Newyddion
Y Cymry Brenhinol i orymdeithio drwy'r Gelli Gandryll
Bydd catrawd y fyddin yn gorymdeithio drwy dref ym Mhowys yn ddiweddarach y mis hwn fel rhan o barêd rhyddid
Cyllid gan Lywodraeth Cymru i drawsnewid Llyfrgell Ystradgynlais
Mae'r cyngor sir wedi dweud y bydd llyfrgell yn ne Powys yn cael ei thrawsnewid diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru gwerth bron i £270,000
Llwybr Glyndŵr - gwelliannau hanfodol i'r llwybr yn dod â manteision i bawb
Mae Mis Mai yn Fis Cerdded Cenedlaethol, amser gwych i ddarganfod llwybrau cerdded niferus y Canolbarth. Yn eu plith mae Llwybr Glyndwr, Llwybr Cenedlaethol 135 milltir (217 km) o hyd, lle gall cerddwyr fwynhau'r gorau o'r Canolbarth - rhostir agored, tir amaeth tonnog, coetir a choedwig.
Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys i gwrdd â'r Comisiynydd ar 19 Mai.
Bydd Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn ceisio atebion i nifer o gwestiynau a gyflwynir i'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn ystod cyfarfod nesaf y Panel yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin, am 10.30am ddydd Gwener, 19 Mai.
Y Cyngor yn cefnogi Sioe Filwrol Aberhonddu
Mae cyfle i drigolion Powys gael cipolwg ar sut beth yw bywyd ar y rheng flaen pan fydd sioe filwrol yn cael ei chynnal yn ddiweddarach yn y mis
Cyfnod newydd yn dechrau ar gyfer Ysgol Gymraeg Y Trallwng
Mae cyfnod newydd wedi dechrau ar gyfer ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yng ngogledd Powys ar ôl i ddisgyblion a staff symud i'w hadeilad newydd yr wythnos hon
Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yn ymweld â Little Troopers
Mae grŵp o blant o ysgol gynradd yn Aberhonddu wedi dweud wrth uwch gynghorydd Cyngor Sir Powys am yr hyn y mae'n golygu iddyn nhw i fod yn Blant Milwrol
Cyngor yn ei gwneud hi'n haws i gwmniau bach gynnig am gontractau
Mae'r cyngor sir wedi dweud ei fod wedi cwblhau system gaffael newydd, sy'n ei gwneud yn haws i gontractwyr gynnig am gontractau adeiladu.
Adolygiad o Wasanaethau Cwsmer Cyngor Sir Powys
Mae Cyngor Sir Powys wedi comisiynu adolygiad cynhwysfawr o sut mae'n darparu ei wasanaethau cwsmer
Cyhoeddi pecyn tendro ar gyfer datblygiad tai cyngor
Mae pecyn tendro i adeiladu 32 o fflatiau un ystafell wely yng Ngogledd Powys wedi cael ei gyhoeddi bellach, dywed y cyngor sir