Toglo gwelededd dewislen symudol

Newyddion

Dilynwch Ni

Facebook (Yn agor ffenestr newydd)                             Twitter (Yn agor ffenestr newydd)                                YouTube (Yn agor ffenestr newydd)

Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd

Bydd llyfrgelloedd Powys yn torchi eu llewys ac yn dathlu eu rhinweddau gwyrdd yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd y mis nesaf.

Cynlluniau Ynni Ardal lleol yn cael eu cymeradwyo i gynorthwyo gweithgarwch pontio i sero net

Yn ddiweddar, mae Cynghorau Sir Ceredigion a Phowys wedi cymeradwyo eu Cynlluniau Ynni Ardal Lleol (CYALl)

Gallai 600 o gartrefi a busnesau yn Llanwrtyd golli allan ar fand eang cyflym iawn

Mae trigolion a busnesau yn ardal Llanwrtyd yn cael eu hannog i ystyried ymuno â chynllun Openreach a allai weld mwy na 600 o eiddo yn cael mynediad at fand eang cyflym iawn.

Penwythnos Agored yng Nghanolfannau Hamdden Powys

Ddydd Sadwrn 28 a dydd Sul 29 Medi, bydd Canolfannau Hamdden ym Mhowys sy'n cael eu rhedeg gan Freedom Leisure, yn llawn cyffro wrth iddynt groesawu'r gymuned leol i'w penwythnos agored, gan gynnig rhywbeth i bawb!

Terfynau cyflymder 20mya - diweddariad a chamau nesaf

Rhwng mis Ebrill a mis Awst, estynnwyd gwahoddiad gan Lywodraeth Cymru i bobl ledled Cymru i gysylltu â'u hawdurdod lleol gydag adborth ar sut yr oedd eu newidiadau i'r terfyn cyflymder diofyn cenedlaethol wedi bod yn gweithredu ar ffyrdd penodol.

Gostyngiad o 10% mewn ynni a ddefnyddir yng nghanolfannau hamdden Powys

Mae faint o nwy a thrydan sydd eu hangen i bweru canolfannau hamdden Powys wedi cael ei ostwng gan un rhan o ddeg, ar ôl i ychydig dros £1m (£1,052,028) gael ei fuddsoddi.

Croesawu ceisiadau i ysgolion uwchradd

Mae Cyngor Sir Powys wedi dweud ei fod nawr yn derbyn ceisiadau ar gyfer plant fydd yn mynd i ysgol uwchradd ym mis Medi 2025

Isetholiadau Machynlleth i'w hymladd

Bydd isetholiadau cyngor sir a chyngor tref yn cael eu hymladd ym Machynlleth fis nesaf, mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau

Banciau ailgylchu cardiau i'w tynnu ymaith fis nesaf

Yn dilyn hysbysiad ym mis Gorffennaf, bydd banciau ailgylchu cardiau yn cael eu tynnu o'r safleoedd ailgylchu cymunedol ledled y sir ym mis Hydref.

System Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy - Ydych chi wedi cael dweud eich dweud?

Mae amser o hyd i roi eich barn ar y posibilrwydd o gyflwyno'r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV) ar gyfer etholiadau'r Cyngor Sir lleol, meddai'r Cyngor Sir.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu