae'r cyngor yn cael ei redeg - sut y byddwn yn rheoli ein hunain, yn gwneud penderfyniadau, yn rhedeg ein gwasanaethau ac yn creu perthynas â'r cyhoedd.

Gweld cyfansoddiad Cyngor Sir Powys

Egwyddorion y Cyngor

  • Bod yn agored - rydym yn agored am ein dull o lunio penderfyniadau, sut y cawn ein rheoli, ac mae staff y cyngor yn agored gyda'r cyhoedd.
  • Cynhwysiant - rydym yn gwneud yn siwr bod y gymuned yn gallu ymgysylltu'n effeithiol â phrosesau penderfynu a gweithredoedd y cyngor
  • Gonestrwydd - rydym yn onest ac yn wrthrychol, yn rhoi'r cyhoedd o flaen unrhyw fudd personol ac yn rheoli arian y cyhoedd yn gyfrifol.
  • Atebolrwydd - rydym yn gwneud yn siwr bod staff y cyngor a chynghorwyr yn gyfrifol am eu penderfyniadau a'u gweithredoedd ac yn agored i graffu allanol priodol.

 

Mae llywodraethu corfforaethol da'n arbennig o bwysig yng nghyd-destun y gweithgareddau yma: 

  • Ffocws Cymunedol
  • Darparu Gwasanaeth
  • Strwythurau a Phrosesau
  • Rheoli Risg a Rheolaeth Fewnol
  • Safonau Ymddygiad

 

Ffocws Cymunedol

Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r gymuned a darparu gwasanaethau o safon uchel. I wneud hyn, byddwn yn gwneud penderfyniadau ar seiliau cadarn, yn rheoli'r risgiau sy'n ein hwynebu ac yn gofyn am y safonau ymddygiad gorau gan ein Cynghorwyr a'n swyddogion. Byddwn yn gweithio gyda'r gymuned leol ac yn gwrando ar bryderon lleol ac yn ymateb iddynt. Lle bo hynny'n briodol, byddwn yn arwain trwy hybu lles trigolion. Byddwn yn gwrando ac yn ymateb i alwadau lleol bob amser.

Byddwn: 

  • Yn ymgysylltu â'r gymuned i sicrhau ein bod yn deall beth y mae'r cyhoedd yn ei ddisgwyl gennym ac yn dangos sut rydym yn ceisio cyrraedd y nod yma.
  • Yn sicrhau ein bod yn cyfathrebu gyda phob rhan o'r gymuned, ac yn annog pawb i gymryd rhan yn ein gweithgareddau.
  • Yn gweithredu fel 'llysgenhadon' i hybu lles Powys a'i thrigolion.

 

 

Darparu Gwasanaethau

Rydym yn cydnabod bod ein trigolion, busnesau lleol a chwsmeriaid eraill yn disgwyl gwelliannau parhaus yn safon y gwasanaethau y maent yn eu derbyn.

Byddwn:

  • Yn mesur perfformiad yn wrthrychol i godi safonau.
  • Yn hyblyg ac yn ymatebol i alwadau newydd, ac yn agored i ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau.
  • Yn agored wrth i ni wneud penderfyniadau ynglyn â'r dulliau gorau o ddarparu gwasnanaethau lleol

 

 

Strwythurau a Phrosesau

Gan ein bod ni'n gyfrifol am redeg lawer o wasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw, mae'r trigolion yn disgwyl i ni wneud penderfyniadau cadarn a'u rhoi ar waith mewn modd effeithiol. 

Byddwn:

  • Yn gwneud gwahaniaeth eglur rhwng swyddogaeth a chyfrifoldebau'r staff, a swyddogaeth a chyfrifoldebau'r Cynghorwyr.
  • Yn agor gwaith y Cyngor iddo gael ei graffu'n briodol ac yn effeithiol.
  • Yn cadw a diweddaru prosesau llunio penderfyniadau agored.

 

 

Rheoli Risg a Rheolaeth Fewnol

Rydym yn gyfrifol am wario symiau mawr o arian cyhoeddus ac yn chwilio am dir ac eiddo cyhoeddus. Allwn ni ddim osgoi pob risg ond gallwn reoli'r risgiau allwn ni ddim eu hosgoi.  Hefyd, dylem ni fanteisio i'r eithaf ar gyfleon - gallai hynny olygu bod yn rhaid cymryd risg.

Byddwn:

  • Yn dod o hyd i'r risgiau a wynebwn wrth  ein gwaith, a rheoli a monitro'r risgiau hynny.
  • Yn cynnal systemau a threfniadau fydd yn rheoli risgiau, a monitro effeithiolrwydd y systemau a'r trefniadau hyn i sicrhau bod pobl yn eu dilyn.

 

Safonau Ymddygiad

Gan fod y penderfyniadau a wnawn yn effeithio ar fywydau pobl, mae'n bwysig ein bod yn gweithredu'n deg ac yn ddiduedd.

Byddwn:

  • Yn sicrhau bod cynghorwyr a staff yn gweithio i'r safonau ymddygiad uchaf.
  • Yn cynnal gweithdrefn disgyblu teg ac effeithiol i ymchwilio i honiadau o ymddygiad sy'n groes i'r safonau hyn.